Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyd yma yn sefyll draw, gan ofni na fydd i'r Undeb gyflawni yr hyn a addawyd. Pe ysgogai eglwysi Cymru fel pe byddent yn ddifrifol, llenwid y capel yn y man, a byddai y gynnulleidfa hon mor gynorthwyol ag un yn Morganwg at leihau y dyledion cyffredinol. Yn awr y mae pob amod a wnaed ar dderbyniad y capel i'r Undeb wedi ei gyflawni. Dirprwywyd y Meistri D. Rees, Llanelli, a R. Thomas, Glandwr, i gasglu yn mysg y Saeson yn Abertawy; cawsant yn yspaid wyth diwrnod gant a thair punt. Casglodd yr un personau yn Merthyr a Dowlais 40p. Bu y Meistri Jones, Penybont; Evans, Cymar; Griffiths, Llanharan; Williams, Maendy; Hughes, Dowlais; Powell, Caerdydd, a Jones a Davies, Abertawy, yn ddiwyd yn eu gwahanol ddosbarthion, fel y mae y sir, gan mwyaf, wedi ei cherdded yn lled lwyddianus; yn awr troir at siroedd eraill Cymru." Casglwyd amryw ganoedd yn Morganwg a'r siroedd cylchynol yn yr ymdrech hon, ond arosodd y rhan fwyaf o'r ddyled nes i Mr. Evan Watkins, y pryd hwnw o Ganaan, ymgymeryd a'r gorchwyl o'i dalu yn y flwyddyn 1843. Ymroddodd ef gydag egni penderfynol at y gwaith. Ysgrifenodd filoedd o lythyrau i bob parth o'r deyrnas, a theithiodd ganoedd o filldiroedd i gasglu, fel erbyn diwedd y flwyddyn 1846, yr oedd y rhan fwyaf o'r baich wedi cael ei symud. Gwnaeth Mr. Jones a'r gynnulleidfa yn Heolycastell eu rhan yn deilwng, ac fe lafuriodd amryw o'r gweinidogion cymydog aethol yn dda, ond i lafur digyffelyb Mr. Watkins y mae llwyddiant yr ymdrech yn benaf i'w briodoli. Wedi symud baich y ddyled aeth pob peth yn mlaen yn gysurus a llwyddianus dros lawer o flynyddau, ond nid yw y gynnulleidfa yn awr mor lluosog ag y bu rai blynyddau yn ol, o herwydd fod amryw gapeli Saesonig eraill wedi cael eu hadeiladu yn y dref. Effeithiodd agoriad y capel Presbyteraidd yn fawr ar gynnulleidfa Heolycastell, am mai yno yn benaf yr oedd y Scotiaid yn addoli cyn iddynt gael capel eu hunain. Mae Mr. Jones yn awr yn iach a bywiog mewn corph a meddwl, er ei fod o fewn ychydig fisoedd i bedwar ugain mlwydd oed.

Nid ydym yn gwybod am neb a gyfodwyd i bregethu yn yr eglwys hon ond Mr. C. M. Davies, Wallingford, a Mr. Thomas Lloyd, St. Ives, sir Huntingdon. Maent hwy yn weinidogion parchus yn Lloegr er's degau o flynyddau bellach.

COFNODION BYWGRAPHYDDOL.

THOMAS LUKE. Ganwyd ef yn Salisbury, yn y flwyddyn 1777. Yr oedd ei rieni yn perthyn i'r eglwys Annibynol yn ninas Salisbury, ac ymunodd yntau a'r eglwys hono yn dra ieuangc. Yn 1802, aeth yn yfyriwr i athrofa Dr. Bogue yn Gosport. Wedi bod yno am rai blynyduau ymsefydlodd yn Alton, lle y bu yn llafurio am bum' mlynedd, ond ni chafodd ei urddo yno. Symudodd i Hwlffordd, lle yr urddwyd ef Awst 29ain, 1811. Yn nechreu 1815, symudodd i Abertawy, ac oddiyno yn 1821, i Taunton, lle y bu yn weinidog defnyddiol a pharchus am ddwy flynedd-ar-hugain. In 1843, rhoddodd ei weinidogaeth i fyny, a symudodd i Goodwig, Abergwaun, lle yr oedd etifeddiaeth gan ei wraig, ac yno y bu yn cyfaneddu hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Rhagfyr 12fed, 1853. Cyhyd ag y parhaodd ei nerth, pregethai unwaith bob Sabboth yn nghapel yr Annibynwyr yn Abergwaun, er mwyn yr ychydig Saeson a