Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Birkenhead, a rhoddodd yr eglwysi yn Nglandwr a Threforis i fyny. Yn 1850, ymsefydlodd Mr. Thomas Jones, yn awr o Abertawy, yma, a bu yn gwasanaethu yr achos yn effeithiol a rhyfeddol o barchus hyd y flwyddyn 1858, pryd y symudodd i Lundain. Yr oedd yr eglwys yn Libanus yn lluosog oddiar agoriad y capel a adeiladwyd yn 1831, ond yn nhymor gweinidogaeth Mr. Jones y daeth y lle i enwogrwydd cenhedlaethol. Oddiar ymadawiad Mr. Jones, buwyd drachefn yn ymddibynu ar weinidogaeth achlysurol hyd 1862, pryd yr urddwyd Mr. Evan Evans, o athrofa Aberhonddu. Cymerodd urddiad Mr. Evans le Mehefin 25ain a'r 26ian, a bu yn nodedig o boblogaidd a pharchus tra yr arosodd yn y lle. Yn 1865, derbyniodd alwad o Salem, Caernarfon, a symudodd yno, yn groes iawn i deimladau yr eglwys a'r gynnulleidfa yn Nhreforis. Wedi byw unwaith etto ar weinidogaeth achlysurol hyd 1869, rhoddwyd galwad i Mr. William Emlyn Jones, y gweinidog presenol, ac yr ydym yn hyderu fod i Mr. Jones dymor hir o ddefnyddioldeb a chysur yn y lle pwysig hwn, yr hwn sydd yn cynyddu yn gyflym yn ei boblogaeth. Mae eglwys Libanus er's mwy nag ugain mlynedd bellach wedi ei chyfodi i sylw ac enwogrwydd neillduol trwy fod ei gweinidogion mor enwog ac adnabyddus; a'n dymuniad ydyw iddi gael y fraint o gadw y safle uchel yr hon y mae wedi gyrhaedd. Mae haelioni yr eglwys a'r gwrandawyr yn teilyngu y ganmoliaeth uwchaf.

Y rhai canlynol yn unig a gyfodwyd i bregethu yma er pan y mae yr eglwys ar wahan oddiwrth y Mynyddbach.

Richard Richards. Dechreuodd bregethu yma yn 1847, ac yn fuan wedi hyny ymfudodd i'r America, lle yr urddwyd ef. Bu am ychydig amser yn weinidog yn Ebenezer, Pontypool, ar ol ei ddychweliad i'r wlad hon. Mae yn awr yn byw yn Abertawy.

Josiah R. Lewis, yn awr o Dorrington, sir Amwythig. Dechreuodd bregethu yn 1861. Ar derfyniad ei efrydiaeth yn Aberhonddu, urddwyd ef yn Glasbury, a symudodd oddiyno yn ddiweddar i Dorrington.

W. M. Davies. Yn 1861 y dechreuodd yntau bregethu. Aeth o athrofa Aberhonddu i Edinburgh i astudio Phisygwriaeth gyda y bwriad i fyned allan yn genhadwr. Y mae wedi cyrhaedd safle uchel fel myfyriwr meddygol.

Joseph Joseph, a ddechreuodd bregethu yn 1867, ac sydd yn awr yn fyfyriwr yn athrofa Aberhondd

Bu amryw ddynion rhagorol yn dal cysylltiad a'r achos hwn o bryd i bryd. Megis John Evans, yr hwn oedd yn ddyn o feddwl galluog, yn gyfansoddwr emynau chwaethus iawn, ac yn swyddog eglwysig defnyddiol a dylanwadol. Yr oedd llawer o ragoriaethau yn perthyn i Thomas Evan, William James, a Thomas Richards, ac yr oedd Daniel Evans yn un hynod o ddefnyddiol a medrus gyda chyfarfodydd gweddio y bobl ieuaingc. Nid yn gyffredin y cyfarfyddid a dyn mwy medrus mewn cyfeillach eglwysig na Daniel Dafydd, yr hwn yn ddiweddar a gyrhaeddodd ben ei daith. O'r holl hen frodyr ffyddlon a welsom yn Libanus ddeugain mlynedd yn ol, nid oes braidd un yn aros ar dir y byw, ond yr hen frawd gonest a didwyll Mr. Josiah Rees, ac y mae yntau yn cyflymu tua'r wlad, lle na ddywed y preswylwyr, "Claf ydwyf."

Mae yn deilwng o sylw, mai cangen o Libanus yw eglwys y Mrthodistiaid yn Nhreforis. Fel y nodasom yn hanes y Mynyddbach ac Ebenezer, yr oedd rhai yn yr eglwys yn awyddus am ddewis Mr. John Davies, Llan-