Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM THOMAS. Ganwyd ef tua y flwyddyn 1806, yn ardal Peny. groes, sir Benfro. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr. John Evans, yn Mhenygroes, pan yn lled ieuangc. Aeth yn fuan wedi hyny i Lundain i weithio ei gelfyddyd fel saer, ac fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach, daeth o Lundain i ardal Abertawy, a dechreuodd bregethu yn y Mynyddbach. Aeth oddiyno i athrofa y Neuaddlwyd, lle y bu nes iddo dderbyn galwad o Glydach. Pan ddarfu ei gysylltiad a Chlydach tua diwedd y flwyddyn 1833, darfu iddo ef, a'r ychydig gyfeillion o lynasant wrtho, ddechreu achos yn y Glais. Yn y flwyddyn 1847, aeth i Rhymni, lle y bu am tua dwy flynedd yn dilyn ei alwadigaeth fel saer, ac yno y bu farw o'r geri marwol yn mis Medi, 1849.

Yr oedd rhyw gymysgedd rhyfedd o ragoriaethau a diffygion yn Mr. W. Thomas. Er nad oedd yn ysgolhaig nac yn feddyliwr galluog, etto, yr oedd yn dalp o ddawn byw. Ymadroddai yn rhwydd, ac yr oedd pereidd-dra ei lais yn ddigyffelyb. Yr oedd ganddo rhyw fedr diail i weithio ei hun i serchiadau pob dyn a gymerai ei lywodraethu yn fwy gan. ei deimladau na chan ei reswm. Pe buasai William Thomas yn fwy o ddyn ac yn llai o blentyn, yn ddirwestwr, yn lle bod yn ddiotwr, ac yn meddu rhyw fesur o'r difrifoldeb gofynol i'r swydd bwysig yr ymgymerodd a 'hi, gallasai fod yn un o'r gweinidogion mwyaf defnyddiol, er nad y mwyaf enwog, yn ei oes.

PANTYCRWYS.

Mae y lle hwn yn agos i flaen Cwmclydach, yn mhlwyf Llangafelach. Yn y flwyddyn 1862, adeiladwyd yma ysgoldy bychan yn mesur o fewn y muriau 23 troedfedd wrth 15. At gadw Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, a phregethu achlysurol y bwriedid ef. Cafodd y ty hwn ei agor Gorphenaf 27ain, 1862, pryd y pregethwyd gan Meistri P. Griffiths, Alltwen; R. Pryse, Cwmllynfell; J. Rees, Canaan, ac E. Owen, Clydach. Y personau fuont a'r llaw flaenaf gyda chychwyniad yr achos hwn oeddynt Mr. Thomas Davies, gweinidog yr eglwysi yn Horeb, Treforis, a Baran; Llewellyn Bevan, John Thomas, Evan Thomas, Morgan Thomas, Thomas Thomas, a'i feibion, Thomas a Stephen, yn nghyd a rhai eraill o aelodau Baran; David Davies a'i wraig, aelodau o Rydyfro, a Howell Hopkin, aelod o Glydach. Ar ol cael ty cyfarfod yn eu bardal blinodd y bobl yn fuan fyned i Baran, a manau pellenig eraill i addoli. Ni buont yn dawel nes iddynt gael eu ffurfio yn eglwys, yr hyn a wnaed yn mis Awst, 1866, gan Mr. T. Davies, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. John Howells, un o ddiaconiaid y fam-eglwys yn Baran. Ar y pryd hwnw cafodd David Davies ei neillduo yn ddiacon, a gwasanaethodd ei swydd yn ffyddlon nes iddo gael ei symud yn ddisymwth trwy ddamwain angeuol yn y gwaith.

Ar ol ffurfio yr eglwys, a chael moddion crefyddol cyson bob Sabboth cynyddodd y gynnulleidfa yn raddol fel y bu raid helaethu y ty yn 1869. Mae yn bresenol yn mesur 33 troedfedd wrth 23 y tu fewn i'r muriau, ac nid yw y ddyled sydd yn aros arno ond ugain punt. Mae rhif yr aelodau yn awr yn 65, a'r gwrandawyr tua yr un rhif, neu ychydig yn rhagor. Er nad oes fawr dros naw mlynedd er pan gychwynwyd yr achos hwn y