Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid oedd gan yr Annibynwyr a breswylient yn y plwyf un lle nes i fyned iddo na Chastellnedd, y Mynyddbach, neu yr Alltwen. Yr oedd Mr. John Davies, Llansamlet, flynyddau cyn ei farwolaeth yn hiraethu am gael achos Annibynol yn y plwyf lle y preswyliai. Wedi llawer o ymgynghori cafodd gan gynifer o aelodau y Mynyddbach ag a breswylient yn yr ardal i uno ag ef i adeiladu capel, o fewn haner milldir i eglwys y plwyf, ar fin y ffordd oedd yn arwain o Abertawy i Gastellnedd, ac yn agos i haner y ffordd rhwng y ddwy dref. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1818, ac agorwyd ef ar y Sabboth, Awst 9fed, y flwyddyn hono, pryd y pregethodd Mr. Davies, Llansamlet, oddiwrth Hag. ii. 9; Mr. Davies, Alltwen, oddiwrth Heb. iii. 6, a Mr. Sadrach Davies, Maendy, oddiwrth Rhuf. viii. 13. O herwydd lluosogrwydd y torfeydd, bu raid cynal y gwasanaeth yn yr awyr agored. Dywedir fod o bedair i bum' mil o bobl wedi ymgynnull yno. Bu yr eglwys dan ofal gweinidogaethol Mr. Daniel Evans, Mynyddbach, hyd 1828. Yr oedd yr aelodau erbyn hyn yn bedwar ugain o rif, a chan nad allai Mr. Evans roddi iddynt ond un bregeth yn y mis, barnent y buasai yn well iddynt gael gweinidog iddynt eu hunain. Rhoddasant alwad i ŵr ieuangc doniol iawn, o'r enw David Thomas, ac urddwyd ef yma Medi 28ain, 1828. Bu yma hyd fis Mai 1832, pryd yr ymfudodd i America. Ar ol ei ymadawiad ef buwyd heb un gweinidog sefydlog hyd 1837, pryd y rhoddwyd galwad i Mr. Isaac Harris, mewn cysylltiad ar Mynyddbach. Yn y flwyddyn 1839, aeth Harris yn rhy ddrwg ei gymeriad i gael ei ddyoddef i fyned i un pulpud, ac felly bu raid i'r eglwys hon, yr un modd a'r Mynyddbach ymwrthod ag ef. Yn fuan wedi hyny rhoddodd yr eglwys yn Bethel alwad i Mr. W. Morris, mewn cysylltiad a Glandwr, a bu Mr. Morris yn ei gwasanaethu am oddeutu dwy flynedd. Yna rhoddwyd galwad i Mr. Evan Watkins, mewn cysylltiad a Chanaan. Bu Mr. Watkin yn llafurio yma gyda pharch nodedig nes iddo symud i Langatwg yn 1850. Yn 1852, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Davies, myfyriwr yn athrofa Aberhonddu, ac urddwyd ef yma Mehefin 14eg a'r 15 fed. Y nos gyntaf, gweddiodd Mr. J. Davies, o athrofa Aberhonddu, a phregethodd Meistri Davies, Llandilo, a Rees, Llanelli. Am 10, yr ail ddydd, gweddiodd Mr. Griffiths, Abertawy: pregethodd Mr. Davies, Llandilo, ar natur eglwys; holwyd y gofyniadau gan Mr. Hughes, Dowlais; gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. Roberts, Dowlais; rhoddwyd siars i'r gweinidog ieuangc gan Mr. Davies, athraw athrofa Áberhonddu. Am 2, gweddiodd Mr. Jones, Maesteg, a phregethodd Meistri Pryse, Cwmllynfell, a Griffiths, Alltwen. Am 6, gweddiodd Mr. G. John, athrofa Aberhonddu, a phregethodd Meistri Thomas, Glynnedd, a Rees, Llanelli, yr olaf ar ddyledswydd yr eglwys. Deunaw mis fu tymor gweinidogaeth Mr. Davies yma. Derbyniodd alwad i Siloa, Llanelli, a symudodd yno yn nechreu 1854, yn groes iawn i deimladau ei bobl yn Llansamlet, ond nid yn groes i ewyllys yr Arglwydd, fel y mae y canlyniadau wedi dangos. Ar ymadawiad Mr. Davies, rhoddodd yr eglwys Bethel ei hun dan ofal Mr. J. Rees, Canaan, a than ei ofal ef y bu nes iddo yn 1866, symud i Rodborough. Yn 1867, rhoddwyd galwad i Mr. Rowland Rowlands, o athrofa Caerfyrddin, yr hwn a urddwyd yma Gorphenaf 3ydd a'r 4ydd, yn y flwyddyn hono. Yn nghyfarfod yr urddiad, traddodwyd y gynaraeth gan Mr. W. Morgan, un o athrawon athrofa Caerfyrddin; derbyniwyd y gyffes ffydd, a gweddiwyd yr urdd-weddi gan Mr. J. Jones, Machynlleth; pregethwyd ar ddyledswydd y gweinidog gan Mr.