Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

500. Yn mysg y ffyddloniaid a fuont feirw gellid enwi David Jones, Tanyard; David Jones, Gwehydd; John David, David John, Jonah Francis, Mary Anne Hopkin, Martha Rees, Hannah Davies, gwraig y gweinidog, a Mary Charles.

Y pregethwyr a godwyd yn yr eglwys hon ydynt y rhai canlynol :— John Davies, gweinidog yr eglwysi yn y Taihirion, Bronllwyn, a'r Efail-isaf, Morganwg.

Samuel Jones, gynt o Benmorfa, sir Gaernarfon.

Lot Jenkins, yr hwn a urddwyd yn Pomeroy, Ohio, America, ac a symudodd oddiyno i St. Clairs, yn nhalaeth Pennsylvania, lle y bu farw yn mlodau ei ddyddiau er mawr alar i bobl ei ofal a'i frodyr yn y weinidogaeth.

William Thomas. Ymfudodd yntau i'r America, ac yno ymunodd a'r Wesleyaid.

Thomas Davies. Addysgwyd ef yn athrofa Lancashire, a chafodd ei urddo yn Runcorn, ond ymfudodd yn fuan oddiyno i South Australia, lle y mae yn bresenol.

William Davies. Y mae ef yma etto yn bregethwr cynorthwyol defnyddiol.

Rhif yr aelodau yma yn awr yw tua dau gant a haner, ac y mae golwg lewyrchus ar yr achos. Mae llwyddiant mawr fel y gwelir wedi bod ar lafur Mr. Davies yn y lle hwn, ac y mae y ffeithiau a goffawyd yn llefaru yn gryfach dros weithgarwch yr eglwys a'r gweinidog nag unrhyw ganmoliaeth a allwn ni ei roddi.

TANYGRAIG.

Mae y lle hwn ar lan y mor yn y rhan isaf o blwyf Llansamlet, tua milldir a haner i'r dwyrain o dref Abertawy. Mae yma yn bresenol gryn lawer o drigolion, ac y mae yr ardal yn debyg o gynyddu yn ddirfawr yn ei phoblogaeth yn dra buan. Bu ysgol Sabbothol a phregethu achlysurol yn y gymydogaeth hon gan y Methodistiaid am rai blynyddau, ond oherwydd difaterwch y trigolion rhoisant yr ysgol a'r pregethu heibio. Yn mhen ychydig wedi hyny, sef tua y flwyddyn 1856, cychwynwyd pregethu achlysurol yma drachefn gan Mr. J. Rees, gweinidog Canaan, yn nhŷ Mr. Morgan Huzzey, yn agos i waith copr Porttenant. Ar symudiad Mr. M. Huzzey o'r ardal, rhentiodd Mr. Rees anedd-dŷ at gadw ysgol a phregethu, a buwyd yn cadw moddion yn y tŷ hwnw am ddwy flynedd. Preg thid hefyd yn fynych yn nhy Mr. Thomas Davies. Pan ddaeth Mr. William Thomas, yr hwn oedd yn bregethwr cynorthwyol yn Nghanaan, i fyw i'r ardal, dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yma bob nos Sabboth; a phan y bu raid rhoddi y tŷ yn yr hwn y pregethid i fyny, agorodd Mr. David Williams, Cigydd, ei ddrws i'r Arch, ac yno y buwyd yn addoli nes adeiladu y capel. Ffurfiwyd yma eglwys, yn benaf o aelodau a ollyngwyd o Canaan, ac agorwyd y capel Hydref 9fed a'r 10fed, 1860. Mr. Rees fu yn gofalu am y lle fel gweinidog hyd ei symudiad i Rodborough, ond cynorthwyid ef yn achlysurol gan weinidogion y gymydogaeth. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1867, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. D. T. Jones, o goleg Caerfyrddin, ac urddwyd ef yma Mai 13eg a'r 14eg, y flwyddyn hono. Gweinyddwyd a'r yr achlysur gan Dr. Rees, Abertawy; J. Rees,