mhell gan enwadau eraill. Mae yr eglwys hon wedi bod bob amser trwy ei holl dymor yn enwog am ei hysbryd tangnefeddus, a'i pharodrwydd yn ol ei rhif a'i gallu i gydweithredu gyda phob achos cyhoeddus. Gan fod y capel a adeiladwyd yma yn 1824, wedi myned yn ddadfeiliedig, adeiladwyd yma gapel newydd prydferth iawn yn 1858. Mae mynwent oddiamgylch iddo, a llawer wedi cael eu claddu ynddi.
BARAN.
Mae y capel hwn yn sefyll ar fin y mynydd yn nghwr uchaf plwyf Llangafelach. Dechreuwyd yr achos yma dan yr amgylchiadau canlynol:-Yr oedd yr hen eglwys Ymneillduol yn Gellionen, dan weinidogaeth Mr. Josiah Rees, wedi cael ei harwain er's rhai blynyddau oddiwrth yr hen athrawiaeth efengylaidd a bregethid yno o oes i oes, er dechreuad yr achos, acer fod llawer, o bosibl mwyafrif yr aelodau, wedi llyngcu syniadau Ariaidd y gweinidog, yr oedd yno nifer yn dwyn sel dros yr hen wirioneddau a broffesid ac a gredid gan eu tadau. Tua dechreu y ganrif bresenol aeth Mr. Rees, i bregethu ei olygiadau neillduol am berson Crist yn fwy digel nag y gwnelsai yn mlynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth, a phan ddaeth ei fab, Mr. Thomas Rees, wedi hyny Dr. T. Rees, Llundain, allan o'r athrofa, mynai rhai e. neillduo i fod yn gydweinidog a'i dad, er ei fod yn Undodwr proffesedigi Gwrthwynebid hyn gan y blaid driundodaidd yn yr eglwys, y rhai a fynent urddo Mr. Roger Howell. Canlyniad yr ymryson fu ymraniad. Aeth y Triundodwyr allan a dechreuasant gynal addoliad mewn amaethdy o'r enw Llwynefan, symudasant oddiyno i Nantmoel, ac ar ran o'r tir hwnw adeiladasant gapel Baran. Rhoddwyd les o 999 o flynyddau ar y tir gan Mr. John Howell, a'i fab a'i etifedd Mr. Roger Howell, am yr ardreth o bum' swllt yn y flwyddyn. Amseriad y les yw Hydref 1af, 1805, ond yr ydym yn tybied fod y capel wedi cael ei orphen a'i agor rai misoedd cyn hyny. Y personau canlynol oedd yr ymddiriedolwyr: David Howell, Cwmnant-hopkin; Evan Hopkin, Penlan; John Phillips, Tychwith; Hopkin Harry, Rhydyfro; Rees Thomas, Coedcaemawr; Harry Thomas, Rhydyfro; Phillip John, a Daniel John, Tresgwich; Thomas Thomas, Maestirmawr; Samuel Thomas, Llwyndomen, a Jenkin Jenkins, Cynordyfuch. Mawrth 14eg, 1805, urddwyd Mr. Roger Howell yn weinidog. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth, D. Peter, Caerfyrddin; D. Davies, Llanybri; J. Abel, Cydwely; T. Bowen, Castellnedd; J. Davies, Alltwen; J. Davies, Llansamlet; E. Evans, Penygraig; W. Gibbon, Capel Sion, a dau o weinidogion y Bedyddwyr, sef Mr. Rees, Felinfoel, a Mr. Davies, Salem. Parhaodd Mr. Howell i weinidogaethu yma am 38 o flynyddau. Gan mai mynydd anghyfanedd sydd ar y naill du i'r capel yr oedd y gynnulleidfa yn gorfod ymgasglu o bellder mawr. Yr oedd Baran gynt i lawer o deuluoedd fel Jerusalem, "Y man lle yr oedd yn rhaid addoli." Cyrchai pobl yno o'r Gerdinen, Llandremoruchaf, Llwyngweno, Penwaenfach, Cynhordyfach, Cefnparc, Llwyndomen, Craigtrebanos, Alltwen, Hendregradog, Ynysmudw, Pentwyn, Blaenegel, Bettws, &c. Yr oedd golwg brydferth i'w gweled ar y mynydd ar fore y Sabboth; rhai ar draed a rhai ar geffylau, yn brithio y mynydd wrth ddyfod o bob cyfeiriad i'w hoff deml i addoli. Erbyn y flwyddyn 1830, yr oedd y capel wedi myned yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr fel y bu raid ei helaethu.