Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwnaeth ddaioni dirfawr yn ei ddydd yn ei ardal fynyddig fel ysgolfeistr yn gystal ag fel pregethwr. Mae ei goffadwriaeth hyd y dydd heddyw yn barchus gan ugeiniau, ac y mae crefydd yn parhau i ddal ei gafael yn ei hiliogaeth. [1]

CANAAN.

Dechreuwyd yr achos hwn er's yn agos i gan' mlynedd yn ol yn y Pentrefchwith, gan Mr. Lewis Rees, yn nhŷ Thomas William. Yr oedd niferi o aelodau y Mynyddbach yn cyfaneddu yn yr ardal y pryd hwnw, a Thomas William, a Thomas Howell, fel diaconiaid o'r fam eglwys yn gofalu am y gangen yn yr ardal hon. Dywedir fod y ddau yn ddynion rhagorol iawn, a medrus nodedig i drin achosion eglwysig. Pan aeth tŷ Thomas William yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, cafwyd caniatad i gynal y gwasanaeth mewn ysgoldy perthynol i berchenogion y gwaith copr. Buwyd yn addoli yn yr ysgoldy hwn am tua deugain mlynedd. Pan ymadawodd Mr. David Davies a'r Mynyddbach, darfu i'r gangen yn y Pentrefchwith uno ag eglwys Ebenezer, yn y dref; yno y byddent yn addoli bob boreu Sabboth, hyd nes iddynt gael eu corpholi yn eglwys yn y flwyddyn 1836. Yn y flwyddyn 1839, dechreuwyd adeiladu y capel ar odre craig Kilvey, yr hwn a orphenwyd yn gynar yn 1840, ac agorwyd ef yn y flwyddyn hono, ond nid ydym yn deall i hanes yr agoriad gael ei anfon i'r Diwygiwr, nac un cyhoeddiad arall. Yn y flwyddyn 1842, rhoddwyd galwad i Mr. Evan Watkins, Llanelli, Brycheiniog, a chynaliwyd cyfarfod ei sefydliad yma Medi 28ain a'r 29ain y flwyddyn hono. Bu Mr. Watkins yn llafurio yma, ac yn Bethel, Llansamlet hyd haf y flwyddyn 1850, pryd y symudodd i Langattwg, Crughowell, lle y mae hyd yn bresenol. Ni fu gweinidog erioed anwylach gan ei bobl nag yr oedd ef gan bobl Canaan a Bethel, a gwnaeth yma waith mawr yn ystod yr wyth mlynedd y bu yn y lle. Yr oedd Capel Canaan wedi costio 702p. 6s., ac nid oedd nemawr o ddim wedi ei gasglu nes i Mr. Watkins ddyfod yma. Yn mhen saith mlynedd talodd yr holl ddyled a'r llogau, ac er mawr dristwch i'r bobl a'i carai mor anwyl ymadawodd yn fuan ar ol hyny. "Yr oedd y flwyddyn 1850, yn adeg anarferol o bwysig yn hanes eglwys Canaan. Yr oedd Elias Jenkins, Ysw., Kilvey House, a'i ddwy ferch, Miss Rebecca a Miss Sarah Jenkins, yn hynod o gynorthwyol i'r achos. Yr oedd y ddwy foneddiges yn aelodau yn Canaan, ac er mai yn Castle-street yr oedd Mr. Jenkins yn aelod, etto yr oedd yn addoli unwaith bob Sabboth yn Canaan, ac yn haelionus dros ben at yr achos. Hwy oedd cefn yr achos, ac annichonadwy dyweyd y da a wnaethant iddo yn yr ardal. Yr oeddynt yn gwneyd yr oll a wnaethant yn ddistaw, ac ni fynent glywed am eu gweithredoedd da; a'r dydd mawr yn unig a ddatguddia yr oll a wnaethant. Modd bynag, yn ngwanwyn 1850, bu farw Mr. Jenkins, ac yn haf yr un flwyddyn symudodd ei ferched o'r ardal i fyw, ac yn yr un adeg symudodd Mr. Watkins, y gweinidog, fel y nodir uchod, i Langattwg. Yr oedd y cyfnewidiadau hyn yn golledion mawrion anarferol i'r achos yn y lle, tra yn ennill i fanau eraill. Mewn gair, yn 1850, y cafodd eglwys Canaan er

  1. Diwygiwr, Mehefin, 1845, a llythyr Mr. John Howell.