Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn y flwyddyn 1831, ymfudodd o ddeugain i haner cant o'r aelodau gyda eu gilydd i dalaeth Pensylfania, America, a chan eu bod wedi trefnu i fyw yn yr un gymydogaeth, rhoddasant alwad i Mr. Daniel Jones, gwr ieuangc oedd newydd ddechreu pregethu yn y Baran , ac urddwyd ef gartref cyn iddo ef a'i eglwys gychwyn i'w taith. Gweinyddwyd yn yr urddiad gan y Meistri Howell, Baran; Rowlands, Cwmllynfell, a Powell, Cross Inn. Bu Mr. Jones, yn gweinidogaethu i'r bobl hyn yn America hyd ei farwolaeth. Gwanychodd hyn gryn lawer ar yr eglwys, ond yn raddol llanwyd lleoedd y rhai a ymadawsant. Yn y flwyddyn 1840, o herwydd llesgedd Mr. Howell, barnwyd yn angenrheidiol cael cynorthwywr iddo, ac yn nechreu y flwyddyn 1841, rhoddwyd galwad i Mr. Pryse, Cwmllynfell, i ddyfod yn gydweinidog ag ef. Parhaodd Mr. Pryse i ofalu am yr eglwys am flwyddyn ar ol marwolaeth Mr. Howell. Yn 1844, pan adeiladwyd capel yn Rhydyfro, ac y gollyngwyd tua 55 o aelodau Baran yno i ddechreu yr achos, rhoddodd Mr. Pryse ofal y fam-eglwys i fyny, a chymerodd ofal y gangen yn Rhydyfro. Yna rhoddodd eglwys Baran alwad i Mr. Davies, Cwmaman, a buont dan ei ofal ef hyd Ebrill, 1859, pryd y cymerodd ofal yr eglwys yn Cross Inn. Dilynwyd ef yn Baran gan Mr. T. Davies, Treforis, yn Mai, 1859, ac efe yw y gweinidog yno hyd y dydd hwn. Yn y flwyddyn 1862, adeiladwyd ysgoldy yn Nghwmclydach, mewn lle a elwir Pantyerwys, ac yn 1866, ffurfiwyd yno eglwys. Wedi colli ardaloedd poblog Rhydyfro a Chwmclydach, y mae cynnulleilfa Baran o angenrheidrwydd wedi lleihau yn fawr, gan nad yw y gymydogaeth uniongyrchol oddiamgylch y capel ond teneu iawn ei thrigolion, ac y mae amryw o'r amaethdai yr oedd eu preswylwyr gynt yn perthyn i Baran, yn awr yn cael eu preswylio gan Saeson, neu bobl o enwadau eraill. Yr oedd rhif yr aelodau yn 1842, yn 181, ond yn bresenol nid ydynt ond 65, er fod y gweinidog presenol wedi derbyn 79 o aelodau yn y deuddeng mlynedd diweddaf, a thua deugain trwy lythyrau. Y canghenau aethant allan o honi sydd wedi difa nerth y fam-eglwys, fel na ddaw mwyach mor lluosoced ag y bu, oddieithr i weithiau glo gael eu hagor yn yr ardal.

Y diaconiaid yn yr eglwys hon, o ddechreuad yr achos hyd yn awr, oeddynt Thomas Davies, Cwmgors; Rees Harry, Gartheithin; Phillip Bevan, Bwllfa ; William Hopkin, Godre'rgarth; John Howell, Nantmoel; Evan Llewellyn, a William Llewellyn, Gerdinen; David Jones, Nant melyn, a Jonah Williams, Cwmgors. Nid oes ond tri o'r rhai hyn yn fyw yn awr, sef John Howell, David Jones, a Jonah Williams.

Dau bregethwr yn unig a gyfodwyd yma er dechreuad yr achos, sef Daniel Jones, yr hwn a urddwyd yma cyn ei ymfudiad i'r America, a John Davies, yr hwn sydd yn bresenol yn Ynysmudw, ac yn ŵr ieuangc gobeithiol iawn.

Gadawodd Mr. Howell, y gweinidog cyntaf, ac un o sylfaenwyr yr achos, argraff ei dymer addfwyn a chariadus ar yr eglwys hon, fel na chlywyd un amser am unrhyw anghydfod na therfysg yma. Parhaed yr un dymer gristionogol i lywodraethu yma tra byddo careg ar gareg o'r adeilad yn sefyll, a dynion yn ymgynull i'r lle.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

ROGER HOWELL. Ganwyd ef mewn amaethdy o'r enw Pyllau Watkin, yn mhlwyf Llangafelach, yn y flwyddyn 1774 Yr oedd ei dad, Mr. John