Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwasanaeth. Er nad oedd yr achos hwn yn rhwygiad o unrhyw eglwys, etto, gan iddo gael ei gychwyn heb ymgynghori a'r eglwysi a'r gweinidogion cymydogaethol, nid ystyrid ef y pryd hwnw yn achos rheolaidd, ac felly penderfynodd y brodyr urddo eu gweinidog eu hunain. Tua yr amser hwn cafwyd darn helaeth o dir at adeiladu capel a chladdu y meirw gan L. W. Dillwyn, Ysw., am yr ardreth o swllt y flwyddyn. Hyd y les yw mil ond un o flynyddoedd. Traddodwyd pregeth ar y sylfaen yn mis Hydref, 1842, gan Mr. D. Davies, gweinidog y Bedyddwyr yn Abertawy. Yn nghyfarfod Calan, Castellnedd, yn 1843, rhoddwyd cais at y cyfeillion yn y lle hwn i osod eu hunain dan nawdd Cyfarfod Chwarterol y sir, a chydymffurfio a threfn arferol yr enwad gyda golwg ar urddiad eu gweinidog. Cydsyniwyd a'r cais, a chynaliwyd cyfarfod urddiad Mr. Davies Gorphenaf 24ain, 1843, pryd y gweinyddwyd gan y Meistri W. Thomas, Glais; D. Jones, Clydach; E. Griffiths, Abertawy, a J. Davies, Mynyddbach. Rhwng muriau y capel, yr hwn oedd y pryd hwnw heb ei dỗi, y cynaliwyd y cyfarfod hwn. Cyn gynted ag y gosodwyd tô a ffenestri i'r capel aeth y gynnulleidfa iddo. Yn raddol gorphenwyd ef trwy osod eisteddleoedd &c. ynddo. Ebrill 7fed, 1844, y dechreuwyd cynal gwasanaeth rheolaidd ynddo, pryd y pregethodd Mr. W. Rees, o athrofa Lancashire, yn awr offeiriad Llanboidy. Yn mhen tua blwyddyn ar ol hyn bu raid gosod oriel ynddo, oherwydd fod y gynnulleidfa wedi myned yn rhy luosog i lawr y capel i'w chynwys. Rhagfyr 10fed a'r 11eg, 1845, cynaliwyd cyfarfod agoriad ar ol gorphen yr oriel, a phob peth arall perthynol i'r adeilad, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Meistri P. Griffiths, Alltwen; W. Morgans, Troedyrhiw; W. Thomas, Rock; J. Evans, Crwys; E. Jacob, Abertawy; E. Watkins, Canaan; W. Morris, Glandwr, ac eraill. Maint y capel hwn oedd 36 troedfedd wrth 31 o fewn y muriau. Traul yr adeiladaeth, trefnu a chau oddiamgylch y fynwent &c., oedd rhwng 600p. a 700p., a thalwyd y cwbl trwy ymdrechion diattal y gweinidog a'i bobl ffyddlon. Erbyn y flwyddyn 1869 yr oedd y capel hwn wedi myned yn rhy fychan fel y bu raid ei dynu i lawr ac adeiladu un llawer helaethach. Gosodwyd careg sylfaen y capel newydd prydnawn dydd Sadwrn, Awst 28ain, 1869, gan Miss Hughes, (Morfuad Glantawy,) yn ngwydd torf fawr o edrychwyr, y rhai a anerchwyd gan y Meistri F. Samuel, a Dr. Rees, Abertawy; R. Rowlands, Llansamlet; W. Cuthbertson, B.A., Bishop Stortford, a J. Davies, Caerdydd. Rhoddodd Miss Hughes 20p., a'i thad, R. Hughes, Ysw. 10p., at draul yr adeiladaeth. Gorphenwyd y gwaith ac agorwyd y capel Rhagfyr 3ydd, 4ydd a'r 5ed, 1870. Pregethwyd yn nghyfarfodydd yr agoriad gan Dr. Rees, Abertawy; y Meistri J. Davies, Taihirion; E. Griffiths, Abertawy; J. Roberts, a J. Mathews, Castellnedd; T. Johns, Llanelli; R. Morgans, Glynnedd; R. Morgans, Aberafan; J. Ll. Jones, Crwys, a J. Thomas, Bryn. Mae y capel hwn yn un o'r rhai harddaf yn yr holl ardal, ac ysgoldy eang odditano. Costiodd tua 2,300p., ac y mae y gynnulleidfa ffyddlon wedi easglu 700p. o'r swm hwn yn y ddwy flynedd ddiweddaf. Maint y capel prydferth hwn yw 55 troedfedd wrth 45.

Mae Mr. Davies er dechreuad yr achos yma yn 1842, wedi derbyn dros 1200 o aelodau i'r eglwys. Rhai o honynt yn hen iawn a rhai yn ieuaingc iawn. Erbyn hyn y mae tua 300 o honynt wedi marw, a chanoedd eraill wedi cael eu gwasgaru gan Ragluniaeth i wahanol ardaloedd a gwledydd. Nifer y gynnulleidfa yn bresenol, rhwng aelodau a gwrandawyr yw tua