Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gallwn benderfynu pa gymaint o amser cyn adferiad Siarl II. y cafodd ei chorpholi. Yn ddioed ar ol adferiad y brenin gorfodwyd Jenkin Jones gan erledigaeth i ffoi o'r ardal. Cymerwyd gofal ei bobl ar ol ei ymadawiad ef gan Mr. Robert Thomas, yr hwn a droisid allan o eglwys plwyf Baglan. Efe oedd y gweinidog yn 1669 ac yn 1675, [1] a pharhaodd yn y cysylltiad hwn a'r eglwys hon yn nghyd ag eglwys Ty'rdwncyn a'u canghenau hyd ei farwolaeth tua'r flwyddyn 1693. Dywedir fod "Eglwys Llangattwg," yn ei amser cyntaf ef fel ei gweinidog, yn gynwysedig o Annibynwyr, Bedyddwyr, a gwrth-fedyddwyr, hyny yw, dynion yn gwrthwynebu pob math o fedydd dwfr, ond mae yn debygol i'r Bedyddwyr ymneillduo o honi yn hir cyn marwolaeth Mr. Thomas, ac hefyd i'r gwrth-fedyddwyr ymuno a'r Crynwyr. Cynorthwyid Mr. Thomas yn y weinidogaeth am rai blynyddau gan Jacob Cristopher a Richard Cradock. Yn amser yr erledigaeth o adferiad Siarl II. hyd Ddeddf Goddefiad cyfarfyddai gwahanol ganghenau yr eglwys mewn anedd-dai mor ddirgel ag y medrent, ac nid ydyw yn ymddangos i'r eglwys oll fod yn addoli yn nghyd trwy yr holl flynyddau hyny, oddieithr iddynt gyfarfod yn achlysurol yn 1672 a 1673, pan y caniataodd y brenin ychydig o ryddid i'r Ymneillduwyr. Yr ydym yn cael fod tŷ Robert Thomas yn Baglan wedi cael ei drwyddedu yn 1672 at bregethu ynddo a Robert Thomas ei hun wedi cael ei drwyddedu yr un dydd i fod yn bregethwr Annibynol yn ei dŷ ei hun. Yr un amser hefyd trwyddedwyd tŷ Elizabeth Morgan yn nhref Castellnedd, a thai Lewis Alward, yn Cynffyg, a Watkin Cradock yn y Dref Newydd. Rhoddwyd hefyd drwydded i Watkin Cradock[2] i fod yn bregethwr Annibynol yn ei dŷ ei hun. Ar yr 16eg o Gorphenaf, 1672, y rhoddwyd y trwyddedau hyn. Heblaw y manau a drwyddedwyd yr oedd yr eglwys wasgaredig hon yn ymgynnull mewn amryw leoedd yn mhlwyf Llansamlet, Llangafelach, a Llanguwg, ac oddiwrth y canghenau a gyfarfyddent yn y ddau blwyf olaf y cyfododd yr eglwysi yn y Gellionen a Chwmllynfell. Wedi marwolaeth Mr. R. Thomas, dewiswyd Mr. Lewis Davies o blwyf Llanedi yn ganlyniedydd iddo yn Nghastellnedd a Thy'rdwncyn a'u canghenau. Bu Mr. Davies yn cael ei gynorthwyo am dymor gan Mr. John Thomas, Aberafan, a Llewellyn Bevan, Cwmllynfell. Yr oedd Mr. Davies yn weinidog rhagorol a llafurus iawn, ac fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach, darfu iddo sefydlu cyfarfodydd holwyddori ac Ysgolion Sabbothol yn yr eglwysi dan ei ofal ugeiniau o flynyddau cyn fod son am Ysgolion Sabbothol yn gyffredin yn y wlad. Bu farw fel y tybiwn ryw bryd tua 1712, neu yn fuan ar ol hyny. Yr oedd ei gylch gweinidogaethol ef yn cyrhaedd o Blaengwrach hyd Gasllwchwr, ac o'r Drefnewydd i Gwmllynfell, ond yn fuan ar ol ei farwolaeth rhanwyd y maes; gadawyd plwyfydd Abertawy, Llanrhiadau, Casllwchwr, Llandilo Talybont, Llangafelach, a rhan o blwyf Llansamlet i gylch gweinidogaeth y Mynyddbach, a pharhaodd y parth hwnw o'r wlad o'r Drefnewydd i Gwmllynfell mewn cysylltiad a gweinidogaeth Castellnedd dros rai blynyddau.

Mewn anedd-dai, fel y crybwyllasom eisioes, y buwyd yn addoli o ddechreuad yr achos hyd ar ol marwolaeth Mr. R. Thomas. Yn 1695,

  1. The Lambeth MSS. and the Broadmead Records.
  2. Richard Cradock yw yr enw yn y Lambeth MSS. a'r Broadmead Records, ond Watkin Cradock yw yr enw yn y cofrestr o drwyddedau sydd yn y Record Office yn Llundain. Os yr un person a olygir mae yn rhaid fod yr enw wedi ei gam osod yn y naill neu y llall o'r llawysgrifau hyn, ond dichon eu bod yn ddau berson gwahanol.