Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyda holl foddion gras. Ni byddai ei le yn y capel un amser yn wag. William Baker, a fu yn ddiacon am flynyddau. Yr oedd yn grefyddwr gweithgar ryfeddol. Byddai ei ysgwydd ef dan y pen trymaf i'r arch bob amser. Dyn cryf o feddwl, siaradwr doniol, a chanwr rhagorol, oedd Daniel Davies. Bu yntau yn ddiacon am flynyddau. Mae enwau y ddau frawd rhagorol Joseph a Benjamin Rees, yn deilwng o'u cofnodi. Ďynion gwerthfawr oedd y ddau. Rhagorai Joseph Rees fel tangnefeddwr. Efe fynychaf oedd yn cael ei benodi i derfynu pob anghydfod rhwng brodyr a chwiorydd tramgwyddedig, ac anfynych y methai lwyddo. Un rhagorol i feithrin ieuengetyd mewn crefydd oedd Benjamin Rees. Yr oedd yn dwyn sel mawr dros yr ysgolion dyddiol a Sabbothol, ac yn wastad yn myned yn mlaen gyda'r oes; ïe, yn blaenori pob mudiad daionus yn yr eglwys a'r ardal. Bu farw y ddau frawd teilwng yma o'r Geri Marwol o fewn pedwar diwrnod i'w gilydd, yn mis Hydref, 1866. Flynyddau yn ol yr oedd yma hen chwaer nodedig iawn o'r enw Ann Jones, neu "Nancen o'r Hendy," fel y gelwid hi. Yr oedd yn un hynol o danllyd dan y gair, byddai ei hamenau yn uwch na'r eiddo neb arall yn y gynnulleidfa. Yr oedd Mr. Davies, o'r Alltwen, yn un o'i hoff bregethwyr hi.

Y pregethwyr a godwyd yn yr eglwys hon ydynt,

Evan Jones, mab Evan Jones, Rhydypandy. Dechreuodd bregethu yn 1824 neu 1825. Bu yn pregethu am flynyddau lawer. Trodd at y Methodistiaid ryw gymaint o amser cyn ei farwolaeth.

William Thomas, mab David Thomas, o'r Fagwyr, un o henuriaid eglwys Clydach. Dechreuodd bregethu o gylch y flwyddyn 1831. Efe a drodd at y Bedyddwyr.

William Hill. Addysgwyd ef yn yr Athrofa Orllewinol, yn Plymouth. Urddwyd ef yn Bodmin, yn Mawrth, 1851. Mae yn awr yn Beeralston, gerllaw Tavistock.

William Williams. Dechreuodd bregethu yn 1845. Urddwyd ef yn y Bryn, Llanelli, yn 1849, a bu farw yn mhen ychydig ar ol hyny. Rhoddwn ei fywgraphiad yn nglyn a hanes eglwys y Bryn.

Isaac James. Dechreuodd bregethu yr un amser a W. Williams, a chafodd ei urddo yn weinidog i'r Cymry yn Walker, gerllaw Newcastle-on-Tyne, yn 1862.

David Davies. Dechreuodd bregethu yn 1860. Bu am ddwy flynedd yn cael addysg yn yr athrofa Normalaidd yn Abertawy, a phedair blynedd yn athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yn Mynyddsion, Casnewydd, yn 1867, ac yno y mae etto yn barchus a llwyddianus. [1]

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DAVID JONES. Ganwyd ef yn Nhreforis tua y flwyddyn 1784. Derbyniwyd ef yn aelod yn y Mynyddbach gan Mr. David Davies, a dechreuodd bregethu oddeutu y flwyddyn 1808. Urddwyd ef yn Ebenezer, Aberdar, Gorphenaf 29ain, 1813, pryd y gweinyddodd y Meistri Davies, Abertawy; Hughes, Groeswen; Evans, Zoar, Merthyr; Lewis, Ystradfellte, ac eraill. Symudodd yn mhen tua dwy flynedd o Aberdare i Lanharan a'r Taihirion, lle y bu am flynyddau yn enwog a llwyddianus iawn. Yn mhen rhai

  1. Llythyr Mr. E. Owen.