Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddigondemniad. Nid oedd Mr. Davies yn flaenorol i hyn, am ddim a wyddom ni, yn waeth na'r rhan fwyaf o'i frodyr, ond gan iddo barhau yr un fath wedi i'r farn gyhoedd newid, aeth ei ymddygiad i ymddangos yn fwy gwrthun ac annoddefol. Yn Mehefin, 1842, barnodd mwyafrif eglwys Ebenezer mai eu dyledswydd oedd ymwrthod ag ef fel eu gweinidog. Pan fwriwyd ef allan gan eglwys Ebenezer, derbyniwyd ef, fel v crybwyllasom eisioes, gan yr eglwys oedd newydd gael ei ffurfio yn y Victoria Rooms; ac yr oedd niferi o aelodau Ebenezer yn ardal Pentre-estyll, mor hoff o hono, fel yr ymffurfiasant yn eglwys gan ei ddewis ef yn weinidog. Rai blynyddau cyn ei farwolaeth, er fod ei nerth corphorol yn parhau, yr oedd ei gof wedi myned yn ddiffygiol iawn, fel na fedrai wneyd dim ond traddodi yr hen bregethau y buasai yn gyfarwydd a hwy gynt. Bu farw yn ddisymwth iawn Awst 23ain, 1861, yn driugain-a-phump oed, a chladdwyd ef wrth gapel yr Ysgetty. Yr oedd miloedd lawer o bobl yn ei angladd. Dywedir na welwyd y fath angladd erioed yn Abertawy, oddieithr angladd Henry John Vivian, Ysw., A.S. Er ei holl golliadau, yr oedd Thomas Davies yn ddyn o'r fath ag a orfodai fyd ac eglwys i'w anwylo.

Yr oedd o ran ei ymddangosiad corphorol yn un o'r dynion harddaf a mwyaf mawreddog a welsom erioed. Yr oedd tua phum' troedfedd a deg moedfedd o daldra, ac o wneuthuriad cadarn a lluniaidd, heb ddim yn anffurfiol ynddo o'i goryn i'w draed. Teimlai pob un wrth edrych arno fod ynddo fawredd na pherthynai i un o bob deng mil o blant Adda. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, naturiol, esmwyth, a dylanwadol, a chanddo lais cryf, cyflawn, a pherseiniol, heb ddim yn arw nac aflafar ynddo. O ran ei dymer yr oedd yn hynaws, caruaidd, ac heb un amser sarugrwydd i'w ganfod ar ei wedd. O ran ei feddwl yr oedd yn dreiddgar, eang, parod, a galluog anarferol. Yr oedd wedi ei wneyd gan Awdwr natur yn ddyn mawr, a phe buasai yn gwrteithio ei alluoedd, ac yn defnyddio ei amser yn briodol, prin yr ydym yn tybied y buasai un gweinidog o un enwad yn y Dywysogaeth yn uwch nag ef mewn defnyddioldeb ac enwogrwydd. Segurdod ac esgeulusdod o ddyledswyddau ei swydd bwysig fu yr achos o bob coll ynddo. Ond er ei holl wendidau mae yn ddiameu iddo wneyd llawer o ddaioni, etto, llai nag un ran o fil o'r hyn yr oedd natur a Rhagluniaeth wedi ei gymhwyso i'w wneyd. Dylai hanes y dyn rhyfeddol hwn fod yn rhybudd difrifol i bob dyn ieuange talentog i ochelyd cymeryd ei ryddid i fod yn segur ar gefn ei ddoniau a'i dalentau naturiol, oblegid pa fwyaf o dalentau a roddir i ni, mwyaf o gynyrch a ddysgwylia ein Harglwydd oddiwrthym. Nid y dynion mwyaf eu galluoedd naturiol sydd, fel rheol, wedi bod y rhai mwyaf defnyddiol, ond dynion o dalentau cyffredin yn gwneyd y defnydd goreu o honynt.

CWMBWRLA.

Pentref ychydig gyda milldir o Abertawy, ar y ffordd i Lanelli a Chaerfyrddin, yw Cwmbwrla. Yr oedd gan eglwys Ebenezer ysgoldy at gadw Ysgol Sabbothol a chyfarfodydd gweddio yn Mhentrefgethin, ychydig yn nes i fyny i'r wlad, er's llawer o flynyddau, a phan gymerodd perchenog y tir feddiant o hwnw, adeiladwyd ysgoldy yn Nghwmbwrla yn 1844, vr hwn a agorwyd Awst 12fed a'r 13eg, yn yr un flwyddyn. Pregethwyd