Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddieithr ambell bregeth achlysurol mewn anedd-dai. Yn y flwyddyn hono torodd diwygiad crefyddol grymus allan trwy yr holl wlad, a chafodd yr ardal hon, yn mysg ardaloedd eraill, ran o'r gawod fendithiol, ac ymunodd amryw o'r ardalwyr a'r eglwysi yn Baran, yr Alltwen, a Charmel Llanguwg. Tua yr amser hwn daeth William Hopkin i fyw i'r ardal, a bu yn offerynol i gael gan yr ychydig frodyr yn y gymydogaeth i osod i fyny gyfarfod gweddi bob nos Sabboth. Enwau y brodyr a unasant yn y gwaith da hwn gyda W. Hopkin oeddynt Howell Llewellyn, Evan Howell, Job Morgan a'i fab, Thomas Howell, Llewellyn William, a Dafydd Morgan; ac yn fuan wedi hyny ymunodd Owen Evans a hwy. Yr oedd hefyd yn eu mysg rai gwragedd rhagorol megis Catherine Llwyd, Margaret Edwards, a gwraig Hopkin Harry. Yn fuan ar ol hyn cafwyd pregethu lled gyson yn yr ardal. Byddai y naill neu y llall o'r pregethwyr ieuangc o ysgol Mr. Howells, Baran, yma agos bob nos Sabboth. Coffeir yn barchus am ffyddlondeb Mr. W. Williams, yn awr o Hirwaun, a Mr. John Jones, yr hwn a ymfudodd i'r America, yn ymweled a'r ardal hon pan yr oeddynt yn ysgol Baran. Wedi i bethau fod mewn agwedd lewyrchus iawn am dymor yma cyfododd ysbryd ymfudo yn yr ardalwyr, ac aeth amryw o'r crefyddwyr ffyddlonaf o'r ardal hon i'r America, a bu y cyfarfod gweddi yn agos i farw ar ol eu colli. Ond trefnodd Rhagluniaeth yn garedig i ragflaenu hyny trwy arwain hen frawd ffyddlon a nodedig o wresog o'r enw Dafydd Jones i fyw i felin Gelligron, tua y flwyddyn 1832. Bu ef yn foddion, nid yn unig i adfywio y cyfarfod gweddi, ond hefyd i gychwyn ysgol Sabbothol yn yr ardal, yr hon a fu o fendith ddirfawr i'r ieuengctyd ac eraill. Effeithiodd yr ysgol i luosogi y cynnulleidfaoedd a ddeuent i'r cyfarfodydd gweddio ac i wrando y pregethau, a theimlid fod yr anedd-dai yn anghyfleus iawn, yn enwedig at gynal yr ysgol. ngwyneb hyn aed i feddwl a siarad am adeiladu ysgoldy bychan at gadw yr ysgol, a moddion crefyddol eraill, ar brydnawn a nos y Sabboth, ond ni fwriedid llai na myned i fyny i Baran bob bore Sabboth. Penodwyd William Hopkin, Godregarth, ac Owen Evans, Llwynmudw, i fyned trwy yr ardal i gasglu addewidion at yr ysgoldy. Cawsant dderbyniad caredig ac addewidion mwy haelionus nag a ddisgwylient yn mhob man. Wedi galw yn mhob ty yn y Fro, aethant i'r Mynydd-dir, yn nghymydogaeth Baran, ar yr un neges, ond yn lle cymorth, sarugrwydd a gawsant gan mwyaf yno, am yr ofnid y buasent ar ol cael ysgoldy yn llwyr ymadael a'r fam eglwys, Darfu i angharedigrwydd pobl Baran, yn lle rhagflaenu ymadawiad pobl Rhydyfro, ei gyflymu. Pan welodd pobl y Fro fod pobl y Mynydd-dir yn wrthwynebol iddynt, yn lle adeiladu ysgoldy, fel y bwriadent, adeiladasant gapel o werth £320, heb un oriel ynddo. Dechreuwyd adeiladu yn y flwyddyn 1843, ac wedi gorphen y gwaith ymadawodd tua deugain o'r aelodau o Baran, a chorphelwyd hwy yn eglwys Annibynol ar y 10fed dydd o Ionawr, 1844. Cymerodd Mr. Pryse, Cwmllynfell, yr hwn yn flaenorol oedd yn weinidog yr eglwys yn Baran, ofal y gangen hon, a pharhaodd ei gysylltiad a hi fel eu gweinidog hyd derfyn ei oes. Llwyddodd yr achos yn rhyfeddol dan ei ofal ef, fel yr oedd yr eglwys flynyddau cyn ei farwolaeth yn fwy na chant o aelodau, yr hyn oedd yn nifer fawr i ardal gyfyng a chymharol deneu ei phoblogaeth. Mae oriel wedi ei gosod yn y capel er's blynyddau bellach, y fynwent wedi cael ei harddu, a thy capel cyfleus wedi ei adeiladu yn ymyl, a'r cwbl yn ddiddyled. Wedi byw ar weinidogaeth achlysurol am oddeutu