Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Howell, yn wyr i Mr. Roger Howell, gynt gweinidog y Gellionen a Chwmllynfell, ac yn ddyn crefyddol iawn. Byddai yn pregethu yn achlysurol yn y Gellionen, lle yr oedd yn aelod, ac mewn manau eraill yn y gymydog. aeth. Dywedir iddo unwaith, wrth bregethu mewn tŷ yn yr ardal, roddi cerydd effeithiol iawn i ddyn am ddyfod yn ddiweddar i'r oedfa. Daethai y dyn i mewn pan oedd Mr. Howell ar orphen ei bregeth. "Yn awr," ebe y pregethwr, "er fy mod yn myned i derfynu, byddai yn well i mi ddyweyd ychydig yn ychwaneg er mwyn ein cyfaill M. N., yr hwn sydd newydd ddyfod i mewn," ac felly estynodd ei bregeth am ddeg munyd yn hwy nag y bwriadai. Bu y dyn da hwn yn ofalus iawn i ddwyn ei fab Roger i fyny yn grefyddol. Pan yn llangc lled ieuangc anfonwyd ef i ysgol ieithyddol a gedwid yn Abertawy gan un Mr. Rees. Tra yno y derbyniwyd ef yn aelod eglwysig gan Mr. W. Howell, yn y capel sydd yn awr yn meddiant yr Undodiaid. Tua y flwyddyn 1795, derbyniwyd ef i athrofa Caerfyrddin, lle y treuliodd ei amser yn fyfyriwr diwyd. Wedi gorphen ei amser yn yr athrofa bu am ryw yspaid yn athraw i blant J. Haynes, Ysw., arianydd, Abertawy. Yn y flwyddyn 1804, priododd a Miss Sarah Elizabeth, merch Mr. W. Price, Penyfan, Llanelli. Bu iddynt chwech o blant, a chawsant yr hyfrydwch o'u gweled oll yn grefyddol. Dewiswyd ac urddwyd ef yn 1805, fel y nodasom yn barod, yn weinidog i'r gynnulleidfa a ymneillduasai o'r Gellionen. Treuliodd ei oes yn ddedwydd a pharchus yn ei gysylltiad a'r eglwys hon. Yr oedd ei gof wedi gwaelu yn fawr yn ei flynyddau diweddaf, fel y byddai yn gorfod darllen ei bregethau, ond y fath oedd serch ei bobl tuag ato, fel yr oedd yn well ganddynt ei glywed ef yn darllen ei bregethau na chlywed llawer un mwy doniol yn eu traethu gyda'r hyawdledd mwyaf. Bu Mr. Howell farw Ebrill 29ain, 1843, yn 69 oed, a chladdwyd ef wrth gapel Baran. Gweinyddwyd yn ei angladd gan Mr. Davies, Cwmaman; Mr. Thomas, Glais; Mr. Powell, Cross Inn, a Mr. Griffiths, Castellnedd. Mr. Powell, a Mr. Griffiths fu yn pregethu oddiwrth Ioan ii. 20., ac 2 Cron. xxiv. 15, 16. O ran ei ymddangosiad corphorol yr oedd Mr. Howell yn ddyn nodedig o hardd, o faintioli cyffredin, o liw goleu, ac o edrychiad siriol a mwyn. O ran ei dymer yr oedd yn anghyffredin o garuaidd ac addfwyn, ac o ran ei ymddygiad nid oedd un dyn mwy boneddigaidd a dirodres yn rhodio y ddaear. Er ei fod o ran ei amgylchiadau bydol yn dirfeddianwr, yn gymharol gyfoethog, ac yn rhagorach ysgolhaig na phed war-ar-bymtheg o bob ugain o bregethwyr ei oes, yr oedd mor ostyngedig a diymhoniad a'r iselaf yn mysg ei frodyr. Nid oedd yn feddianol ar ddoniau poblogaidd fel pregethwr, ond yr oedd ei bregethau yn wastad yn llawn o synwyr a defnyddiau addysg i'w wrandawyr. Yr oedd ei haelioni a'i lettygarwch yn ddiarhebol. Byddai ef, ei wraig, a'i blant am y parotaf i roesawi dyeithriaid, a bu eu hanedd glud yn lletty fforddolion am ddegau o flynyddau. Estynodd ganoedd o ddarnau o arian i ddwylaw ei frodyr tlodion yn y weinidogaeth pan alwant heibio iddo ar eu teithiau. Bu yn cadw ysgol agos trwy ei holl oes, nid o herwydd fod ei amgylchiadau yn ei orfodi i wneyd hyny, ond o herwydd mai hyfrydwch ei fywyd oedd cyfranu addysg i blant ac ieuengctyd. Rhoddodd eu haddysg yn rhad i ugeiniau o blant y gymydogaeth, a bu rhai degau o bregethwyr ieuaingc yn derbyn eu haddysg ganddo. Mae rhai o honynt etto ar dir y rhai byw, megis Evans, Nazareth; Jones, gynt o Dalgarth; Watkins, Llangattwg; Williams, Hirwaun; Edwards, Jones, Powell, a Lewis Williams, America, &c.