Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o fewn llai na blwyddyn i amser ei farwolaeth, pryd y rhoddodd yr eglwys hon i fyny, ac y cyfyngodd ei lafur i'r Brynteg a Chwmbwrla. Yn y flwyddyn 1866, gan fod y capel a adeiladwyd yn 1840 wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, tynwyd ef i lawr ac adeiladwyd un llawer helaethach a harddach. Mae y capel presenol yn cynwys tua 600 o eisteddleoedd. Yn niwedd y flwyddyn 1869 rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. W.H. Thomas, Fochriw. Y mae Mr. Thomas a'r eglwys yn cyd-dynu yn ddymunol, a'r gwaith da yn myned rhagddo yn llwyddianus. Trwy ymdrech egniol y gweinidog, a chydweithrediad y gynnulleidfa a'r gymydogaeth, yn nechreu y flwyddyn hon (1871) adeiladwyd ysgoldy cyfleus ar yr ochr ogleddol i'r heol gyferbyn a'r fynwent, at gadw ysgol ddyddiol anenwadol, ac y mae y sefydliad hwn yn sicr o fod yn fendith fawr i blant yr ardal. Gan fod y ddaear am filldiroedd yn mhob cyfeiriad oddiamgylch y lle hwn yn llawn glo, mae y boblogaeth yn sicr o gynyddu yn ddirfawr yma yn dra buan, ac y mae yn hyfryd meddwl fod eglwys gref a gweithgar yn y lle ar gyfer y cynydd sydd yn ei aros. Mae yr aelodau yn bresenol yn agos i ddau cant a haner o rif.

GWAUNARLWYDD.

Saif y lle hwn yn ymyl Gower Road Station, o fewn chwe' milldir i Abertawy. Glowyr ac amaethwyr yw y trigolion. Ugain mlynedd yn ol nid oedd ond dau neu dri o dai yn yr holl gymydogaeth, heblaw yr amaethdai oedd yma ac acw. Yn y flwyddyn 1833, dechreuwyd ysgol Sabbothol yn nhy John Lewis, Dilledydd, a elwir Wern, gan gyfeillion o'r Crwys. Y rhai mwyaf blaenllaw oedd David Griffiths, Cefngorwydd, a'i deulu; John Lewis, gwr y tŷ; John Higgs, Saer; Thomas Bowen, amaethwr; Evan Morris, hynaf, Evan Morris, ieu.; George Williams, Vexe Fach; Thomas Gibbs, Cefngorwydd Fawr, a John Thomas, Tygwyn. Bu yr ysgol yn y Wern ac yn Cefngorwydd am flynyddau lawer yn flodeuog iawn. Yn mhen blynyddau wedi dechreu yr ysgol hon gan bobl y Crwys, dechreuodd pobl Cadle ysgol mewn cwr arall o'r gymydogaeth. Yr oedd gweithiau glo yn awr yn dechreu cael eu hagor, tai yn cael eu hadeiladu, a'r boblogaeth yn cynyddu. Bu yr ysgol ddiweddaf a nodwyd yn symud o dŷ i dŷ, ac o'r diwedd unwyd y ddwy ysgol yn un. Yn fuan ar ol hyny cymerwyd tir i adeiladu ysgoldy, gan Mr. Henry Griffiths, Bryn Dafydd. Yr oedd Mr. Griffiths wedi prynu y tir a elwir Gwaunarlwydd gan yr Arglwydd Faenorydd (Lord of the Manor), a dyna paham y gelwir y lle ar yr enw uchod. Cymerwyd y tir Medi 29ain, 1852, ac adeiladwyd ysgoldy arno, a gwnaed hyny yn rhad iawn trwy garedigrwydd y cymydogion yn gweithio ac yn cludo defnyddiau ato. Y rhai mwyaf blaenllaw gyda'r gwaith heblaw Mr. John Evans, gweinidog y Crwys, oeddynt James Morris, hynaf, James Morris, ieu.; David Griffiths, Cefngorwydd; Thomas Bowen, Thomas Walters, Vexe Fawr; Benjamin George, Thomas Walters, Thomas Morgan, Heolyfelin, a William Thomas. Yn Gorphenaf 1858, corpholwyd yma eglwys gan Mr. John Ll. Jones, Crwys, a neillduwyd Thomas Bowen, James Morris, John Davies, a Thomas Walters, yn ddiaconiaid. Rhif yr aelodau oedd deg-ar-hugain. Yn mhen oddeutu blwyddyn rhoddodd Mr. Jones eu gofal i fyny; ond nid cyn cynyg adeil-