Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flwyddyn 1869 rhoddwyd ail fywyd i fasnach yr ardal trwy ail gychwyniad gwaith yr Ysbytty. Dygodd hyn lawer o bobl i fyw i'r lle, yr hyn a fu yn gryn gryfhad i'r achos. Daeth yma amryw ddynion da trwy lythyrau o eglwysi eraill, a chafodd niferi hefyd eu derbyn o'r byd yn ddiweddar, fel y mae yr achos yn bresenol mewn agwedd obeithiol a thra llewyrchus. Mae yr ysgol Sabbothol yn lled fywiog, yr eglwys yn cynnyddu yn barhaus, a'r gwrandawyr yn lluosogi, a'r ddyled ar y capel wedi ei symud oll hyd o fewn saith bunt a deugain. [1]

Y GLAIS.

Mae y capel hwn yn y cwr uchaf o blwyf Llansamlet, ar ymyl y ffordd sydd yn arwain o Glydach i Gastellnedd. Fel y nodasom yn hanes Clydach, dechreuwyd yr achos hwn gan nifer o aelodau Hebron, Clydach, y rhai a lynasant wrth Mr. William Thomas, pan drowyd ef o'r weinidogaeth yn y lle hwnw. Bu yr eglwys fechan hon yn ymgynnull i addoli mewn anedddy, o'r enw Cefnygarth, o'i dechreuad yn y flwyddyn 1834, hyd 1841, pryd yr adeiladwyd capel y Glais. Mr. William Thomas fu yn gweinidogaethu yma o'r dechreuad hyd y flwyddyn 1847, pryd yr ymadawodd o'r ardal. Yn 1848, rhoddwyd galwad i Mr. John Rees, mewn cysylltiad a Charmel, Llanguwg, a bu yr eglwys dan ei ofal ef hyd y flwyddyn 1853. Dilynwyd Mr. Rees yma yn yr un flwyddyn gan Mr. David Evans, mewn cysylltiad a Chlydach. Ar ymadawiad Mr. Evans, rhoddwyd galwad i Mr. E. Owen gan y ddwy eglwys yn Nghlydach a'r Glais, ac efe ydyw y gweinidog yma er y flwyddyn 1861. Gan fod y gynnulleidfa yn cynyddu bu raid tynu y capel cyntaf i lawr yn 1865, ac adeiladu yr un presenol. Mae hwn yn gapel hardd ac o wneuthuriad cadarn, cynwysa tua 400 o eisteddleoedd, ac nid oes ond ychydig o ddyled yn aros arno.

Cafodd y personau canlynol eu cyfodi i bregethu yn yr eglwys hon:D. G. Morgan. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1860. Ar ol gorphen ei amser yn athrofa Aberhonddu, ymsefydlodd yn weinidog ar yr eglwys Gymreig yn Stockton-on-Tees, lle y mae hyd yn bresenol.

Thomas J. Rees. Dechreuodd bregethu yn 1869. Mae yn bresenol yn yr ysgol gyda Mr. Jones, Penybont-ar-ogwy, yn parotoi i fyned i'r athrofa.

Mathew Griffiths. Dechreuodd ef bregethu gyda'r Wesleyaid, ond y mae er's tua dwy flynedd wedi ymuno a'r eglwys hon, ac yn bregethwr cynorthwyol derbyniol yma.

Joseph Griffiths. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1870.

Bu Richard Thomas, Danycoed; David Jones, y gof, a William Baker, yr hwn a grybwyllasom yn hanes Clydach, yn aelodau selog ac yn ddiaconiaid defnyddiol yn yr eglwys hon o ddechreuad yr achos hyd derfyn eu hoes.

Mae yr achos yma yn awr mewn agwedd lewyrchus iawn, a chan fod poblogaeth yr ardal yn debyg o gynyddu am flynyddau etto, mae yn dra sicr y bydd yma eglwys luosog iawn cyn pen nemawr o flynyddau.

  1. Llythyr Mr. Thomas, Bryn.