Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blwyddyn ar ol marwolaeth eu gweinidog parchus, rhoddodd yr eglwys hon ei hun yn 1870 o dan ofal Mr. John Jones, mewn cysylltiad a Charmel, Llanguwg, a'r Gwrhyd. Cymerasom y rhan fwyaf o'r hanes hwn o law ysgrifen Mr. Pryse, Cwmllynfell, yr hon a ysgrifenwyd ganddo lai na blwyddyn cyn ei farwolaeth.

CASLLWCHWR.

Saif y fwrdeisdref fechan hon ar lan yr afon Llwchwr, yr hon a rana rhwng siroedd Morganwg a Chaerfyrddin. Mae yn saith milldir i'r gogledd-orllewin o Abertawy, a phedair i'r de-ddwyrain o Lanelli. Fel y nodasom eisioes, mewn anedd-dy yn nhref uchaf Casllwchwr dechreuwyd yr achos sydd yn awr yn y Brynteg. Y mae Rhydymardy, lle bu yr eglwys am oesau yn addoli, a'r Brynteg lle yr addola yn awr, tua milldir a haner o dref isaf Casllwchwr. Nid oedd cymaint a hyny o ffordd i fyned i le o addoliad ond bychan yn nghyfrif yr hen bobl selog gynt, ond yn awr bernir yn ddoeth, os na cheir gan bobl fyned at yr Efengyl, fyned a'r Efengyl atynt hwy, a dichon ein bod ni yn hyn yn gweithio yn fwy effeithiol er Efengyleiddio yr holl wlad nag y gwnelai ein tadau. Yr oedd degau o bobl yn Nghasllwchwr na chymerent y drafferth i gerdded ffordd arw o fwy na milldir er mwyn gwrando yr Efengyl. Pan oedd Mr. I. Williams, yn awr o Drelech, yn fyfyriwr yn y Crwys, ac wedi hyny yn weinidog yn y Brynteg, aeth i bregethu yn achlysurol i anedddai yn Nghasllwchwr, a sefydlodd gyfarfod gweddio wythnosol yno, yn nhy Dafydd Harri, yn agos i'r fan y saif y capel yn awr. Tra y bu Mr.. Williams yn y Brynteg methwyd a llwyddo i gael tir at adeiladu capel arno. Ar ol ei ymadawiad ef i Drelech ni bu nemawr o lewyrch ar bethau yn Nghasllwchwr nes i Mr. W. Humphreys ymgymeryd a'r weinidogaeth yn y Brynteg yn y flwyddyn 1854. Ail gychwynodd ef y moddion crefyddol yn nhref isaf Casllwchwr, ac aeth pethau yn mlaen yno yn fwy llewyrchus a gobeithiol nag o'r blaen. Yn fuan deallwyd fod hen dafarndy o'r enw Hope and Anchor ar werth. Prynwyd ef gan Mr. John Evans, Bryncoch, un o ddiaconiaid y Brynteg, a rhoddodd le yn rhad i adeiladu capel ar safle yr hen dafarndy, ac felly trowyd synagog Satan yn fan i addoli y Goruchaf. Yn nechreu y flwyddyn 1857 dechreuwyd adeiladu y capel, yr hwn a elwir Horeb. Costiodd yn agos i 500p. Yn Ionawr 1858, corpholwyd eglwys ynddo o bedwar-ar-ddeg o aelodau, a ollyngesid o'r Brynteg, y Crwys, a'r Bryn, Llanelli. Pan ddechreuwyd adeiladu y capel yr oedd pob peth yn ymddangos yn obeithiol iawn, ond cyn ei orphen safodd gwaith copr yr Ysbytty, ar yr hwn yr ymddibynai y rhan fwyaf o'r trigolion am eu cynaliaeth. Y canlyniad fu i luaws symud o'r ardal, fel nad oedd ond ychydig iawn wedi eu gadael i fyned a'r achos mlaen ar ol cael y capel yn barod. Felly ymdaenodd cwmwl du dros yr ardal ar gychwyniad yr achos. Pa fodd bynag, gweithiodd Mr. Humphreys, a'r ychydig bobl a adawyd yn yr ardal, yn egniol, a chadwyd yr achos yn fyw er pob anfantais. Yn mhen tua thair blynedd, sef yn 1861, rhoddodd Mr. Humphreys ofal Casllwchwr i fyny er mwyn rhoddi rhan o'i lafur at gyfodi achos yn Nghwmbwrla, a chanlynwyd ef yn Nghasllwchwr gan Mr. J. Thomas, Bryn, y gweinidog presenol. Mae Mr. Thomas wedi bod yn llwyddianus iawn yma o'r flwyddyn 1861 hyd yn bresenol. Yn y