Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyd yn nechreu y flwyddyn 1850. Bu Mr. T. Davies yn gweinidogaethu ya, mewn cysylltiad a Phentre-estyll, hyd y flwyddyn 1858, pryd, herwydd ei lesgedd ef, ac am nas gallesid cael ar y goreu ond haner ei lafur, y barnwyd y buasai yn well iddo ef gyfyngu ei lafur yn unig i Bentre-estyll, a gadael eglwys Capel Sïon at eu rhyddid i ddewis gweinidog iddynt eu hunain. Ar ol bod ychydig gyda blwyddyn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol, rhoddwyd galwad i Mr. John C. Davies, Carfan, sir Benfro, a dechreuodd ef ei weinidogaeth yma yn Hydref, 1859. Parhaodd i weinidogaethu yn y lle hyd Awst, 1868, pan y symudodd i Newton. Ychydig cyn ymadawiad Mr. Davies, adgyweiriwyd a phrydferthwyd y capel yn fawr, yr hyn a gostiodd rai canoedd o bunau, ond trwy ymdrech ddiflin y gweinidog a'r bobl talwyd y cwbl yn fuan. Ychydig amser ar ol ymadawiad Mr. Davies, rhoddwyd galwad i Mr. John Jenkins, Pantteg. Bu ef yma am tua blwyddyn a haner, ond er's yn agos i flwyddyn bellach y mae y cysylltiad rhyngddo a'r eglwys wedi darfod, ac y mae y gynnulieidfa er hyny heb un gweinidog sefydlog.

Mae yr eglwys hon, er nad oes llawn ddeng-mlynedd-ar-hugain er pan y ffurfiwyd hi, wedi myned trwy lawer o gyfnewidiadau. Bu yr achos ar rai adegau yma yn gryf a llwyddianus iawn, ac ar adegau eraill yn lled wan a gwywlyd. Mae yn bresenol yn llawer gwanach nag y bu, ac wedi cael ei daflu i'w iselder presenol gan amgylchiadau na byddai eu crybwyll o un budd i neb. Hyderwn fod y gauaf presenol i gael ei ddilyn gan dymor hafaidd a llwyddianus.

ZOAR, ABERTAWY.

Gan David Richards, yr hwn oedd yn aelod yn Mhentre-estyll, a David Davies, aelod o Gapel Sïon, y dechreuwyd yr achos hwn. Cymerasant y Trade'shall, yn High-street, at gynal gwasanaeth crefyddol. Ebrill 2il, 1848, y cynhaliwyd y gwasanaeth cyhoeddus cyntaf yno. Yn y boreu, cadwyd yno Ysgol Sabbothol. Pedwar-ar-ddeg rhwng plant a dynion mewn oed oedd ynddi y Sul cyntaf. Am ddau a chwech yn y prydnawn a'r hwyr, pregethodd Mr. Rees Rees, myfyriwr o athrofa Caerfyrddin, yr hwn yn fuan ar ol hyny a urddwyd yn weinidog ar yr eglwys ieuangc. Heblaw plant yr Ysgol Sul, nid oedd ond pump o bersonau yn gwrandaw Mr. Rees y Sabboth hwnw. Er mor waned a digalon yr ymddangosai pethau ar y cychwyniad, aeth Mr. Rees a'r ddau frawd, D. Richards, a D. Davies, yn mlaen heb lwfrhau dim. Awst 3ydd, 1848, urddwyd Mr. Rees yn weinidog gan Mr. Evans, Capel Sion, a Mr. Jenkins, Penygroes. Rhif yr aelodau y pryd hwnw oedd naw, ond erbyn Tachwedd 4ydd, 1849,yr oeddynt wedi lluosogi i 135, a'r Ysgol Sabbothol yn 160. Awst 23ain, 1848, cymerwyd tir at adeiladu y capel, a dechreuwyd ei adeiladu Hydref 9fed, yn yr un flwyddyn. Erbyn Rhagfyr 30ain, yr oedd y tô wedi ei osod ar yr adeilad, a phregethodd Mr. Rees yno y noson hono. Buwyd wedi hyny yn addoli yn y Trade'shall nes i'r capel gael ei orphen. O ddiffyg arian i fyned ar gwaith yn mlaen, ni allwyd gorphen yr adeilad hyd Hydref 30ain, 1849, pryd yr agorwyd ef. Dechreuwyd yr oedfa y nos gyntaf gan Mr. T. Jenkins, Penygroes, a phregethodd Mr. D. Williams, Aberafon, a Mr. J. Ridge, gynt o Cendl. Am ddeg dranoeth, gweddiodd Mr. Williams, Aberafon, a phregethodd Meistri Jinkins, Penygroes; Thomas