Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. R. Pryse, Cwmllynfell, a Mr. J. Evans, Capel Sïon, oddiwrth Heb. ii. 16, a Job xix. 28. Dranoeth am 10, gweddiodd Mr. D. Roberts, Dowlais. Traddodwyd y gynaraeth gan Mr. D. Rees, Llanelli; holwyd y gofyniadau gan Mr. T. Davies, Abertawy; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan Mr. W. Jones, Heolycastell, Abertawy, a rhoddwyd siars effeithiol i'r gweinidog ieuange gan Mr. W. Williams, Wern, y pryd hwnw o Liverpool, dan weinidogaeth pa un y dygasid Mr Thomas i fyny yn Rhosllanerchrugog. Am 2, gweddiodd Mr. P. Griffiths, Alltwen, a phregethodd Mr. D. R. Stephen, (Bedyddiwr,) Abertawy, yn Saesoneg, a Mr. J. Hughes, Dowlais, oddiwrth Dat. ii. 27, a 1 Cron. xxix. 5. Yn yr hwyr, dechreuwyd gan Mr. Daniel Davies, (Bedyddiwr,) Abertawy, a phregethodd Mr. Williams, Wern, yn absenoldeb Mr. D. Williams, Llanwrtyd, ar ddyledswydd yr eglwys, a Mr. W. Jones, Penybont, i'r gynnulleidfa, oddiwrth Act. xiii. 15, a Salm. iv. 4.

Dwy flynedd fu tymor gweinidogaeth Mr. Thomas yma. Yn 1839, symudodd i Raiadrgwy, yn groes i deimladau ei bobl yn Nglandwr, ond barnai mai ei ddyledswydd oedd gwneyd hyny er mwyn iechyd ei deulu. Yn mhen ychydig fisoedd ar ol ymadawiad Mr. Thomas, rhoddwyd galwad i Mr. W. Morris, Llanfyllin, yr hwn a ymsefydlodd yma yn Mai, 1839. Cynhaliwyd cyfarfod sefydliad Mr. Morris, Hydref 18fed a'r 19eg, a chymerodd y gweinidogion canlynol ran yn ngwasanaeth cyhoeddus y cyfarfod; Meistri J. Lewis, Caerodor; P. Griffiths, Alltwen; D. Rees, Llanelli; J. Evans, Crwys; W. Jones, Penybont; J. Davies, Aberdare; J. Evans, Capel Sion, a D. Evans, Castellnedd. Darfu i ddoniau poblogaidd Mr. Morris, ar unwaith orlenwi y capel, a chan fod gradd o ddiwygiad crefyddol yn yr holl eglwysi ar y pryd, aeth y capel yma yn llawer rhy fychan i gynwys y gynnulleidfa, felly, adeiladwyd y capel helaeth presenol yn 1840. Parhaodd Mr. Morris i lafurio gyda mesur helaeth o lwyddiant hyd ddiwedd y flwyddyn 1847, ac yn nechreu y flwyddyn ganlynol symudodd i Birkenhead. Yn ddioed ar ol ei ymadawiad ef, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Thomas, Clydach, y gweinidog presenol. Mae Mr. Thomas wedi cyflawni ei waith fel gweinidog yma bellach am dair-blynedd-ar-hugain, ac y mae ol ei lafur i'w ganfod yn amlwg ar yr eglwys a'r ardal. Heblaw talu y ddyled drom oedd ar y capel pan ddechreuodd ef ei weinidogaeth yma, gosodwyd allan amryw ganoedd o bunau i'w helaethu a'i addurno, ac i adeiladu tŷ yn ei ymyl, ac ysgoldy hardd ar safle yr hen Goleg, yn 1862. Y mae hefyd ysgoldy eang wedi ei adeiladu ar y Brynhyfryd, lle y cedwir ysgolion dyddiol a Sabbothol, ac ysgoldy arall yn Mhlasmarl, yr hwn a adeiladwyd gan yr eglwysi yn Nglandwr, a Libanus, Treforis, cydrhyngddynt. Traul adeiladaeth y Coleg oedd 90p. ; y capel a adeiladwyd yn 1829, 560p.; y capel y 1840, 760p.; yr adgyweiriad, ac adeiladau oddiamgylch iddo yn 1862, 900p. Costiodd ysgoldy Brynhyfryd 600p., a rhan eglwys Siloh o ysgoldy Plasmawr 160p. Fel hyn gwelir fod yr eglwys weithgar hon wedi gosod allan ar ei chapeli a'i hysgoldai, heb gyfrif y llogau, dros dair mil o bunau mewn saith-mlynedd-a-deugain, ac y mae dros ddwy ran o dair o'r swm hwn wedi ei wneyd yn yr ugain mlynedd diweddaf.

Yr aelodau cyntaf a dderbyniwyd yma wedi sefydliad yr achos oedd Mr. Robert Morgan, a'i wraig. Enwau y diaconiaid yma o ddechreuad yr achos hyd yn bresenol ydynt Joseph Maybery, David Williams, a adwaenir wrth yr enw "Cymro o Mexico;" William Rees, Robert Monger, William