Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofnodi fel prawf o'i ddylanwad fel pregethwr:—"Dygwyddodd fy nhad fyned ar neges i Ddinbych unwaith yn amser Mr. Llwyd, ar ddiwrnod cyfarfod blynyddol yr Annibynwyr; aeth i wrandaw y pregethau am ddeg a dau, a chafodd y fath hyfrydwch fel yr arferai fyned yno i'r cyfarfod blynyddol ar ol hyny am amryw flynyddau. Adroddai am un cyfarfod hynod. Yr oedd gweinidog dyeithr o'r Deheudir yn pregethu am ddau o'r gloch gyda nerth ac effeithioldeb anarferol. Yn mysg y gwrandawyr yr oedd yr hen William Lewis, fel y gelwid ef, o Ddinbych y pryd hwnw, ond a symudodd ar ol hyny i fyw i sir Fon. Yr oedd William Lewis yn bregethwr tanllyd iawn gyda'r Methodistiaid, a llais fel udgorn Sinai ganddo. Yr oedd teimladau William Lewis wedi eu dwys gyffroi er ys meityn dan bregeth y gwr dyeithr. Ar ganol yr hwyl adroddodd y pregethwr y darn penill:

'Ca'dd ddwr o'r graig, ca'dd fanna gwiw,
Dan Sinai fe'i cynaliodd Duw,
Er saled oedd eu drych.'

Tarawodd y llinell Dan Sinai fe'i cynaliodd Duw,' y gynnulleidfa fel gwefriad trydan, a thorodd William Lewis allan y fonllef fawr, 'O diolch! Do! 'Dan Sinai fe'i cynaliodd Duw.' Y man mwyaf ofnadwy y bu dynion erioed! Ond fe'i cynaliodd Duw hi yno! Do, ac fe'in cynaliodd inau yno hefyd-er saled oedd fy nrych.' Yr oedd hyny yn ddigon; wedi i William Lewis agor yr adwy torodd y llifeiriant i mewn, ac aeth y gynnulleidfa trwyddi i waeddi a molianu. Methais byth a chael gwybod pwy oedd y pregethwr. Dywedai Sion William, o'r Bryndu wrthyf ei fod ef yn y cyfarfod, a'i fod yn cyd-deithio yno ac yn ol gyda'm tad-iddynt holi pwy oedd y pregethwr, ac mai yr ateb a gawsent oedd mai Mr. Davies, o'r Deheudir ydoedd; felly digon tebyg mai yr hen efengylwr Mr. Davies, o Abertawy oedd y gwr."

Iachawdwriaeth rad i bechadur colledig, trwy angau iawnol y Cyfryngwr, fu unig destyn gweinidogaeth Mr. Davies o'i dechreu i'w diwedd. Ei hoff awdwyr oedd Henry, Flavel, y ddau Erskine, Boston, a'u cyffelyb. Ni thraddodai gymaint ag un bregeth heb ei bod yn cynwys mer yr efengyl. Er yr addefwn yn rhwydd fod amryw o'i gydoeswyr, a llawer o weinidogion Cymreig yr oes hon, yn medru cyfansoddi a thraddodi pregethau a mwy o ol mawredd meddyliol arnynt nag a nodweddai ei bregethau ef; etto prin y gallwn gredu i unrhyw bregethwr erioed ymddangos mewn un oes na gwlad a fedrasai draddodi gwirioneddau syml yr efengyl yn fwy effeithiol na Mr. David Davies, Abertawy.

Er mai yn ei alluoedd digyffelyb fel pregethwr yr oedd cuddiad cryfder Mr. Davies, etto nid yw heb enwogrwydd yn perthyn iddo fel awdwr. Ei brif waith yw ei Fibl Teuluaidd, gyda sylwadau eglurhaol ar bob penod. Bu farw yr awdwr cyn gorphen y gwaith hwn. Gan Mr. D. Davies, Pantteg, yr ysgrifenwyd y sylwadau ar lyfr y Dadguddiad. Mae hwn yn argraffiad nodedig o hardd a chywir o'r Bibl Cymreig, ac yn cynwys ar odreu y dail ganoedd o sylwadau esboniadol ac ymarferol nodedig o darawiadol a melus. Heblaw anerchiadau at yr eglwysi yn nglyn a hanes cymanfaoedd, marwnadau ar ol amryw gyfeillion ymadawedig, cyfansoddodd Mr. Davies bedwar-ugain-ac-un o emynau Cymreig, ac yn eu plith y mae amryw o'r penillion goreu yn yr iaith. Gan na oddefa ein gofod i ni roi dyfyniadau o'i gyfansoddiadau barddonol, nid oes genym ond cyfeirio y