Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ein sylw etto. Yn Gorphenaf, 1834, dechreuodd Mr. David Jones, Taihirion, ei weinidogaeth yma, a pharhaodd i lafurio yn y lle hwn mewn cysylltiad a Chadle, o'r pryd y dechreuwyd yr achos yno, hyd ei farwolaeth yn Ionawr, 1845. Yn haf y flwyddyn 1846, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Thomas, y pryd hwnw o Abertawy. Urddwyd ef yma Mehefin 16eg, 1846. Rhoddir hanes yr urddiad yn y Diwygiwr fel y canlyn :"Mehefin 15fed a'r 16eg, cynaliwyd cyfarfodydd yn Hebron, Clydach, er neillduo Mr. Thomas Thomas, o Abertawy, i gyflawn waith y weinidogaeth, dros yr eglwys gynnulleidfaol a gyferfydd yn y lle hwnw. Am 6 nos Lun, gweddiodd Mr. Morgan Evans, Milo, a phregethodd Meistri T. Rees, Siloa, a D. Evans, Castellnedd. Am 10 bore ddydd Mawrth, gweddiodd Mr. J. Davies, Mynyddbach; traddododd Mr. D. Rees, Llanelli, araeth ar natur eglwys; derbyniwyd y gyffes ffydd gan Mr. D. Davies, Llundain; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Morris, Glandwr, a phregethwyd siars i'r gweinidog gan Mr. P. Griffiths, Alltwen. Am 2, gweddiodd Mr. J. Thomas, Bwlchnewydd, a phregethodd Meistri W. Jones, Abertawy, ar ddyledswydd yr eglwys, a Thomas Roberts, Llanelli, a J. Evans, Capel Sion, i'r gynnulleidfa yn gyffredinol. Yn yr hwyr, pregethodd Mr. J. Davies, Cwmaman, a Mr. D. Davies, Llundain. Yn nechreu y flwyddyn 1848, cymerodd Mr. Thomas ofal yr eglwys yn Nglandwr, ond ni roddodd Glydach i fyny am rai blynyddau wedi hyn. Rhanai ei lafur yn gyfartal rhwng y ddwy eglwys. Yn mhen amser, gyda bod ei lafur yn cynyddu, teimlodd yn angenrheidiol iddo roddi Clydach i fyny, a chyfyngu ei hun i Landwr. Yn 1853, rhoddodd yr eglwys yn Hebron alwad i Mr. David Evans, o athrofa Aberhonddu. Urddwyd ef yma Rhagfyr 28ain a'r 29ain, 1853. Pregethwyd ar natur eglwys gan Mr. T. Jones, Treforis; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Davies, Llandilo; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. E. Jacob, Abertawy; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. E. Davies, athraw athrofa Aberhonddu, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. T. Thomas, Glandwr. Wedi i Mr. Evans symud oddiyma i Britonferry, rhoddwyd galwad i Mr. Esay Owen, o athrofa Aberhonddu, ac efe yw y gweinidog yma yn bresenol, ac i fod, fel yr hyderwn, am flynyddau lawer etto. Urddwyd Mr. Owen, Mehefin 27ain, 1861. Dechreuwyd yr addoliad gan Mr. E. Griffiths, Abertawy; pregethodd Mr. J. Thomas, Liverpool, ar natur eglwys; holwyd y gofyniadau arferol gan Mr. W. Williams, Hirwaun; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. P. Griffiths, Alltwen; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr. J. Morris, athraw duwinyddol athrofa Aberhonddu, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan Mr. D. Rees, Llanelli. Traddodwyd hefyd amryw bregethau yn y prydnawn a'r hwyr, ac yn yr hwyr y dydd blaenorol, yn Nghlydach a'r Glais. Yr oedd 38 o weinidogion a phregethwyr yn bresenol. Mae eglwys gref, heddychol, a gweithgar, yn Nghlydach er's amryw flynyddau bellach, a phob arwyddion yn bresenol mai yn gryfach gryfach yr â. Yn mysg y ffyddloniaid o'r eglwys hon sydd wedi diange i'r wlad well, gellid enwi David Davies, ac Evan Jones, Rhydypandy, y rhai fuont yn henuriaid yn yr eglwys. Yr oedd y ddau yn nodedig am eu gwresogrwydd a'u gweithgarwch gyda chrefydd. Yr oedd Richard Jones, Cefnygarth, a John Jenkins, Gelliwastad, yn ddiaconiaid, ac yn ddynion diwyd a haelionus iawn. Bu Morgan Griffith, Ynyspenllwch, brawd y diweddar Mr. Griffith, Casnewydd, yn aelod a diacon defnyddiol am lawer o flynyddau. Yr oedd yn ddyn hynaws a llawn o hawddgarwch, ac yn un o'r rhai ffyddlonaf