Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

samlet, yn gynorthwywr i'w dad-yn-nghyfraith, Mr. Lewis Rees, ac yr oedd yn naturiol i'r hen weinidog deimlo yn ffatriol i hyny. Wedi i Mr. Davies, Llangeler, ddyfod yn weinidog i'r lle, barnai cyfeillion gwresocaf Mr. Davies, Llansamlet, fod yr hen weinidog yn cael ei anmharchu, trwy angerdd y parch a ddangosid i'r gweinidog newydd, ac felly, cynyddodd oerni rhwng y ddwy blaid, nes y darfu i'r rhai mwyaf selog dros Mr. Davies, Llansamlet, yn fuan ar ol marwolaeth Mr. Rees, ymneillduo o'r Mynyddbach a Libanus, Treforis, a gosod addoliad i fyny yn nhŷ Mr. Evan Rees, Treforis. Yr oeddynt o bymtheg i ugain o rif. Aeth Mr. Davies, Llansamlet, i weini yr ordinhadau iddynt, ond o herwydd eu bod yn cael edrych arnynt fel gwrthwynebwyr i Mr. Davies, Llangeler, a'i bobl yn y Mynyddbach a Threforis, nid elai nemawr o bregethwyr yr Annibynwyr atynt, ond Mr. Davies, Llansamlet yn unig. Parhaodd ef i fod yn weinidog iddynt, yn cael ei gynorthwyo gan bregethwyr y Methodistiaid, hyd ei farwolaeth, yna rhoddasant eu hunain a'u capel i fyny i gyfundeb y Methodistiaid. Hyn oedd dechreuad Methodistiaeth yn Nhreforis.

HEOLYCASTELL, ABERTAWY.

Mae dechreuad yr achos hwn yn ffrwyth llafur ac ymdrechion hunanymwadol Mr. D. Davies, gweinidog Ebenezer, a rhai o aelodau ei eglwys. Gwelent hwy fod angen am le yn y dref i Saeson o olygiadau Annibynol i ddoli, a bod plant amryw o honynt yn debygol o fyned at enwadau eraill, neu fyned yn hollol ddigrefydd, oddieithr i wasanaeth crefyddol yn yr iaith Saesonig gael ei gynal yn y dref, gan fod llawer a honynt yn anhyddysg yn y Gymraeg. Yr aelodau o Ebenezer a gydweithredent a Mr. Davies i gychwyn yr achos Saesonig, oeddynt Meistri Roger Hopkins, Thomas Jones, a Henry Griffiths, yn nghyda rhai pobl ieuaingc. Adeiladwyd y capel yn Heolycastell yn y flwyddyn 1814, ac agerwyd ef Rhagfyr 28ain a'r 29ain, yn yr un flwyddyn, pryd y pregethwyd gan Meistri W. Warlow, Milford; Peter, Caerfyrddin; Williams, Llanelli; East, Frome, wedi hyny o Birmingham, a Thorpe, Caerodor. Y mae y capel hwn yn awr yn helaeth iawn mewn cyferbyniad i gapeli yn gyffredin, ond yr amser yr adeiladwyd ef nid ymddengys fod un addoldy yn y Dywysogaeth mor helaeth ag ef. Yr oedd traul yr adeiladaeth tua dwy fil o bunau, a chan na chasglwyd ond ychydig mewn cymhariaeth ar y cychwyniad, bu y ddyled arno yn agos a lladd yr achos, ac yn waradwydd i'r enwad am fwy nag ugain mlynedd. Pe buasai Mr. Davies, Ebenezer, yn cael iechyd a bywyd am ychydig o flynyddau yn hwy, mae yn ddiau y buasai yr holl ddyled yn cael ei dileu yn fuan, ond gan fod ei iechyd ef yn gwaelu ar y pryd, ac iddo farw yn mhen dwy flynedd wedi hyny, cafodd y baich trwm ei adael fel hunlle i lethu yr achos ieuangc a gwan. Yn fuan wedi agoriad y capel, rhoddwyd galwad i Mr. Thomas Luke, y pryd hwnw o Hwlffordd. Bu ef yma o 1815 hyd 1821, yn dderbyniol iawn fel pregethwr, ac yn sefyll yn uchel yn ngolwg trigolion y dref, ond nid ymddengys iddo wneuthur ond ychydig mewn cymhariaeth at ddileu y ddyled oedd ar y capel. Ar ol ymadawiad Mr. Luke, daeth yma un Mr. Barfit, ond nid ymddengys iddo aros yma ond dwy neu dair blynedd o hwyaf. Dilynwyd ef gan Mr. Brittan, gwr genedigol o Gaerodor. Dywedir fod Mr. Brittan