Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae amryw o'i gychwynwyr wedi cael eu rhifo yn mysg y meirw, megis Joseph Rees, Cynhordy, a'i wraig; David Davies, a'i wraig; gweddw John Thomas, a Hannah Davies, a'i mherch. Dan ofal gweinidogaethol Mr. Davies, Treforis y mae yr achos hwn wedi bod o'r dechreuad, ac yr ydym yn hyderu mai dan ei ofal ef y bydd am flynyddau etto. Gan fod cyflawnder o lô yn y ddaear oddiamgylch y lle hwn, mae yn debygol y bydd yma boblogaeth fawr yn mhen ychydig flynyddau.

BIRCHGROVE.

Pentref bychan, ond yn cynyddu yn gyflym, yw Birchgrove, ar lechwedd prydferth yn mhlwyf Llansamlet, tua milldir i'r gogledd o Bethel, ac ychydig yn fwy na milldir i'r de o'r Glais. Mae wedi cael ei enw oddi wrth y fferm, ar ran o ba un y mae wedi ei adeiladu. Wrth weled y lle hwn yn cynyddu yn ei boblogaeth, darfu i Mr. J. Rees, gweinidog Canaan a Bethel, yn 1862, adeiladu ysgoldy cyfleus yma at gadw ysgolion dyddiol a Sabbothol, yn nghyda chyfarfodydd gweddio a phregethu achlysurol. Llwyddodd y gwaith da yma i gymaint o raddau fel y barnodd Mr. R. Rowlands, a'i bobl yn Bethel, mai doeth fuasai corpholi yr aelodau a breswyliant yn Birchgrove yn eglwys Annibynol, yr hyn a wnaed Hydref 18fed, 1868. Aeth yr ysgoldy yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr, ac felly penderfynwyd adeiladu capel. Cafwyd y tir ar lês o 999 o flynyddau am un pupuren yn y flwyddyn gan Mr. Smith, Birchgrove. Agorwyd y capel newydd y Sul a'r Llun, Hydref 15fed a'r 16eg, 1871. Mae yn adeilad tlws dros ben, yn mesur 36 troedfedd wrth 36 dros y muriau, ac wedi ei wneyd yr un hyd a lled mewn trefn iddo gael ei helaethu wrth ychydig o draul pan y byddo galwad am hyny. Y draul oedd rhwng 600p. a 700p. Y mae tua 200p. o'r swm hwn wedi eu talu. Mae pob sail i ddisgwyl y bydd yn fuan achos cryf iawn yn y lle prydferth hwn. Mae yr eglwys hon dan ofal Mr. Rowlands mewn cysylltiad a'r fam-eglwys yn Bethel. Bu Mr. Griffiths, Abertawy yn pregethu yn fisol yma er dechreuad yr achos hyd yn bresenol, ac y mae yn debyg o wneyd hyny etto tra y parhao ei nerth.

MAESYRHAF, CASTELLNEDD.

Yr eglwys a ymgyferfydd yn y capel hwn yw yr eglwys Ymneillduol henaf yn y parth hwn o Forganwg. Nid oes genym ddefnyddiau i roddi hanes manwl o ddechreuad yr achos. Mae yn sicr fod rhai o drigolion y dref a'r ardal hon wedi cofleidio golygiadau Puritanaidd er yn fore iawn. Yr oedd Robert Powell, yr hwn oedd yn Buritan selog, yn weinidog plwyf Llangattwg oddiar 1622, a bu yno hyd ryw amser ar ol 1649. Nis gallasai gweinidog o ddoniau, gweithgarwch, a golygiadau efengylaidd Robert Powell fod am gynifer o flynyddau mewn ardal heb ennill llawer o ddysgyblion. Dilynwyd Mr. Powell yn Llangattwg gan Mr. Jenkin Jones, ryw amser rhwng 1649 a 1660. Yr oedd Jenkin Jones, fel y gwyddys, nid yn unig yn Buritan, ond hefyd yn Ymneillduwr selog. Mae yn debyg mai efe sydd i'w ystyried fel sylfaenydd yr achos sydd yn awr yn Maesyrhaf, oblegid, "Eglwys Llangattwg" y gelwid yr eglwys hon gynt. Nis