Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thaflu i fyw arni ei hun. Hyd yn hyn yr oedd wedi bod dan nawdd teulu duwiol, cyfoethog, a haelionus Kilvey, a than weinidogaeth un o'r dynion caredicaf a fu erioed yn weinidog efengyl, ond collodd yr eglwys y cwbl megis yn yr un dydd." [1]

Hydref 8fed, 1850, rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. John Rees, Carmel, Llangiwc, a'r hon y cydsyniodd, a dechreuodd ei weinidogaeth yma yn Rhagfyr, 1850. Cynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad Ebrill 22ain a'r 23ain, 1851, pryd y pregethodd Meistri Morgan, Caerfyrddin; Rees, Ystrad; Rees, Cendl; Davies, Pantteg; Jones, Treforis; Griffiths, Alltwen, ac eraill. Bu Mr. Rees yn llafurus a llwyddianus iawn yma yn y cyflawniad o bob rhan o waith y weinidogaeth, ac yn enwedig gyda'r Ysgol Sabbothol. Pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma, nid oedd rhif yr ysgol dros driugain-a-deg. Trwy sefydlu dosbarth Biblaidd, ac agor Ysgolion Sabbothol yn y Llysnewydd a Phort-tenant, llwyddwyd i gael rhifedi y rhai oeddynt dan addysg yn yr Ysgolion Sabbothol yn nglyn a Chanaan i dri chant a haner, ar un tymor. Gwnaeth ef, a'r bobl a gydweithredent ag ef, ymdrech lwyddianus i ddymchwelyd yr arferiad lygredig o gadw Cwrw bach, yr hon oedd yn ffynadwy yn yr ardal, ac yn effeithio mor ddinystriol ar foesau y bobl. Dyoddefodd yr achos lawer o anfantais agos trwy holl dymor gweinidogaeth Mr. Rees oddiwrth sel ac ymdrechion pobl gyfoethog yn y gymydogaeth i ddenu y gweithwyr o'r capeli i'r Eglwys Wladol. Llwyddasant i gael llawer i fyned i'r eglwys, ac i anfon eu plant i ysgolion eglwysig, ond y mae y dylanwad hwnw yn gwanychu er's rhai blynyddau bellach. Yn 1860, adeiladwyd capel Tanygraig, ac aeth nifer o aelodau Canaan yno i ddechreu yr achos. Yn 1864, ailadeiladwyd Canaan, ac agorwyd y capel newydd Gorphenaf 18fed a'r 19eg, yn yr un flwyddyn, pryd y pregethodd Meistri Davies, Llandilo; Lewis, Ty'nycoed; Watkins, Llangattwg; Rees, Llanelli; Griffiths, Alltwen, a Davies, Cwmaman. Mae y capel prydferth hwn yn 60 troedfedd wrth 40 dros y muriau. Costiodd 1,100p. Casglwyd 221p. erbyn diwedd cyfarfodydd yr agoriad, ac erbyn hyn nid oes fawr o'r ddyled yn aros heb ei thalu. Teimlai Mr. Rees ar ol cael y capel newydd y dylasai roddi ei holl wasanaeth yma yn lle ei ranu rhwng Canaan a Bethel, ond gan yr ofnai y bobl nas gallasent gyfranu digon at ei gynal, gwnaeth ei feddwl i fyny i ymadael, gan na oddefai sefyllfa ei iechyd iddo ofalu am y ddau le fel yr arferai wneyd. Yn Gorphenaf, 1866, symudodd i Rodborough, lle y mae yn bresenol. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. B. Williams, Dinbych, a chynaliwyd cyfarfodydd ei sefydliad yma Mehefin 18fed a'r 19eg, pryd y cymerodd y gweinidogion canlynol ran yn y gwasanaeth, Meistri E. Griffiths, Abertawy; Stephens, Liverpool; Williams, Castellnewydd; Evans, Britonferry; Rees, Rodborough; Watkins, Llangattwg; Davies, Caerdydd, a Bevan, Waunarlwydd. Mae Mr. Williams a'r eglwys yn hoff iawn o'u gilydd, ac yn cydweithio yn llwyddianus. Mae dyled y capel, fel y nodasom, agos a chael ei lwyr ddileu, nifer yr aelodau wedi ychwanegu yn fawr, fel y maent yn awr tua thri chant o rif, a chasgliadau yr eglwys a'r gynnulleidfa at bob achos cartrefol a chyhoeddus, yn y pedair blynedd diweddaf tua 300p. yn y flwyddyn. Cafodd yr achos hwn gam mawr o'i ddechreuad trwy fod mewn cysylltiad ag eglwysi eraill, am yr ofnai Ꭹ bobl eu bod yn analluog i gynnal gweinidog eu hunain, ond wedi

  1. Llyfr eglwys Canaan.