Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adu capel iddynt a'u cynorthwyo i dalu am dano; ond yr oedd y cyfeillion yn y lle yn teimlo eu bod yn rhy wan ar y pryd i ymgymeryd a'r anturiaeth. Yn fuan wedi hyn daeth Mr. William Humphreys, Cadle, heibio y gymydogaeth, a dywedodd wrthynt fod yn rhaid iddynt gael capelac heb ymdroi dim aeth i Abertawy, a gyrodd werth yn agos i haner can' punt o goed at adeiladu capel newydd. Dechreuwyd ar y capel yn y flwyddyn 1859, ac yr oedd yn barod y flwyddyn ganlynol, ac agorwyd ef Mehefin 24ain a'r 25ain, 1860. Yr oedd holl draul ei adeiladaeth yn 422p. 14s. 3c. Yn nechreu y flwyddyn 1861 rhoddwyd galwad i Mr. John Bevan e Maesteg, yr hwn oedd yn yr ysgol gyda Mr. J. B. Jones, B.A., Penybont, ac urddwyd ef Mawrth 21ain, 1861. Y gweinidogion a gymerasant ran yn y gwasanaeth oeddynt y Meistri J. B. Jones, B.A., Penybont; J. Davies, Cwmaman; J. Joseph, Llanedi; T. Llewelyn, Mountainash; J. Thomas, Bryn; W. Rees, Maesteg; H. Evans, Penbre; J. Ll. Jones, Penclawdd; D. Rees, Llanelli; W. Humphreys, Cadle; J. Jones, Maesteg, a J. Daniel, Mynyddbach. Mae Mr. Bevan wedi llafurio yma er hyny hyd yn awr; ac y mae yr achos er dan lawer o anfanteision wedi myned rhagddo. Mae yr holl ddyled oedd ar y capel a'r ysgoldy sydd yn nglyn ag ef wedi ei thalu er's pedair blynedd. Mae prydles y capel yn fil ond un o flynyddau, am chwecheiniog yn y flwyddyn o ardreth. Mae pob peth yn myned yn mlaen yn gysurus.

Codwyd yma un pregethwr, sef John D. Williams. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1864, a bu am naw mis yn yr ysgol gyda Dr. E. Davies, yn Abertawy, yn parotoi ar gyfer un o'r athrofeydd; ond dyryswyd ei holl amcanion-bu farw Mehefin 4ydd, 1866, a chladdwyd ef yn Waunarlwydd. Yr oedd yn fachgen ieuangc gobeithiol, ac yn cael ei barchu gan bawb a'i hadwaenai. Y mae agos yr holl rai ag oedd yn dwyn sel dros yr achos yn ei gychwyniad wedi myned at eu gwobr. Bu farw David Griffiths, Cefngorwydd, Mehefin 22ain, 1857. Yr oedd ef yn wr mawr yn Israel; bu yn ddefnyddiol iawn am flynyddau yn y Crwys— a'i dŷ yn gartref i weision yr Arglwydd. Benjamin George, yr hwn a fu farw Tachwedd 9fed, 1861, oedd ddyn da a ffyddlon iawn gyda'r achos y lle. Thomas Walters, yr hwn a fu farw Medi 26ain, 1866, oedd yn un o'r pedwar diacon a neillduwyd ar ddechreu yr achos yn y lle. Mae Thomas Thomas hefyd wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Teimlodd yr eglwys golled fawr ar ol y brodyr uchod, ond y mae yr Arglwydd wedi codi eraill i lanw eu lle.

RHYDYFRO.

Pentref bychan tua milldir a haner o Bontardawy, ar y ffordd sydd yn arwain oddiyno i Langadog, yw y lle hwn. Yn mhlwyf Llanguwg y mae. Nid oedd y gymydogaeth hon ychydig flynyddau yn ol ond lled deneu ei phoblogaeth, ac anghyfleus i'r ychydig drigolion i fwynhau breintiau crefyddol; ond er hyny yr oedd amryw bobl grefyddol yn byw yn yr ardal o oes i oes er's ugeiniau o flynyddau. Y Gellionen oedd addoldy yr ardalwyr hyn cyhyd ag y parhawyd i bregethu athrawiaeth efengylaidd yno. Wedi adeiladu capel Baran yn 1805, yno y byddai y rhan fwyaf o honynt yn cyrchu. O'r pryd yr adeiladwyd Baran hyd y flwyddyn 1828, nid oedd un math o foddion crefyddol yn cael eu cynal yn ardal Rhydyfro,