Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar yr achlysur gan Meistri D. Rees, a T. Roberts, Llanelli; W. Jones, Abertawy; E. Roberts, Cwmbychan; J. Bowen, yn awr o Bendaran; T. Thomas, Abertawy: E. G. Williams, Ysgetty, a W. Morris, Glandwr. Cadwyd Ysgol Sabbothol, cyfarfodydd gweddio, pregethu achlysurol, ac ysgol ddyddiol yn yr ysgolly hwn hyd y flwyddyn 1861, pryd y ffurfiwyd yma eglwys Annibynol. Gollyngwyd 50 o aelodau o Ebenezer i ffurfio yr eglwys newydd, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Mr. E. Jacob, yr hwn oedd yn awr wedi rhoddi gofal Ebenezer i fyny, ac ar symud i Ebley. Cawn y nodiad canlynol gyda golwg ar ffurfiad yr eglwys hon yn y Diwygiwr am Hydref, 1861:—" Yn ddiweddar, wrth weled fod preswylwyr yr ardal yn amlhau yn fawr, penderfynwyd sefydlu achos rheolaidd yn y İle. Unodd ychydig frodyr gweithgar y dref a'r rhai oedd yn byw yno, yn y cynyg er dyogelu yr amcan teilwng hwn, a choronwyd eu llafur a Ilwyddiant. Cydweithredodd y Parch. W. Humphreys, Cadle, yn wresog yn yr ymdrech; a chan ei fod yn byw yn yr ardal, mae yn addaw cydweithredu etto. Nos Sabboth, Medi 8fed, 1861, cafodd y Parch. E. Jacob yr hyfrydwch o ffurfio eglwys yn y lle, yn cynwys yn nghylch 50 o aelodau. Derbyniwyd ar y pryd wyth o rai newyddion, ac y mae o ddeg i bymtheg etto yn y gyfeillach heb eu derbyn. Bwriedir adeiladu addoldy hardd yno mor fuan ag y byddo yn gyfleus. Mae golwg obeithiol iawn ar yr achos ieuangc yn ei gychwyniad." Dewiswyd Mr. Humphreys yn weinidog yn fuan ar ol hyn, a pharhaodd i gyflawni ei weinidogaeth yn wir effeithiol hyd derfyniad ei fywyd defnyddiol. Yn haf 1862 gosodwyd careg sylfaen y capel gan Mr. E. Griffiths, Abertawy, a phregethwyd ar yr achlysur gan Mr. Daniel, Mynyddbach, a Dr. Rees, Abertawy. Cynnaliwyd cyfarfodydd agoriad y capel newydd Mawrth 29ain, 30ain a'r 31ain, 1863, pryd y pregethodd Meistri J. Thomas, Bryn; W. Morgan, Maesteg; Dr. Rees, Abertawy; J. Roberts, Castellnedd; D. Jones, Cwmafon; T. Davies, Siloa; J. Mathews, Castellnedd; D. Evans, Llansawel; H. Evans, Penbre; E. Evans, Treforis; J. Rees, Canaan; T. Davies, Treforis, a T. Thomas, Glandwr. Traul yr adeiladaeth oedd 700p., a chasglwyd erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad 200p. Yn y flwyddyn 1864, gosodwyd oriel yn y capel a chynaliwyd cyfarfodydd agoriad drachefn ar orpheniad y gwaith hwnw, Tachwedd 13eg a'r 14eg, pryd y pregethodd Meistri J. Rees, Cwmaman, Aberdare; H. Evans, Penbre; W. Griffiths, Llanharan; J. Evans, Maendy; J. Thomas, Bryn, a J. Joseph, Llanedi. Gorphenaf 9fed, 1869, bu farw y gweinidog llafurus, Mr. Humphreys, er dirfawr dristwch a cholled i bobl ei ofal. Wedi bod tua blwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Humphreys yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. David Jones, New Tredegar, yr hwn a ddechreuodd ei weinidogaeth yma yn Medi, 1870. Mae Mr. Jones a'r bobl yn cydweithredu yn ddymunol, a phob arwydd y bydd ei lafur yn y lle yn llwyddianus. Er fod y capeli Zoar, Pentre-estyll, Ebenezer, Capel Sion, Glandwr, a'r capel hwn, oll o fewn llai na milldir i'w gilydd, y mae yma ddigon o drigolion i'w llenwi oll, a digon yn ngweddill i'r enwadau eraill.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

WILLIAM HUMPHREYS. Ganwyd ef yn nghymydogaeth Glandwr yn y flwyddyn 1822. Yr oedd yn blentyn i rieni crefyddol, ac felly cafodd ei fagu yn eglwys Dduw. Ymunodd a chrefydd yn ieuangc iawn yn Siloh,