Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn yn gapel prydferth dros ben, yn mesur 60 troedfedd wrth 40. Costiodd 1,500p., ac y mae yr eglwys a'r gynnulleidfa trwy eu hymdrechion diflino wedi tynu y ddyled i lawr i dri chant, ac y maent yn debyg o dalu y geiniog olaf yn fuan. Yn mis Medi, 1865, rhoddodd Mr. Jones ei ofal weinidogaethol i fyny, a symudodd o'r ardal. Yn mis Ebrill, 1866, dechreuodd Mr. W. Jenkins, Brynmawr, ei weinidogaeth yma, ac y mae yn parhau i lanw ei gylch gyda pharch, llwyddiant, a dylanwad mawr yn yr eglwys a'r ardal. Tua thair blynedd yn ol adeiladodd yr eglwys anedd-dy hardd o werth 500p. i'w gweinidog. Byddai yn ddymunol i bob eglwys ddilyn ei hesiampl yn hyn. Mae rhif yr aelodau yma rhwng tri a phedwar cant, ac er nad oes yma nemawr yn uwch eu sefyllfa na gweithwyr, y maent wedi gwneyd mwy mewn pethau arianol at achos crefydd na llawer o gynnulleidfaoedd sydd yn ymffrostio yn eu masnachwyr cyfoethog a'u tirfeddianwyr.

Y rhai canlynol, cyn belled ag y gwyddom ni, yn unig a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon :

Richard Martin. Yn Zoar, Abertawy, y mae efe yn bresenol yn aelod.

David Prosser. Urddwyd ef yn ddiweddar yn weinidog yr eglwysi yn yr Aber a Thalybont, Brycheiniog.

David Evans. Y mae efe newydd orphen ei efrydiaeth yn athrofa Caerfyrddin, ac i gael ei urddo yn fuan yn Rehoboth, Brynmawr.

Richard Williams. Y mae efe yma yn awr yn aelod, ac yn bregethwr cynorthwyol.

David Evans. Mab i'r enwog Mr. Daniel Evans, Mynyddbach yw efe. Dechreuodd bregethu yma yn ddiweddar.

Joseph Devonald. Mae yn awr yn fyfyriwr yn yr athrofa Normalaidd, yn Abertawy.

William Stephen Jenkins, mab Mr. Jenkins, y gweinidog. Mae y gwr ieuangc gobeithiol hwn yn awr yn fyfyriwr yn New College, Llundain.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS DAVIES. Ganwyd ef yn Ninbych yn y flwyddyn 1796. Gof, mewn amgylchiadau bydol cysurus oedd ei dad. Derbyniwyd ef yn dra ieuangc yn aelod o'r eglwys Annibynol yn Ninbych, gan Mr. Thomas Powell. Wedi iddo ddechreu pregethu aeth i'r athrofa i Lanfyllin. Yn niwedd y flwyddyn 1817, aeth ef a'i gydfyfyriwr Mr. John Ridge, wedi hyny o Cendl, ar daith trwy y Deheudir, a chafodd ei hoffi mor fawr gan yr eglwysi yn Ebenezer, Abertawy, a'r Ysgetty, fel y rhoddasant iddo alwad unfrydol i ddyfod yn ganlyniedydd i'r enwog David Davies. Urddwyd ef yn Ebenezer, Ebrill 23ain, 1818, ac er nad oedd y pryd hwnw dros ddwy-ar-hugain oed, yr oedd o ran galluoedd a doniau yn berffaith addas i lenwi y cylch pwysig y gelwesid ef iddo. Parhaodd i weinidogaethu yn Ebenezer a'r Ysgetty am fwy na phedair-blynedd-ar-hugain, ac am y deuddeg, neu y pymtheg mlynedd cyntaf o'i dymor, yr oedd yn sefyll yn rhyfeddol o uchel yn ngolwg pobl ei ofal, ac yn ngolwg gweinidogion ac eglwysi y wlad yn gyffredinol. Pan dorodd y diwygiad dirwestol allan tua y flwyddyn 1835, rhoddwyd tôn newydd i'r farn gyhoedd gyda golwg ar ddiotta a chyfeddach, fel na oddefid mwyach, fel cynt, i broffeswyr crefydd, yn enwedig pregethwyr yr efengyl, fynychu tafarndai yn