Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lwyddianus i dalu y ddyled a lluosogi y gynnulleidfa. Tua thair blynedd yn ol gwnaeth ef a'r eglwys eu meddyliau i fyny i adeiladu capel newydd a mwy teilwng o'r dref a'r oes nag oedd yr un a adeiladwyd yn 1849. Bwriadent adeiladu yr ochr arall i'r heol, a gadael yr hen gapel at gychwyn achos Saesonig ynddo, ond o herwydd gomeddiad y Duc o Beaufort i roddi y tir, bu raid iddynt dynu yr hen gapel i lawr ac adeiladu yr un newydd ar ei safle. Mae hwn yn un o'r capeli harddaf a mwyaf cyfleus yn yr holl wlad, ac ysgoldy eang oddi tano yn cynwys lle i 400 o bobl. Gosodwyd ei gareg sylfaen gan S. Morley, Ysw., A.S., Medi 14eg, 1869, a rhoddodd gan' punt at yr adeiladaeth; traddodwyd hefyd areithiau ar yr achlysur gan H. Richard, Ysw., A.S., E. M. Richards, Ysw.,A.S., Mr. Jones, Castle-street, a Dr. Rees, Ebenezer. Cynaliwyd cyfarfodydd yr agoriad yn Gorphenaf, 1870. Traul yr adeiladaeth oedd 2,750p. Y mae 750p. o'r swin yma wedi eu casglu yn y ddwy flynedd ddiweddaf, ac er fod swm mawr etto yn aros, ni saif yn hir o flaen dyn mor weithgar a Mr. Samuel, a'r bobl ffyddlon sydd yn ei gynnulleidfa. Pan ddechreuodd Mr. Samuel ei weinidogaeth yma, rhif yr aelodau oedd o 70 i 80, ac yr oedd 550p. o ddyled yn aros ar y lle. Yn awr mae yr aelodau yn 250 o rif, a'r rhan fwyaf o honynt yn bobl a chalon ganddynt i weithio.

Mae agwedd pethau yma yn awr yn ddigon o dal i'r hen frawd ffyddlon David Richards, am yr holl bryderon a'r gofidiau yr aeth trwyddynt wrth gychwyn a chario yr achos yn mlaen yn ei wendid. Dichon y caiff ef etto, er ei lesgedd a'i nychdod, fyw i weled y deml hardd hon yn ddiddyled.

PENTRE-ESTYLL.

Mae y lle hwn o fewn milldir i Abertawy, ar y ffordd i Langafelach. Yr oedd ugeiniau o aelodau Ebenezer yn byw yn yr ardal hon er dechreuad yr achos yn y dref, a llawer o'r preswylwyr yn perthyn i'r Mynyddbach cyn hyny. Cychwynwyd yma Ysgol Sabbothol effeithiol rai blynyddau cyn fod son am adeiladu capel yn y lle. Dau neu dri o aelodau Ebenezer ddarfu ei chychwyn, ac ar y pryd nid oedd y cyfeillion yn Ebenezer yn gwbl foddlon i hyny, rhag ofn y buasai yr ysgol hono yn gwanychu yr ysgol oedd ganddynt yn barod yn Mhentrefgethin. Pa fodd bynag, yn mlaen yr aeth yn llwyddianus. Pan ddarfu cysylltiad Mr. T. Davies ag eglwys Ebenezer, yn Mehefin, 1842, glynodd llawer o'r aelodau yn nghymydogaeth y Pentre wrtho a chawsant eu ffurfio yn eglwys ganddo. Ar ol bod am beth amser yn addoli mewn anedd-dai yn yr ardal, adeiladwyd capel yma, yr hwn a agorwyd Mai 15fed a'r 16eg, 1844, pryd y pregethwyd gan Meistri Williams, Aberafon; Davies, Cwmaman; Watkins, Canaan; Griffiths, Castellnedd; Stedman, Newton, a Powell, Caerdydd. Maint y capel hwn oedd 30 troedfedd wrth 30 y tu fewn i'r muriau, a chan fod oriel gyfleus ynddo, cynwysai lawer o bobl. Bu Mr. Davies yn gweinidogaethu yma i gynnulleidfa wresog hyd derfyn ei oes, yn Awst, 1861. Yn niwedd y flwyddyn 1862, rhoddwyd galwad i Mr. David A. Jones, Cwmsaerbren, a chynnaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Tachwedd 18fed a'r 19eg, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Meistri J. Davies, Aberaman; J. Morgans, Cwmbach; T. Rees, D.D., Abertawy; W. Williams, Hirwaun; D. Evans, Salem, Llandilo; D. Price, Aberdar; J. Thomas, Bryn, a W. Thomas, Rock. Yn 1864, dechreuwyd adeiladu capel newydd yma, yr hwn a agorwyd yn y flwyddyn ganlynol. Mae