Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dwy flynedd yn cynllunio ac yn casglu arian ac addewidion. Yn y cyfamser, ar anogaeth yr haelionus Mr. S. Morley, A.S., darfu i T. Rees gymeryd y Music Hall at bregethu a chadw ysgol Sabbothol, er casglu cynnulleidfa barod i fyned i'r capel newydd pan orphenid ef. Telid punt yr wythnos am wasanaeth y Music Hall, ond addawodd Mr. Morley 50p. y flwyddyn, a Mr. Jupe 10p., at gynorthwyo y gynnulleidfa newydd i ddwyn y draul. Ar y Sabboth cyntaf yn Ionawr 1867, pregethodd T. Rees yn y Music Hall yn y prydnawn a'r hwyr, i gynnulleidfaoedd lluosog o Saeson. O hyny allan cafwyd gweinidogion enwog o Loegr a Chymru i bregethu yno bob Sabboth. Nos Wener, Mawrth 8fed, 1867, cynaliwyd cyfarfod dan lywyddiaeth T. Rees, er corpholi eglwys. Ar y pryd rhoddodd lythyrau i ddeuddeg o aelodau yr eglwys yn Ebenezer i ddyfod i'r Music Hall i gychwyn yr achos newydd; daeth Mr. Richard Prust a'i wraig trwy lythyrau yno o Heolycastell; derbyniwyd hefyd ar y pryd unarddeg eraill, wyth o ba rai na fuasent yn aelodau erioed o'r blaen. Felly rhif y cymmunwyr y waith gyntaf oedd saith-ar-hugain. Y nos Sabboth canlynol, pregethodd T. Rees a gweinyddodd swper yr Arglwydd i'r eglwys ieuangc yn cael ei gynorthwyo gan Mr. D. Jones, B.A., Merthyr. Ar y pryd dewiswyd gweinidog Ebenezer yn weinidog i'r eglwys hon, a pharhaodd yn y cysylltiad hwn nes i Mr. Jones, y gweinidog presenol, ymsefydlu yma. Aeth yr achos rhagddo yn llwyddianus o fis i fis fel yr oedd rhif yr aelodau erbyn fod y capel newydd yn barod yn agos i gant.

Yn haf y flwyddyn 1868, cytunwyd a'r Meistri Thomas, Watkins, a Jenkins, adeiladwyr, Abertawy, am adeiladu y capel yn ol cynllun y Meistri Paull a Robinson, Manchester. Maint yr adeilad yw 96 troedfedd wrth 50 o fewn y muriau. Mae yr addoldy hwn, yn ol ei faint, yn un o'r capeli harddaf, cadarnaf, a mwyaf cyfleus yn y deyrnas. Costiodd o gwbl tua £5850. Casglodd T. Rees o'r swm hwn dros dair mil o bunau, yn benaf yn mysg y Saeson yn Lloegr. Rhoddodd Mr. S. Morley 700p., Mr. John Crossley 350p., Mr. C. Jupe 200p., Mr. H. O. Wills 100p., a Syr Titus Salt 100p. Mae etto tua 2400p. o ddyled yn aros. ond gan fod y gynnulleidfa mor luosog, cyfoethog, a haelionus, bydd y geiniog olaf wedi ei thalu yn dra buan. Eleni adeiladwyd ysgoldy eang yn ymyl y capel, yr hwn a gostiodd 800p., ac yr ydym yn deall fod y swm hwn agos oll wedi ei gasglu eisioes.

Pan orphenwyd y capel newydd cynaliwyd nifer o gyfarfodydd agoriadol nad ant yn fuan yn anghof gan drigolion y dref a'r gymydogaeth. Awst 26ain, 1869, pregethwyd yn y bore gan Mr. Thomas Jones, y pryd hwnw o Lundain, i dorf ddirfawr o wrandawyr. Yn hwyr yr un dydd pregethodd Mr. W. Cuthbertson, B.A. Awst 31ain a Medi 1af, traddodwyd pregethau Cymreig gan Dr. W. Rees, Liverpool, a Mr. J. Davies, Caerdydd. Ar y Sabboth, Medi 5ed, pregethwyd y bore a'r hwyr gan Dr. Halley, Llundain; a'r Sabboth canlynol pregethwyd yn y bore gan Mr. Thomas Binney, ac yn yr hwyr gan Mr. LI. D. Bevan, Ll.B. Nos Lun, Medi 13eg, diweddwyd y cyfarfodydd agoriadol, â chyfarfod cyhoeddus dan lywyddiaeth S. Morley, Ysw., A.S. Yn y cyfarfod hwn darllenwyd papyr ar hanes yr ymdrech i gyfodi achosion Saesonig yn Abertawy, gan Mr. B. Williams, Canaan, a thraddodwyd areithiau cynhyrfus gan H. Richard, Ysw., A.S., Dr. Halley, Mr. Binney, Mr. Bevan, Dr. Rees, ac eraill.

Yr oeddid yn gobeithio er pan ddechreuwyd adeiladu y capel y llwyddesid, pan gawsid ef yn barod, i gael gwasanaeth Mr. Thomas Jones fel