Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blynyddau rhoddodd Lanharan i fyny, a chyfyngodd ei lafur i'r Taihirion a Bethlehem, Pentyrch-achos a ddechreuwyd trwy ei lafur ef. Tua y flwyddyn 1833, cyfododd teimladau anghysurus rhyngddo a rhai o aelodau y Taihirion, fel y barnodd yn well ymadael. Yn Gorphenaf, 1834, fel y nodwyd eisioes, dechreuodd ei weinidogaeth yn Nghlydach, lle y treuliodd weddill ei oes. Pan ffurfiwyd eglwys yn Nghadle, cymerodd ef ei gofal mewn cysylltiad a Chlydach. Bu farw yn ddisymwth iawn Ionawr 2il, 1845. Yr oedd wedi myned i Gadle i bregethu mewn angladd, a thra yn sefyll ar y fynwent i ddisgwyl yr angladd, syrthiodd i lawr mewn llewyg, fel y tybid. Cludwyd ef i'r Beaufort Arms, yn ymyl y fynwent, ond erbyn ei fod yno yr oedd yr enaid wedi ymadael a'i babell bridd. Bu farw yn driugain mlwydd oed.

Bu David Jones am rai blynyddau yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn Morganwg a Mynwy. Efe fyddai fynychaf yn nghyfarfodydd cyhoeddus Mynwy a dwyrainbarth Morganwg, yn pregethu yn gyntaf yn yr oedfa ddeg o'r gloch, a Hughes, Groeswen, neu Jones, Pontypool, ar ei ol. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, a'i lais yn berseiniol ac effeithiol iawn. Claddwyd ef yn mynwent Cadle, lle mae maen prydferth wedi ei osod ar ei fedd.

Y FELINDRE.

Ardal amaethyddol yw hon, yn y rhan ogleddol o blwyf Llangafelach, tua phedair milldir i'r gogledd o'r Mynyddbach. Yr oedd pregethu achlysurol yn y gymydogaeth hon er's llawer o flynyddau, o bosibl er y pryd y dechreuwyd yr achos sydd yn awr yn y Mynyddbach, ond nid ymddengys i addoliad cyson gael ei sefydlu yma cyn y flwyddyn 1823, pryd y cychwynwyd ef yn rheolaidd yn nhŷ David Thomas, yn agos i'r felin, y tŷ a breswylir yn bresenol gan Mr. Griffith Phillips. Yn 1824, adeiladwyd yma gapel bychan. Mr. D. Evans, Mynyddbach, a'r pregethwyr cynorthwyol a berthynent i'w eglwys, fu yn llafurio yma i gychwyn yr achos, a Mr. Evans fu y gweinidog hyd ei farwolaeth yn 1835. Wedi marwolaeth Mr. Evans, rhoddwyd galwad i Mr. John Davies, a bu ef yn gwasanaethu yr eglwys hon mewn cysylltiad a Chwmaman o Ebrill 5ed, 1836, hyd Ebrill 17eg, 1859. Wedi i Mr. Davies roddi y lle i fyny, cymerwyd y gofal gan Mr. Daniel, Mynyddbach. Bu yr eglwys dan ei ofal ef o Mai 15fed, 1859, hyd Gorphenaf 3ydd, 1864. Wedi ymadawiad Mr. Daniel, buwyd am tua phymtheng mis heb un gweinidog sefydlog. Yn 1866, rhoddwyd galwad i Mr. David Morgan, aelod o eglwys Cross Inn. Urddwyd ef yma Tachwedd 6ed, y flwyddyn hono. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. H. Davies, Bethania; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Griffiths, Abertawy; rhoddwyd y siars i'r gweinidog gan Mr. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, ac i'r eglwys gan ei hen weinidog, Mr. J. Davies, Cwmaman. Pregethwyd a gweddiwyd yn y prydnawn a'r hwyr gan Meistri J. Bevan, Waunarlwydd; J. Joseph, Llanedi; T. Davies, Treforis; J. Morgan, Cwmbach, ac F. Samuel, Abertawy. Yn mhen ychydig wedi ei urddiad yn y Felindre, cafodd Mr. Morgan alwad gan yr hen eglwys yn Llanedi, ac y mae yn parhau i wasanaethu y ddwy eglwys.

Mae eglwys a chynnulleidfa y Felindre yn cael ei gwneyd i fyny o amaethwyr a'u gweithwyr. Nid yw erioed wedi bod yn lluosog iawn, ac nis gall fod, gan nad yw y boblogaeth ond teneu, a bod capeli heb fod yn