Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyfaneddent yn y dref a'r gymydogaeth. Yr oedd Mr. Luke yn gristion pur, yn bregethwr buddiol, ac yn ŵr boneddig yn holl ystyr y gair. Yr oedd ef a'i briod yn ddiarhebol am eu haelioni at bob achos crefyddol a dyngarol.

Mae hanes Mr. Barfit, canlyniedydd Mr. Luke, yn Abertawy, yn hollol anhysbys i ni; ac nis gwyddom ddim ychwaneg am Mr. Brittan, na'i fod yn enedigol o Gaerodor, ac iddo ymfudo i'r America ar ei ymadawiad o Abertawy. Nis gwyddom hefyd ddim am Mr. Robert Taylor, ond iddo gael ei addysgu yn athrofa Hackney, ac iddo symud o Abertawy i Somerton, lle yr oedd hyd yn ddiweddar.

SILOH, GLANDWR.

Cyn dechreu yr achos yn y lle hwn, yr oedd trigolion yr ardal yn hynod am eu hanfoesoldeb a'u hanwybodaeth. Yn y flwyddyn 1822, dechreuodd rhai o aelodau y Mynyddbach gynal cyfarfodydd gweddio yn y gymydogaeth, a chychwynwyd yma ysgol ar nosweithiau o'r wythnos, ac ar y Sabboth. Dechreuwyd yr ysgol ar nos Fawrth mewn lle a elwir y Cwm. Sion Rosser, David Davies, David Rosser, David Williams, Joseph Maybery, William Rees, a Thomas Williams, oedd y prif offerynau i gychwyn yr ysgol. Ar ol bod yn y Cwm am dair wythnos, aeth y lle yn anghyfleus, a chan fol y gwaith copr, a elwir y Gwaithbach, yn sefyll ar y pryd, cawsant ganiatad gan Mr. Morgans, arolygydd y gwaith, i fyned i'r swyddfa (office) i gadw eu hysgol a'u cyfarfodydd. Aeth y lle hwnw drachefn yn rhy gyfyng, fel y bu raid iddynt symud i ystordy y gwaith. Buwyd fel hyn yn symud o fan i fan am agos ddwy flynedd. Yn 1824, cafwyd darn cyfleus o dir gan Syr John Morris, ar ba un yr ailadeiladwyd ysgoldy, yr hwn a alwyd y Coleg, o herwydd ei fod wedi cael ei amcanu at gadw ysgol ddyddiol yn gystal a gwasanaeth crefyddol. Wedi adeiladu y Coleg, cafwyd yma bregethu lled gyson agos bob nos Sabboth. Pan dorodd yr adfywiad mawr allan yn 1828, cynyddodd rhif yr aelodau i'r fath raddau, fel y barnwyd yn addas eu corpholi yn eglwys, a bu raid adeiladu capel helaeth ar ddarn o dir yn gyfochrog a'r Coleg. Gwnaed hyn yn y flwyddyn 1829. Yr oedd hwn yn addoldy prydferth, a chymharol helaeth. Galwyd ei enw ef Siloh. Llwyddodd yr achos yn fawr wedi cael addoldy cyfleus, fel erbyn 1840, yr oedd y tŷ hwn wedi myned yn rhy fychan, fel y bu raid ei ailadeiladu a'i helaethu yn y flwyddyn hono. Drachefn yn 1862, helaethwyd yr oriel, fel yr eistedda arni rai degau yn fwy nag o'r blaen, ac ar yr un amser cafodd yr eisteddleoedd oll eu had-drefnu, a'r holl adeilad ei brydferthu yn fawr.

Mr. D. Evans, Mynyddbach, oedd gweinidog cyntaf yr eglwys hon, yr hon a gorpholwyd ganddo yn eglwys Annibynol yn y flwyddyn 1828, fel y nodir uchod, ond o herwydd fod ei gylch gweinidogaethol mor eang, fel nas gallasai ymweled a Glandwr ond anfynych, dewiswyd Mr. E. Griffiths, Abertawy, yn gydweinidog ag ef yn Siloh, a buont ill dau yn gwasanaethu yr achos gyda ffyddlondeb mawr am rai blynyddau. Ar farwolaeth Mr. Evans, rhanwyd maes eang ei lafur rhwng tri gweinidog. Rhoddodd yr eglwys yn Nglandwr alwad i Mr. Robert Thomas, myfyriwr yn athrofa y Drefnewydd. Urddwyd Mr. Thomas yma Ebrill 18fed a'r 19eg, 1837. Y noson gyntaf gweddiodd Mr. W. Williams, Tredwstan, a phregethodd