Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwneyd y prawf, cawsant eu bod yn ddigon galluog i hyny, a'u bod wedi gwasanaethu yr achos trwy fyny gweinidogaeth gyflawn i ardal mor boblog a phwysig.

Nis gwyddom am neb a ddechreuodd bregethu yma ond Mr. William Thomas, Port-tenant, a'r diweddar Mr. Benjamin Wilkes, Trecastell.

CAPEL SION, ABERTAWY.

Tua diwedd y flwyddyn 1841, barnodd rhai o aelodau yr eglwys yn Ebenezer fod angen am achos Cymreig arall yn y dref, a chafodd pymtheg neu ugain o honynt lythyrau o ollyngdod o eglwys Ebenezer er ffurfio eu hunain yn eglwys wahanol. Cymerasant y Victoria Rooms, yn Oxford street, at gynal cyfarfodydd, a chawsant amryw o weinidogion enwocaf siroedd Morganwg a Chaerfyrddin, i bregethu iddynt ar y Sabbothau. Pan drowyd Mr. T. Davies allan o Ebenezer yn Mehefin 1842, derbyniwyd ef gan bobl y Victoria Rooms i fod yn weinidog iddynt, a bu yn gweinidogaethu iddynt am tuag un-mlynedd-ar-bymtheg. Yn nechreu y flwyddyn 1843, cafwyd tir ar yr ochr ddeheuol i High street, ar y fan lle mae gorsaf y South Wales Railway yn awr, lle yr adeiladwyd capel hardd a chyfleus. Cyhoeddwyd yr hanes canlynol am yr achos a'r capel hwn yn y Diwygiwr am 1843, tu dal. 250:-"Dydd Iau, Mai 18fed, gosodwyd y gareg sylfaen i'r addoldy newydd perthynol i'r eglwys Annibynol ag sydd yn ymgyfarfod i addoli yn Neuadd Victoria, Abertawy. Am 2 o'r gloch yn y prydnawn, dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. D. Jones, Clydach. Cyflawnwyd y gorchwyl o osod y gareg sylfaen gan y Parch. T. Davies, gweinidog yr eglwys hon, ac yn ei gynorthwyo yr oedd y Parch. D. Griffiths, Castellnedd; yna areithiodd y Parch. W. Williams, Llandilo, yn dra hyawdl a chymwysiadol ar yr achos; canlynwyd ef gan y Parch. D. Griffiths, Castellnedd, mewn pregeth ragorol oddiar Ezra x. 4., Cyfod; arnat ti y mae y peth; a ni a fyddwn gyda thi; ymwrola a gwna.' Cyfeiriodd a gwasgodd ei sylwadau ar feddyliau y gweinidog a'r eglwys, gydag effeithioldeb mawr ar y gynnulleidfa oedd yn bresenol ar y pryd; terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Davies, Mynyddbach. Am 7 yn yr hwyr, cafwyd benthyg addoldy Ebenezer, pan ymgynnullodd tyrfa fawr, nes oedd yr addoldy helaeth hwnw yn orlawn. Dechreuwyd trwy ddarllen, gweddi, a mawl, gan y brawd T. Thomas, Llandilo, a phregethodd y Parch. W. Williams, o'r un lle, yn ddoniol oddiwrth 2 Cor. x. 4, 5. Bydded yn hysbys i bawb fod y gangen fechan hon wedi ymadael a'r eglwys yn Ebenezer, mewn modd rheolaidd a thangnefeddus i sefydlu achos newydd yn y dref boblog hon, gan ystyriad y byddai hyny yn fwy buddiol i lwyddiant crefydd, ac i ennill eneidiau at y Gwaredwr, nag aros yn segur wrth y canoedd yn yr un man. Y mae arwyddion da ar yr achosyr addoldy yn myned yn mlaen yn hwylus-yn barod i osod y pen arno. Ein hawydd yw ennill eneidiau o'r byd i'r eglwys, ac nid eu denu o un eglwys arall.'

Pan agorwyd y capel, cafwyd cynnulleidfa dda a chryfhaodd yr eglwys yn fawr. Yn 1849, cymerwyd y capel gan berchenogion y South Wales Railway a thynwyd ef, yn nghyd ag amryw adeiladau eraill oddiamgylch iddo, i lawr, er cael lle i'r orsaf. Cafwyd tir ar yr ochr arall i'r heol, ychydig yn is i lawr, lle yr adeiladwyd y capel presenol, yr hwn a agor-