Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn mis Medi, 1828, urddwyd ef yn Bethel, Llansamlet, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Mr. Methusalah Jones, Merthyr, ac eraill. Yn 1832, priododd ddynes ieuangc o Landilo, ac yn mis Mai yr un flwyddyn, ymfudodd ef a'i wraig i'r America, ond yn mhen y bythefnos wedi iddo dirio yno, yn nechreu Gorphenaf, bu farw o'r Geri Marwol, a chafodd ei wraig ddychwelyd i wlad ei genedigaeth yn weddw, unig, a galarus. Clywsom Mr. David Thomas yn pregethu ddwy neu dair o weithiau, ac nid yn aml y gwrandawsom neb o ddoniau mwy poblogaidd. Yr oedd yn ymadroddwr rhwydd, a'i lais yn rhyfeddol o berseiniol. Yr oedd yn ddyn ieuangc pur ei fuchedd a dirodres yn ei holl ymddygiadau, a gwnaeth lawer o waith mewn ychydig o amser.

HEBRON, CLYDACH.

Mae y pentref prydferth hwn yn cael ei enw oddiwrth yr afonig Clydach yr hon sydd yn rhedeg trwy ei ganol, ac yn ymarllwys i'r Tawy ychydig islaw iddo.

Mae yr ardal hon yn hen artrefle Ymneillduaeth. Adeiladwyd capel y Gellionen yn y gymydogaeth hon mor foreu a'r flwyddyn 1692, a bu olyniad o weinidogion efengylaidd eu golygiadau yn pregethu ynddo i gynulleidfaoedd lluosog hyd o fewn ychydig i ddiwedd y ganrif ddiwedda Pan ddechreuodd udgorn y weinidogaeth yn Gellionen fyned i roddi sain anhynod, cymerwyd anedd-dy yn Mhentrefmalwod, yn agos i Glydach, at gynal moddion crefyddol gan bobl y Mynyddbach. Mae yn dra thebygol fod yma wasanaeth crefyddol lled gyson yn cael ei gynal er amser Mr. Lewis Rees, ond yn nhymor gweinidogaeth Mr. David Davies y ffurfiwyd yma eglwys. Nis gwyddom a gymerodd hyny le cyn y flwyddyn 1809, pryd y rhanwyd y cylch gweinidogaethol rhwng Mr. D. Davies, a Mr. D. Evans. Y pryd hwnw cymerodd Mr. Davies ofal yr eglwysi yn Ebenezer a'r Ysgetty, yn nghyda'r gangen fechan yn Nghlydach, a gadawodd y Mynyddbach a Threforis i Mr. Evans. Parhaodd Mr. Davies i ofalu am yr achos yn Nghlydach hyd derfyn ei oes, ac yn y flwyddyn ar ol ei farwolaeth ef, sef yn 1817, rhoddasant eu hunain dan ofal Mr. Evans, Mynyddbach. Gan fod yr anedd-dy yn Mhentrefmalwod yn rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, penderfynwyd adeiladu capel yn mhentref Clydach. Addoldy lled fychan ydoedd, ond rhwng y llawr a'r oriel, cynwysai o ddau i dri chant o bobl. Agorwyd y tŷ hwn, Mawrth 22ain, 1821. Yn y boreu, dechreuwyd yr addoliad gan Mr. W. Beynon, Llangynwyd, a phregethodd y Meistri W. Jones, Penybont; M. Lewis, Ystradfellte, ac H. Williams, Llanelli, oddiwrth Salm cxxxviii. 2., Esaiah xxv. 6., 1 Petr iii. 18. Yn yr hwyr, pregethodd Mr. David Griffiths, Cydwely, a Mr. Thomas Davies, Abertawy. Cafodd yr addoldy bychan hwn wasanaethu i'r gynnulleidfa hyd 1848, pryd yr adeiladwyd y capel hardd a helaeth presenol. Gan fod llafur Mr. Evans mor fawr, a bod yr eglwys yn Nghlydach wedi dyfod yn gymharol gref, anogodd hwynt i ddewis gweinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i Mr. William Thomas, o athrofa y Neuaddlwyd. Urddwyd ef yma Rhagfyr 17eg, 1830. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1834, bu raid iddynt ymwrthod ag ef am nad oedd yn ymarweddu yn deilwng o'i swydd, ond o herwydd ei fod yn ddyn mor hynod o serchus, a'i ddoniau fel pregethwr mor swynol, darfu i rai o'r aelodau lynu wrtho, ac adeiladu capel bychan iddo mewn rhan arall o'r ardal. Daw y capel hwnw dan