Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

darllenydd at ei lyfr emynau, yr hwn a gyhoeddwyd tuag ugain mlynedd yn ol gan Mr. Griffiths, Abertawy. Byddai yn werth i bob un feddianu y llyfr bychan hwn, yr hwn a ellir bwrcasu am chwe' cheiniog.

Er i Mr. Davies gael ei fendithio a chyfansoddiad nerthol, etto, "llestr pridd " ydoedd, a darfu i lafur caled a diatal ei anmharu, a hau hadau marwolaeth ynddo yn fuan wedi iddo gyrhaedd ei haner canfed flwyddyn. Yr oedd am fwy na blwyddyn cyn ei farwolaeth yn dechreu teimlo fod amser ei ymddatodiad yn agoshau. Pregethodd yn nodedig o effeithiol ar y Sabboth cyntaf o flwyddyn olaf ei fywyd, oddiwrth y geiriau, "O fewn y flwyddyn hon y byddi farw," a chyfansoddodd emyn nodedig o gyfaddas i'w chanu ar ol y bregeth, y pedwerydd penill o ba un sydd fel y canlyn:

"Rwy'n teimlo rhyw ddadfeiliad mawr,
O fewn fy mhabell bridd yn awr;
A thebygolrwydd dan fy mron,
Y bydda'i farw'r flwyddyn hon."

Parhaodd i wanychu fis ar ol mis, nes i natur yn y diwedd ymollwng yn llwyr dan bwys ei llesgedd. Yn nghymanfa Gwynfe, sir Gaerfyrddin, yn niwedd Mehefin, 1816, y traddododd ei bregeth olaf mewn cyfarfod cyhoeddus. Yr oedd pob gair a lefarai yn disgyn yn ddwfn i galonau ei wrandawyr, er nad oedd yn medru traddodi ei genadwri yn ei nerth arferol. Deallodd ei holl gyfeillion y pryd hwnw fod yr udgorn arian ar ddystewi. Canodd yn iach i'w frodyr yn y weinidogaeth a'r dorf yn gyffredinol ar ddiwedd y bregoth, hyd oni chyfarfyddent yn nghymanfa a chynnulleidfa y rhai cyntaf-anedig; yna rhoddodd y penill canlynol o'i gyfansoddiad ei hun allan i'w ganu, a hawdd i bawb ddeall nad oedd un llygad sych yn y gynnulleidfa wrth ei ganu:

"Mae'r arwyddion yn cynyddu
Mae fy ngwely fydd y clai,
Gyda'r pryfed mân caf orwedd,
Dyna'r diwedd i bob rhai ;
Pan b'o f'enaid yn ymadael
A'r ddaiarol demi hon,
Caf ehedeg yn ddiorphwys
Mewn i'r lân Baradwys lon."

Pan eisteddodd i lawr, gofynodd i un o'i frodyr am ddyferyn o win, o herwydd ei fod yn teimlo ei hun ar lewygu. Wedi yfed y gwin adfywiodd ychydig. Aeth oddiyno adref, ac ni fu oddicartref wedi hyny; ond pregethodd i bobl ei ofal agos bob Sabboth hyd o few mis i'w farwolaeth. Yn mis Hydref, 1816, cafodd ergyd a ysigodd ei natur lesg, ac a gyflymodd ei datodiad, yn marwolaeth ei anwyl briod. O'r pryd hwnw hyd derfyn ei oes, yr oedd yn amlwg i bawb o'i gydnabod ei fod yn disgyn yn gyflym i lawr dros risiau marwolaeth. Y tro diweddaf y bu yn y capel oedd ar Sabboth cymundeb, tua thair wythnos cyn ei farwolaeth. Y pryd hwnw rhoddodd ddeheulaw cymdeithas i dri-ar-ddeg o bersonau ar eu derbyniad i'r eglwys. Siaradodd ychydig ar yr ordinhad, a dywedodd wrth y gynnulleidfa ei fod yn dra sicr mai dyna y tro diweddaf y gwelent ef yn eu mysg. Sabboth rhyfedd oedd hwnw yn Ebenezer. Yr oedd y lle yn Bochim—pob grudd yn wlyb gan ddagrau, a phob calon yn drom gan ofid.

Y nos cyn ei farwolaeth dywedodd wrth ei gyfaill Dafydd Hugh, un o ddiaconiaid eglwys Ebenezer, ei fod yn teimlo mor gysurus ag yr oedd yn