Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd. Edrychid ar adeiladu capel o fewn dwy neu dair milldir i addoldy y fam-eglwys yn gystal a rhwyg, ac yn brawf o ddiogi. Ystyrid cerdded Ilawer o filldiroedd i'r addoliad ar fore y Sabboth fel prawf o ragoriaeth mewn crefydd. Mae y syniad hwn o eiddo yr hen bobl yn cael ei osod allan yn dda gan Williams, Bethesda, yn y penill canlynol:

"Mae crefyddwyr a'u tiemladau,
'Nawr mor dyner nad aent trwy
Wres nac oerfel i addoliad,
O fewn milldir fach neu ddwy;
Rhaid cael temlau'n agos agos,
Tŷ cwrdd yma, tŷ cwrdd draw,
Gormod gwaith yw cerdded milldir,
Chwaethach cerdded wyth neu naw."

Barnai pobl y Mynyddbach mai diogi i gerdded, a difaterwch crefyddol, ac nid lles ysbrydol eu hardal boblog, oedd yn peri i bobl y Tycoch awyddu am gael addoldy yn Nhreforis. Pa fodd bynag, fe drefnodd rhagluniaeth yn ei hamser i bobl Treforis gael yr hyn a ddymunent. Daeth galwad i Mr. William Edwards, gweinidog y Groeswen, ddyfod i aros am rai misoedd yn yr ardal, pan yr oedd yn adeiladu Pontyfforest, wrth Dreforis. Yr oedd Mr. Edwards yn ŵr dylanwadol iawn yn mysg boneddwyr y wlad ar gyfrif ei fedr a'i enwogrwydd fel adeiladydd pontydd, ac yr oedd iddo barch mawr fel pregethwr gan bawb a'i hadwaenai. Llwyddodd Mr. Edwards i gael gan Mr. Rees a'i bobl yn y Mynyddbach foddloni iddo ef adeiladu capel yn Nhreforis i'r gangen a gyfarfyddent yn y Tycoch, ond gosod amod yn y weithred, na byddai cyfarfodydd i gael eu cynal ynddo ar foreu y Sabbothau, rhag lleihau cynnulleidfa y Mynyddbach, ac na byddent i fyned yn eglwys ar eu penau eu hunain. Cydunodd y bobl a'r amodau caethion hyn. Adeiladodd Mr. Edwards y capel, a chasglodd ddigon i ddwyn y draul yn mysg y boneddigion yr oedd ef yn adnabyddus a hwy, a rhoddodd y capel heb un geiniog o ddyled arno yn anrheg i'r gynnulleidfa. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1782. Capel cymharol fychan oedd hwn, ond yr oedd yn ddigon i ateb i boblogaeth y lle y pryd hwnw. Yn fuan wedi sefydliad Mr. Davies, Llangeler, yn y Mynyddbach, aeth capel Treforis yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr, fel y bu raid ei helaethu yn 1796. Yn 1831, cafodd ei ailadeiladu a'i helaethu yn fawr, ac yn 1857, adeiladwyd a helaethwyd ef y drydydd waith, pryd y costiodd yn agos ddwy fil o bunau, y rhai a dalwyd oll mewn ychydig o flynyddau. Eleni, (1871,) etto, mae y gynnulleidfa gref, anturiaethus, a gweithgar hon yn adeiladu ei chapel y bedwerydd waith, ac y mae hwn i fod yr addoldy helaethaf a mwyaf ardderchog yn yr holl Dywysogaeth. Bydd yn werth o saith i wyth mil o bunau. Mr. John Humphreys yw yr adeiladydd.

Dan yr un weinidogaeth a'r Mynyddbach y bu yr achos hwn o'r dechreuad hyd farwolaeth Mr. Daniel Evans, yna dewisodd yr eglwys weinidog iddi ei hun. Ei gweinidog cyntaf oedd Mr. William Hughes, o Amlwch, brawd y diweddar Mr. D. Hughes, Trelech. Urddwyd ef yn nechreu y flwyddyn 1836. Bu yma hyd ddechreu y flwyddyn 1841, pryd y bu raid i'r eglwys ymwrthod ag ef o herwydd anfoesoldeb ei gymeriad. Wedi hyn buwyd am rai blynyddau yn byw ar weinidogaeth achlysurol. Tua y flwyddyn 1845, rhoddwyd galwad i Mr. W. Morris, mewn cysylltiad a Glandwr. Hoffid Mr. Morris yn fawr, a bu ei weinidogaeth yn dra llwyddianus am y tymor byr y bu yma. Yn 1847, derbyniodd alwad o