Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn bregethwr rhagorol, ac y buasai yn debygol o gyfodi yr achos i gryfder, pe buasai ei gallineb a'i lywodraeth ar ei dymherau yn gyfartal a'i alluoedd fel pregethwr. O herwydd ei annoethineb bu yn foddion i rwygo yr eglwys. Aeth a rhyw nifer gydag ef allan i'r dyben o gychwyn achos newydd. Adeiladodd gapel York Place, ond methodd wneyd un daioni yno drachefn. Y canlyniad fu iddo ymadael, ac i'r capel gael ei werthu i'r Bedyddwyr. Wedi ymadawiad Mr. Brittan, o Hoolycastell, rhoddwyd galwad i Mr. Eliezer Jones, myfyriwr yn athrofa Caerfyrddin, a mab yr enwog Dr. Arthur Jones, Bangor. Urddwyd ef yma Ebrill 9fed, 1828, pryd y gweinyddwyd gan Meistri Peter, Caerfyrddin; Hamerton, Newton, ac eraill. Bu Mr. Jones yma hyd Mawrth, 1832, pryd y symudodd i Rodborough. Mae yn bresenol yn weinidog eglwys fawr yn Ipswich. Dilynwyd Mr. Jones gan Mr. Robert Taylor, ond ni bu ef yma nemawr o amser cyn i'r capel gael ei gauad, ac i'r gynnulleidfa gael ei gwasgaru, o herwydd y ddyled oedd yn aros ar y lle. Wedi i bethau fod yn yr agwedd flin hon am tua dwy flynedd, cafodd y lle ei ail agoryd yn 1836, pryd y dechreuodd Mr. William Jones, y gweinidog presenol ei lafur yma. Ymddangosodd yr adroddiad canlynol, yr hwn a ddengys sefyllfa pethau ar y pryd, yn y Diwygiwr am 1838, tu dal. 181:-" Adeiladwyd y capel e:'s pedair-blynedd-ar-hugain yn ol, a chan na allesid cael dernyn o dir ar werth y pryd hwnw, buwyd dan yr angenrheidrwydd o lesi y sylfaen am 35p. o ardreth flynyddol. Mae yr adeilad yn helaeth a chyfleus, ond nid oes dim afreidiol yn ei gylch; yr oedd y draul o'i adeiladu yn llawer, llog yr hyn at yr ardreth flynyddol a wnai swm lled fawr i'w dalu bob blwyddyn, ond yr oedd y gynnulleidfa mor fawr a chyfrifol fel y telid hi yn rhwydd, a lleiheid llawer ar y corph han gryn amser; ond o herwydd amgylchiadau a phersonau, y byddai yn anfuddiol manylu yn eu cylch ar hyn o bryd, ymranodd y gynnulleidfa, a buan iawn yr aeth yr ardreth a'r llog yn rhy drwm i'r rhai a arosodd yn Castle Street i'w ddwyn. Goddefid i'r naill a'r llall i gynyddu, gwywodd y gynnulleidfa, nychodd yr achos, a'r diwedd fu cau y drws i fyny; yna ymwasgarodd yr ychydig oeddynt wedi bod yn ffyddlon yn mhob tywydd, fel defaid heb ganddynt fugil. Gwnaed parotoadau uniongyrchol i werthu y capel; dangosai yr Undodwyr a'r Elwyswyr am y mwyaf awyddus am dano; ar hyn, gwresogodd calonau ychydig o gyfeillion, hoffasent ei feini, a thosturiasant wrth lwch yr achos yn y fan; daethant yn mlaen a chynygiasant atal y gwerthiant, ar yr amod i'r 'Undeb Cyffredinol' dderbyn y capel i mewn; ac yn nghyfarfod yr Undeb Cyffredinol, derbyniwyd ef yn rheolaidd fel achos anghyffredin, ar yr amod fod Abertawy a Morganwg yn ymysgwyd yn gyntaf; a'r hyn ymrwymodd y Parchn. W. Jones, Penybont; T. Davies, Abertawy; D. Jones, Clydach; J. Evans, Crwys; D. Rees, Llanelli, a'r Meistri D. Rees, a D. Gibbs, Abertawy; W. Hughes, ac S. Rosser, Ysgetty; M, Morgans, Rhianfawr; J. Jones, Brynbrain; J. Powell, Cefny fforest, ac R. Monger, Glandwr, yn feichnion am y ddyled, a phrynasant y gwaelod am 700p,, yr hyn, at y ddyled oedd yn aros, a thraul tynu y gweithredoedd, a wnai fwy na 1,900p. Gwnaeth yr ymddiriedolwyr agor y capel, ac yn fuan gwahoddasant Mr. W. Jones, Rhydybont, yno i weinidogaethu; yr hwn, trwy lawer o aberth personol, a gydsyniodd a'u cais, ar y dybiaeth fod yr Undeb yn cymeryd y ddyled; adffurfiwyd yr eglwys, a dynesodd llawer o'r gwrandawyr, ar y ddealldwriaeth na fuasai i'r hunlle fu bron a gwasgu yr anadl o honynt gynt yn cael pwyso arnynt mwy; ond y mae llawer