Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Griffiths, F. Samuel, T. Rees, ac eraill o weinidogion y dref. Yn Ebrill 1861, symudodd Mr. J. Thomas yma o Dredegar, ac y mae yn parhau i lafurio yma ac ar y Sandfields. Am y ddwy flynedd gyntaf ni bu llafur Mr. Thomas yma mor llwyddianus ag y disgwyliasai ef a'i gyfeillion iddo fod, oherwydd rhyw amgylchiadau anffafriol, ond er's yn agos i flwyddyn bellach mae yr Arglwydd yn ymddangos fel yn gwenu yn neillduol ar y lle, a rhai degau wedi cael eu hychwanegu at yr achos. Mae rhif yr aelodau yn bresenol tua haner cant, ac y mae pob sail i obeithio pan y ceir yma gapel newydd y ceir ychwanegiad mawr at yr eglwys a'r gynnulleidfa. Mae yma ysgol Sabbothol lewyrchus er dechreuad yr achos.

Y SANDFIELDS.

Y rhan isaf o dref Abertawy a elwir wrth yr enw hwn. Mae yn y rhan hon o'r dref o saith i wyth cant o anedd-dai gweithwyr, a thebygolrwydd yr adeiledir yma lawer yn ychwaneg yn dra buan. Yn y flwyddyn 1866 cymerodd Dr. Rees, ddarn o dir ar les o 499 o flynyddau gan E. M. Richards, Ysw., A.S., a'i frodyr, ac adeiladodd arno ysgoldy, o'r un faint a'r un cynllun a'r ysgoldy yn Fabian's Bay, yn y flwyddyn 1867. Y mae etto ddigon o dir o flaen yr ysgoldy at adeiladu capel pan y bydd galwad am dano. Pan orphenwyd yr adeilad dechreuwyd cadw ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol yma gan weinidog a rhai o aelodau eglwys Ebenezer. Pan ddaeth Mr. J. Thomas yma o Dredegar yn 1868, rhoddwyd gofal y lle iddo ef. Corpholodd eglwys yma, a thrwy ei lafur ef a'i briod, yn nghyd a llafur dibaid Mr. Julias Smith, un o aelodau yr eglwys yn Walter Road, gyda yr ysgol Sabbothol, y mae yma eginyn achos yn cael ei gadw yn fyw, ac yr ydym yn gobeithio nad yw yr amser yn mhell pryd y gwelir yma eglwys gref a lluosog o'r dosbarth gweithiol o'r bobl. Yn yr iaith Saesonaeg yn unig y dygir y gwasanaeth yn mlaen yn y lle hwn. Traul adeiladaeth yr ysgoldy hwn oedd 278p., a thalwyd am dano o'r arian a gasglwyd gan Dr. Rees at adeiladu capeli Saesonig yn Abertawy.

WALTER ROAD, ABERTAWY.

Un o brif ddybenion T. Rees wrth symud o Cendl i Abertawy yn 1862, oedd gosod ei hun mewn amgylchiadau mwy manteisiol i wneyd rhywbeth yn effeithiol er helaethu dylanwad yr enwad Annibynol yn mysg Saeson y dref fawr a chynyddol hon. Yn y flwyddyn 1865 cymerodd ef a'r diweddar David Davies, masnachydd coed, ddarn o dir cyfleus yn Walter Road at adeiladu capel. Yna cawsant gan weinidogion, a rhai lleygwyr, yn y dref a'r gymydogaeth, i ymffurfio yn bwyllgor er cynllunio mesurau i fyned yn mlaen a'r adeiladaeth. Wedi cael addewidion am symiau da o arian gan Samuel Morley, Ysw., A.S., John Crossley, H. O. Wills, a C. Jupe, Ysweiniaid, a rhai Saeson haelionus eraill, penderfynwyd ceisio gan H. O. Wills, Ysw. i osod i lawr gareg sylfaen y capel newydd, yr hyn a wnaeth yn ngwydd torf fawr o edrychwyr yn Medi 27ain, 1866. Gan nad oedd etto ddigon o arian mewn llaw nac mewn addewid i gyfiawnhau y pwyllgor i fyned i gytundeb ag adeiladydd, gadawyd y gwaith i aros ar ol adeiladu y muriau o'r sylfaen at wyneb y ddaear. Ar ol hyn buwyd am tua