Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rodborough; B. Williams, Canaan; W. Morgan, Caerfyrddin; E. Griffiths, Abertawy; E. Owens, Clydach, ac eraill. Gan fod yr eglwys yn ychydig o rif a gwan addawodd eglwysi y dref a'r gymydogaeth roddi iddynt ychydig gynorthwy i wneyd i fyny gyflog y gweinidog am beth amser. Bu Mr. Jones yn llafurio yma, ond heb gael ei galonogi gan nemawr o lwyddiant, hyd nes yr ymfudodd i'r America yn 1870. Oddiar ei ymadawiad ef y mae gweinidogion y gymydogaeth, yn nghyd a'r brodyr W. Thomas a W. Harris, y rhai sydd yn aelodau yn y lle, yn llenwi lle gweinidog sefydlog. Gwan a lled ddilwyddiant y mae yr achos hwn wedi bod er y dechreuad, ond y mae yr ychydig bobl sydd yma mor ffyddlon, haelionus, ac ymdrechgar ag unrhyw eglwys yn y Dywysogaeth. Costiodd y capel, heblaw llogau y ddyled, 600p., ac y mae yr ychydig frodyr a chwiorydd sydd yma wedi tynu y swm hwn i lawr i 350p., heb gael ond y peth nesaf i ddim o gymhorth y tu allan i'w hardal. Pe byddai llawer o eglwysi lluosog Cymru yn cyfranu yn ol eu rhif fel y bobl hyn byddai ganddynt filoedd yn flynyddol i'w rhoddi at achosion cyhoeddus. Yr ydym yn hyderu y ca yr ychydig ffyddloniaid yn y lle hwn eu talu yn dda am eu ffyddlondeb trwy gael byw i weled y bychan wedi myned yn fil a'r gwael yn genedl gref.

FABIAN'S BAY.

Un o faesdrefi mwyaf cynyddol Abertawy, ar y tu dwyreiniol i'r afon, yw y lle hwn. Mr. Rees, Canaan; Mr. Griffiths, Abertawy; Mr. Jones, Heolycastell, a Dr. Evan Davies fu a'r llaw flaenaf yn nghychwyniad yr achos hwn yn y flwyddyn 1861. Wedi cael allan fod mwyafrif dirfawr trigolion y gymydogaeth yn siarad yr iaith Saesonaeg, ac i raddau mawr yn anwybodus o'r Gymraeg, barnasant fod yma angen achos Saesonig. Cymerwyd anedd-dŷ yn y gymydogaeth at gadw ysgol Sabbothol a moddion crefyddol eraill, ac yn mhen ychydig corpholwyd yno eglwys. Cymerwyd tir mewn man cyfleus at adeiladu addoldy, ac yn nechreu y flwyddyn 1862 adeiladwyd ysgoldy cyfleus ar ddarn o'r tir, yn cynwys 235 o eisteddleoedd, ac esgynlawr cyfleus i'r pregethwr i sefyll arno. Gadawyd digon o dir o flaen yr ysgoldy i adeiladu y capel heb gyffwrdd a'r adeilad hono. Aeth traul yr adeiladaeth, rhwng llogau a phethau eraill, tua 400p. Trwy ymdrech yr eglwys fechan, yn cael ei chynorthwyo gan yr eglwysi yn y dref a'r ardal, yr oedd y ddyled erbyn diwedd y flwyddyn ddiweddaf wedi ei dynu i lawr i 200p., a chymerodd eglwys Ebenezer, Abertawy, at y swm hwn er mwyn i'r eglwys ieuangc yn Fabian's Bay gael ei dwylaw yn rhyddion i ymgymeryd a'r gorchwyl o adeiladu capel, oblegid mae yr ysgoldy er's amryw fisoedd wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr. Bwriedir yn ddioed adeiladu yma gapel digon eang i gynwys pum' cant o wrandawyr. Gosodwyd ei gareg sylfaen i lawr gan H. O. Wills, Ysw., o Gaerodor, Hydref 13eg, 1871, a disgwylir y bydd yr adeilad yn barod cyn pen blwyddyn. Y gweinidog cyntaf yma oedd un William Jones, a bu yma am tua dwy flynedd; ond gan nad oedd ei fuchedd yn deilwng o'r Efengyl bu ei ymadawiad a'r lle yn fantais i'r achos. O'r flwyddyn 1864 hyd 1868 bu yr eglwys yn benaf dan ofal Mr. W. Lloyd. Abertawy, yn cael ei gynorthwyo gan Meistri E.