Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams, William Hughes, Samuel Hughes, Evan Griffiths, yr hwn sydd yn awr yn aelod yn Ebenezer, Abertawy; William Richard, John Jones, Evan Mathews, Joseph Evans, David Rees, Rees David, John Davies, William Williams, John Evans, a Thomas Jones. Mae amryw o'r brodyr teilwng hyn wedi myned oddiwrth eu gwaith at eu gwobr. Mr. Joseph Maybery, oedd un o'r prif offerynau yn nghychwyniad yr achos. Yr oedd yn ddyn nodedig o wybodus, coethedig, a llafurus gyda'r achos, ac yn ddyn hollol rydd oddiwrth syniadau bychain, crebachlyd. a gwael. Ni chawsom erioed y fraint o adnabod dyn mwy rhagorol yn mhob ystyr nag ef. Went llafurio yn ffyddlon i gyfodi yr achos i fod yn gryf a hunan-gynhaliol yn Nglandwr, arweiniwyd ef gan Ragluniaeth i Lanelli, lle y bu drachefn yn un o brif golofnau yr achos Saesonig yno hyd ei farwolaeth. Bu farw y cristion gwerthfawr hwn Ionawr 16eg, 1871, yn 74 oed. Pe byddai yn mhob eglwys ond un diacon o fath Mr. Maybery, gwelid golwg well yn fuan ar agwedd crefydd yn Nghymru. Cyfaill teilwng i Josepa Maybery, oedd Robert Monger. Gwasanaethodd ei swydd yn effeithiol fel diacon, a bu farw a llwyddiant yr achos yn agos at ei galon. Gorphenodd ei yrfa Ionawr 1af, 1868, yn 75 oed. Y diweddaf o ddiaconiai Siloh a ymadawodd a'r fuchedd hon, yw John Davies—dyn siriol, gweithgar, a lawn o rinweddau.

Mae yn eglwys Glandwr er's blynyddau o dri i bedwar cant o aelodau, a dichon nad oes un eglwys, yn ol ei rhif a'i sefyllfa, yn fwy haelionus at bob achos cartrefol a chyhoeddus. Mae ei chasgliadau cenhadol tua haner can punt y flwyddyn, ac nid oes braidd un achos perthynol i'r enwad nad yw yn cael ei gynorthwyo gan yr eglwys hon.

Y pregethwyr a gyfodwyd yma ydynt y rhai canlynol:

Daniel Jones, Wickham Market, Suffolk. Urddwyd ef yn y flwyddyn 1843, ac y mae yn parhau etto yn gryf a ffyddlon yn ngwaith ei Arglwydd. William Roberts, Gt. Mersey-street, Liverpool. Un genedigol o Llanfyllin, ydyw, ond yma y dechreuodd bregethu yn amser Mr. Morris.

Joseph Morris, Brunswick Chapel, Caerodor. Mab hynaf Mr. Morris, y gweinidog.

Griffith Morris, ail fab Mr. Morris. Bu y gwr ieuangc gobeithiol hwn farw ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus.

William Humphreys, yn nglyn a hanes eglwys Cwmbwrla y rhoddir ei gofiant ef.

Thomas Davies, yr hwn a aeth i Unol Daleithiau America.

Joseph John, gweinidog yr eglwys Saesonig yn Ystalyfera.

David Rees, a urddwyd yn ddiweddar yn Witton Park, yn ngogledd Lloegr.

BETHEL, LLANSAMLET.

Yr oedd amryw aelodau perthynol i'r enwad Annibynol yn cyfaneddu yn y plwyf hwn yn mhob oes er dyddiau yr Anghydffurfwyr, a bu eglwys fechan, neu gangen o eglwys y Chwarelaubach, Castellnedd, yn ymgynnull am lawer o flynyddau mewn anedd-dy dan fynydd y Drymmau, dan ofal gweindogaethol Mr. Joseph Simons; ond mae yn ymddangos i'r achos hwn ddarfod rai blynyddau cyn dechreuad y ganrif bresenol, ac o hyny allan