Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Glandwr. Tua y flwyddyn 1847, ychydig cyn ymadawiad Mr. Morris a'r lle, anogwyd ef i ddechreu pregethu. Ar ol bod am rai blynyddau yn bregethwr cynorthwyol derbyniol yn ei fam-eglwys a'r eglwysi cymydogaethol, urddwyd ef yn weinidog yr eglwys yn Nghadle, Chwefror 13eg, 1851. Yn fuan wedi hyny cymerodd ofal yr eglwys yn y Brynteg mewn cysylltiad a Chadle, ac ar ffurfiad yr eglwys yn Nghwmbwrla, cymerodd ofal hono at y ddwy flaenorol. Rhwng y tri lle yr oedd ei lafur yn ddirfawr mewn pregethu, cynal cyfarfodydd eglwysig, a theithio ar bob tywydd o le i le. Mae yn ddiameu i'w waith caled fod yn foddion i gyflymu ei farwolaeth. Wrth deimlo fod ei waith yn ormod iddo, a gweled fod yr eglwys yn Nghadle, ar ol cael capel newydd, yn alluog i gadw gweinidog ei hun, rhoddodd y lle hwnw i fyny, gan fwriadu cyfyngu ei lafur i'r Brynteg a Chwmbwrla, ond yn mhen ychydig fisoedd wedi iddo wneyd hyn, galwodd ei Arglwydd ef oddiwrth bob llafur at ei wobr. Bu farw, ar ol ychydig wythnosau o gystudd trwm, Gorphenaf 9fed, 1869, a chladdwyd ei gorph, yn ngwydd tyrfa ddirfawr o alarwyr, yn mynwent y Mynyddbach, yn agos i'r man y gorphwysa llwch yr enwogion Lewis Rees a Daniel Evans. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Thomas, Glandwr; Mr. Thomas, Bryn; Dr. Rees, Abertawy, ac eraill.

Yr oedd William Humphreys yn weithiwr difefl yn ngwasanaeth ei Arglwydd, ac yn ddyn llawn o ysbryd cyhoeddus. Cymerai ddyddordeb neillduol yn yr ymdrech i adeiladu capeli Saesonig yn Abertawy. Er helaethiad ei gylch gweinidogaethol, a maint ei lafur, pwy bynag fyddai yn eisiau yn nghyfarfodydd pwyllgor yr achosion Saesonig, byddai ef yn sicr o fod yno, ac ni ddywedai un amser air i rwystro, ond yn wastad i anog y gwaith i fyned rhagddo. Trwy ei lafur ef yn benaf y dechreuwyd yr achos yn Mhontarddulais. Ni welsom erioed frawd yn barotach i weithio er lledaenu yr achos. Er na chafodd fanteision addysg yn ei ieuengctyd, ac iddo er yn blentyn, ac am beth amser wedi iddo gael ei urddo, orfod gweithio yn galed yn y gwaith copr, casglodd radd helaeth o wybodaeth Ysgrythyrol a chyffredinol, a medrai draethu ei feddwl gyda rhwyddineb a chywirdeb yn yr iaith Saesonig yn gystal a'r Gymraeg. Pregethai yn ddoniol a gwresog. Ni ddarfu i un gweinidog yn Nghymru wneyd mwy o ddaioni mewn cyn lleiad o amser, a than gymaint o anfanteision, na'r gweinidog rhagorol a gweithgar hwn. Mae yn anrhydedd i'r eglwys a'i cyfododd i bregethu, a bu yn fendith anmhrisiadwy i'r eglwysi a gawsant eu breintio a'i lafur.

HOREB, TREFORIS.

Yr oedd Mr. Thomas Davies, gweinidog y capel hwn, wedi bod yn bregethwr cynorthwyol parchus yn yr ardal er's amryw flynyddau, a nifer o'i gyfeillion yn awyddus am ddyogelu ei wasanaeth yn yr ardal fel gweinidog, ac i'r dyben hwnw cymhellasant ef i uno a hwy i gyfodi achos newydd. Cydsyniodd a'u cais, a phregethodd yn ei dŷ ei hun ar yr ail Sabboth yn Ebrill, 1842. Y Sabboth canlynol pregethodd yn nhy John Evans, Edward--street, a pharhawyd i gynal y moddion yn y tŷ hwnw am dri mis. Yna ardrethwyd swyddfa hen waith y Clundu, am yr ardreth flynyddol o dair punt. Yn y lle hwnw corpholwyd yr eglwys, ac urddwyd Mr. Davies gan y brodyr heb alw un gweinidog i gymeryd rhan yn y