Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddichonadwy iddo deimlo, ac ymdrechodd yn ol y nerth oedd ynddo i ganu yr hen benill hwnw:

"Os rhaid i gystudd garw'r groes,
I ddilyn f'ysbryd ddydd a nos,
Os rhaid, gwna fi yn foddlon iawn."

Dranoeth, sef dydd Iau, Rhagfyr 26ain, 1816, anadlodd allan ei ysbryd a'i bwys ar haeddiant holl ddigonol ei Waredwr. Claddwyd ei ran farwol mewn daeargell yn ymyl capel Ebenezer. Yn awr wedi helaethu yr addoldy, y mae ei feddrod dan ganol yr adeilad. Yr oedd torf ddirfawr yn yr angladd, y rhai a anerchwyd gan y Meistri Luke, Abertawy; Davies, o'r Alltwen, a Jones, o Drelech—cyfeillion mynwesol yr ymadawedig. Fel hyn y machludodd un o ser dysgleiriaf Cymru; ond machludodd yma i gyfodi a llewyrchu yn fyrdd tanbeidiach yn nheyrnas nefoedd.

Gadawodd Mr. Davies chwech o blant yn amddifaid o dad a mam, y rhai ydynt oll yn fyw hyd y dydd hwn, ac yn golofnau amlwg o ofal a thiriondeb Tad yr amddifaid. Y mae ei ddau fab yn weinidogion enwog, sef Mr. David Davies, Stoke Bishop, ger Caerodor, a Mr. John Davies, Homerton, ger Llundain.

Yn ystod gweinidogaeth o chwe' blynedd-ar-hugain, derbyniodd Mr. Davies dros ddwy fil o aelodau i'w eglwysi; a'r hwn a wyr bob peth yn unig a wyr nifer yr eneidiau a drowyd trwyddo at yr Arglwydd yn ei deithiau pregethwrol mynych trwy Gymru a Lloegr.

LIBANUS, TREFORIS.

Er nad oes ond tair-blynedd-a-deugain er pan gorpholwyd yr eglwys a gyferfydd yn y capel hwn yn eglwys Annibynol, yr oedd yn y gymydogaeth hon gangen o eglwys Ty'rdwncyn yn cynal addoliad cyhoeddus yn rheolaidd er's amryw oesau. Bernir fod gwasanaeth crefyddol wythnosol yn cael ei gadw yn gyson yn y Tycoch er y flwyddyn 1682, os nad cyn hyny, gan aelodau Ty'rdwncyn a gyfaneddent yn y gymydogaeth, a byddai rhai o aelodau y Chwarelbach, Castellnedd yn dyfod yn fynych i'r cyfarfodydd hyn. Dywedir fod y bobl a gyfarfyddent yn y Tycoch yn rhai diarhebol am eu gwresogrwydd crefyddol. Pan gyfododd Methodistiaeth daeth rhai o brif bregethwyr yr enwad hwnw yn achlysurol i bregethu i'r gynnulleidfa yn y Tycoch, a'r canlyniad fu yno, fel agos yn mhob ardal arall, i rai o'r bobl fyned yn Fethodistiaid, a ffurfio achos Methodistaidd yn Llansamlet. Mae yn deilwng o sylw, mai canghenau o'r hen eglwysi Ymneillduol oedd agos pob un o'r cymdeithasau Methodistaidd cyntaf a ffurfiwyd yn Nghymru. Nid ydym yn gwybod am gymaint ag un gymydogaeth hollol ddi-Ymneillduaeth lle y gosododd Methodistiaeth ei thraed i lawr am y pump neu y deng mlynedd cyntaf o'i hanes. Teimlid er's blynyddau fod y Tycoch yn le lled anghyfleus i gynal y cyfarfodydd wedi i boblogaeth Treforis luosogi, a bod angen am adeiladu tŷ cyfarfod, ond yr oedd Mr. Lewis Rees, a phobl y Mynyddbach yn groes i hyny, rhag ofn y buasai pobl Treforis, ar ol cael tŷ cyfarfod, yn ymneillduo o'r Mynyddbach, ac yn myned yn eglwys Annibynol. Syniad cyffredin yr hen bobl dda gynt oedd cael rhyw un lle mawr i gyfarfod ynddo bob bore Sabboth, a chadw addoliadau yn yr hwyr mewn pump neu chwech o wahanol ardal-