Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweinidog i'r gynnulleidfa, ac ni chafodd y gobaith hwnw ei siomi. Yn nechreu y flwyddyn 1870 symudodd Mr. Jones yma o Lundain. Mae ei weinidogaeth wedi llwyddo i orlenwi y capel helaeth o wrandawyr cyson. Mae tua mil o bobl yn ei wrandaw agos bob Sabboth trwy y flwyddyn. Mae casgliadau yr eglwys a'r gynnulleidfa yn y ddwy flynedd ddiweddaf wedi dyfod i fyny i'r swm anrhydeddus o dros un cant ar ddeg o bunau yn y flwyddyn. Os parha yr Arglwydd i wenu ar yr achos hwn, fel y mae wedi gwneyd o'i gychwyniad hyd yn bresenol, bydd yr eglwys hon yn fuan yn un o'r rhai mwyaf llewyrchus, cyfoethog, a dylanwadol yn y deyrnas. Teimla ysgrifenydd yr hanes hwn, fel yr un fu a'r llaw flaenaf ganddo yn nghychwyniad yr achos newydd a llwyddianus yma, ei rwymau neillduol i'w frodyr ffyddlon yn y weinidogaeth, Mr. E. Griffiths, Mr. B. Williams, Mr. F. Samuel, a'r diweddar Mr. W. Humphreys, yn nghyd a'r Meistri W. Harries, John Prust, J. B. Pritchard, a D. Isaac Davies, a chyfeillion eraill yn y dref, am y cymhorth a'r calondid a roddasant iddo yn yr anturiaeth bwysig. Yr ydym oll yn awr, ar ol blynyddau o lafur a phryder diattal, yn alluog i ddyweyd, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen."

CADLE.

Mae y capel ar ben y tair milldir o dref Abertawy, ar ymyl y ffordd sydd yn arwain i Lanelli a Chaerfyrddin. Gan fod yr ardal hon yn y canol rhwng yr hen gapeli yn y Mynyddbach, yr Ysgetty, a Rhydymardy, ac o fewn tair milldir i bob un o honynt, mae yn sicr fod amryw aelodau perthynol i bob un o'r lleoedd hyn yn preswylio yma er cychwyniad yr achos yn mhob un o'r cyfryw leoedd, ond ymddengys mai aelodau o'r Mynyddbach oeddynt yn fwyaf lluosog yma o oes i oes. Buont am ugeiniau o flynyddau yn cadw moddion crefyddol agos bob nos Sabboth ac ar nosweithiau o'r wythnos, yn y Wigfach, tŷ John Knoyle, ac anedd-dai eraill. Yn y flwyddyn 1838, pan ddechreuodd pethau fyned yn annymunol yn y Mynyddbach oherwydd y gweinidog Mr. Isaac Harries, penderfynodd yr aelodau a breswylient yn ardal Cadle ymneillduo o'r fam eglwys ac ymffurfio yn eglwys ar eu penau eu hunain. Rhoddwyd llythyrau gollyngdod i tua thriugain o honynt, a chawsant eu corpholi yn eglwys, Ionawr 13eg, 1839. Cymerwyd rhan yn ngwasanaeth y cyfarfod gan y Meistri J. Evans, Crwys; D. Jones, Clydach, ac E. Griffiths, Abertawy. Buont yn addoli mewn tŷ-anedd nes i'w capel gael ei agoryd yn 1840. Bethlehem yw yr enw a roddwyd ar y capel. Yr oedd hwn yn dy prydferth a chyfleus, ac yn cynwys tua phedwar cant o eisteddleoedd; a mynwent helaeth o'i amgylch. Mr. David Jones fu y gweinidog yma mewn cysylltiad a Chlydach er amser corpholiad yr eglwys hyd ei farwolaeth ddisymwth yn Ionawr 1845. Wedi hyny buont dan ofal Mr. Thomas, Glandwr, hyd 1851, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. William Humphreys, yr hwn a urddwyd yma Chwefror 11eg a'r 12ed yn y flwyddyn hono. Gweinyddwyd yn nghyfarfodydd yr urddiad gan y Meistri J. Evans, Crwys; J. Rees, Canaan; T. Jones, Treforis; T. Thomas, Glandwr; J. Davies, Cwmaman; T. Davies, ac E. Jacob, Abertawy; T. Rees, Cendl, a J. Davies, Llanelli, Brycheiniog. Bu Mr. Humphreys yn llafurio yma gyda llwyddiant nodedig mewn cysylltiad a'r Brynteg a Chwmbwrla, hyd