Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Glandwr, a Griffiths, Alltwen . Am 2, gweddiodd Mr. J. Davies, Taihirion, a phregethodd Meistri Williams, Bryn ; Watkins, Canaan, a Jones, Bethesda, Merthyr. Am 6, gweddiodd Mr. W. Humphreys, Glandwr, a phregethodd Meistri Davies, Siloa, Llanelli, a Griffiths, álltwen, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. E. Jacob, Ebenezer. Maint y capel oedd 40 troedfedd wrth 41, yn cynwys 48 o eisteddleoedd ar y llawr, a 36 ar yr oriel. Traul yr adeiladaeth oedd 700p. 29. 50. Gan i'r achos gael ei ddechreu yn afreolaidd, heb ymgynghori a'r gweinidogion a'r eglwysi cymydogaethol, fod yr ychydig frodyr a'i dechreuodd, o herwydd bychan der eu rhif, yn derbyn pob un a ddeuai atynt o eglwysi eraill heb ofalu eu bod yn dyfod yn rheolaidd trwy lythyrau, a bod y ddyled yn fawr, buwyd am dymor yn gwrthod eu derbyn i undeb eglwysi y sir. Parodd hyny drallod nid bychan, oblegid ei fod yn rhwystr i'r ymdrech er talu y ddyled. Ond wedi myned trwy lawer o bryderon ac amgylchiadau bygythiol, gwenodd Duw a dynion arnynt, a chyfododd yr achos ei ben yn fuddugoliaethus. Rhoddodd Mr. Rees ei weinidogaeth i fyny Awst 12 fed, 1855, a symudodd i Gapel Isaac. Bu pethau yn lled ddigalon yma wedi ei ymadawiad ef. Collwyd llawer o'r gwrandawyr a'r aelodau, a buwyd unwaith yn ofni y buasai raid gwerthuy capel i'r Pabyddion er talu ei ddyled. Mawrth 3ydd, 1859, cymerodd Mr. Davies, Ysgetty, ofal y lle, mewn cysylltiad a'r Ysgetty. Adfywiodd pethau yn fuan yma dan ei nawdd ef. Yn ystod y tair blynedd y bu y lle dan ofal Mr. Davies talwyd 150p. o'r ddyled heb law talu y llogau, a daeth pethau i wisgo agwedd obeithiol. Pan welodd ef fod yr achos wedi dyfod i sefyllfa hunan -gynaliol, rhoddodd ei ofal i fyny, ac anogodd y bobl i roddi galwad i Mr. Frederick Samuel, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr yn yr athrofa Normalaidd yn y dref hon.Urddwyd Mr. Samuel, Hydref 3ydd a'r 4ydd, 1862. Rhoddir hanes cyfarfodydd yr urddiad yn Niwygiwr, Gorphenaf, 1862, fel y canlyn:— "Zoar, Abertawy. Oddeutu tair blynedd yn ol, cymerodd Mr. Davies, Ysgetty, ofal yr eglwys uchod pan oedd ar drangcedigaeth, ac wedi marw yn ngolwg llawer; gwnaeth ei oreu mewn amser ac allan o amser; ac yr oedd llwydd mawr ar ei waith. Boed bendithion lawer yn orphwysedig ar Mr. Davies, ac eglwys yr Ysgetty, am eu daioni tuag atom yn ein cyfyngder. Ond am nad oedd Mr. Davies yn barnu ei fod yn gwneyd cyfiawnder a'r ddwy eglwys, rhoddodd Zoar i fyny. Yr oedd teimladau gofidus ac hiraethlon yn yr eglwys ar ei ymadawiad. Wedi hyny rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. F. Samuel, myfyriwr o goleg Normalaidd, Abertawy. Nos Fawrth, a dydd Mercher, y 3ydd a'r 4ydd o Fehefin, dygwyd yr urddiad yn mlaen. Y nos gyntaf, gweddiodd Mr. Davies, Capel Sion, a phregethodd y Parchn. W. Morgan, Caerfyrddin, a J. Mathews, Castellnedd. Am 10 dydd Mercher, gweddiodd Mr. Thomas, Glandwr, a phregethodd y Parch. D. Rees, Llan elli, ar natur eglwys ; dyrchafwyd yr urdd -weddi gan y Parch. W. Jones, Castle-street; yna pregethodd y Parch. R. G. Jones, Merthyr, ar ddyled swydd y gweinidog. Am 2, dechreuwyd gan Mr. Owens, Clydach, a phregethodd y Parch. W. Edwards, Aberdare, ar ddyledswydd yr eglwys, a diweddwyd trwy weddi gan Mr. Thomas, Aberdare. Yn yr hwyr cynnaliwyd y cyfarfod yn Ebenezer, am fod y lle yn rhy fychan i gynwys haner y dyrfa. Dechreuwyd trwy weddi gan Mr. D. Davies, o'r athrofa Normalaidd, a phregethodd y Parchn.J. Rees, Canaan; a T. Rees,Ebenezer. Cafwyd cyfarfod hwylus." Mae Mr. Samuel wedi ac yn ymroddi a'i holl egni i gyflawni ei weinidogaeth yn effeithiol, ac wedi bod yn rhagorol o