Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

D. Hughes, B.A., Tredegar, ac ar ddyledswydd yr eglwys gan ei gweinidog blaenorol, Mr. Rees, Rodborough. Traddodwyd amryw bregethau yn Bethel ac addoldai eraill yn yr ardal, y nos flaenorol, ac ar brydnawn a hwyr ddydd yr urddiad. Mae Mr. Rowlands yn parhau i lafurio yma gyda pharch a llwyddiant cynyddol, a'r achos yn ychwanegu nerth o flwyddyn i flwyddyn.

Capel lled fychan, 40 troedfedd o hyd wrth 20 o led, heb un oriel ynddo, oedd Bethel yn ei fgurf gyntefig. Yn 1839, gosodwyd oriel mewn un pen iddo. Traul yr adeiladaeth yn 1818, a'r oriel yn 1839, oedd 352p., heb gyfrif cludiad y defnyddiau. O herwydd yr ychwanegiad dirfawr at yr eglwys a'r gynnulleidfa yn 1849, bu raid tynu yr hen adeilad i lawr, ac adeiladu un mwy. Maint y capel presenol yw 47 troedfedd wrth 37 dros y muriau, a'r draul oedd 508p., heb gyfrif codiad a chludiad y cerig a defnyddiau eraill, yr hyn a wnaed yn rhad gan yr ardalwyr. Arbedwyd wrth hyn tua 150p. Mr. Thomas, Glandwr, oedd cynllunydd ac arolygydd y gwaith. Agorwyd ef Chwefror 13eg a'r 14eg, 1851. Mae yr adeilad yn un cadarn, hardd, a chyfleus, a'r ddyled oll wedi ei thalu er's blynyddau bellach. Yn nhymor gweinidogaeth Mr. Rees, adeiladwyd ysgoldy yn Birchgrove, ac yn awr y mae yno gapel tlws agos wedi ei orphen.

Mae eglwys Bethel wedi bod yn rhagorol o dangnefeddus o'i dechreuad hyd yn bresenol, ac er iddi fod dan fesur o anfantais o herwydd gorfod newid ei gweinidogion mor fynych, a bod am y rhan fwyaf o'i thymor yn ymddibynol ar ran yn unig o lafur ei gweinidogion, o herwydd fod eglwysi eraill dan eu gofal, etto, mae yr achos wedi llwyddo a gwreiddio yn y gymydogaeth, ac yn bresenol y mae yn gryfach nag y bu ar un cyfnod o'i hanes. Bu yma nifer o grefyddwyr rhagorol yn perthyn i'r achos o bryd i bryd; megis Evan Dafydd, yn nhŷ yr hwn y cynelid y moddion cyn adeiladu y capel cyntaf; Llewellyn Llewellyn, William Williams, Thomas Evan, a John Jones, dau bregethwr cynorthwyol, y rhai a grybwyllasom eisioes yn hanes y Mynyddbach; John Dafydd, Robert Robert, Dafydd Morris, a William Llewellyn, hen farworyn llawn a dân, yr hwn a roddai fywyd i'r cyfarfodydd a'i amenau a'i ddiolchiadau toddedig. Mae Rachel Bevan, yr hon a gerddai yr holl ffordd i'r Mynyddbach, fynychaf a phlentyn sugno yn ei chol, cyn cyfodi capel yma, yn aros etto yn mysg y byw; hi, a'r hen frawd ffyddlon a siriol, Dafydd Bevan, feddyliwn, yw yr unig rai o'r aelodau gwreiddiol sydd wedi eu gadael yn ngweddill gan angau.

Mr. John Davies, gweinidog yr eglwys Gymreig yn yr Amwythig, a Mr. William Davies, yr hwn a urddwyd yn ddiweddar yn Llwydcoed, Aberdare, yw yr unig bregethwyr a godwyd yma.

COFNODIAD BYWGRAPHYDDOL.

DAVID THOMAS. Ganwyd ef yn rhyw ran o sir Aberteifi, ond nis gwyddom pa le yno. Nid ydym yn hysbys o amser ei enedigaeth, nac o'i hanes yn moreu ei oes. Daeth i Abertawy i weithio ei gelfyddyd fel dilledydd, ac yno y dechreuodd bregethu, fel y nodasom yn hanes Ebenezer, tua y flwyddyn 1825, feddyliwn. Yn 1827, yr oedd yn gweithio yn y Taibach, ac yn pregethu ar y Sabbothau lle y celai ddrysau yn agored. Efe yn yr amser hwnw fu yn foddion i gychwyn achos yr Annibynwyr ar Gefncribwr.