Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Penfro, ac Aberteifi, a'u bod yn pregethu ddwy waith, ac yn fynych dair gwaith, y dydd, ac na welodd gymaint ag un oedfa trwy yr holl daith heb i Mr. Davies lwyr orchfygu ei wrandawyr, nes y byddai lluaws o honynt yn mhob lle yn aros yn y capel am amser maith i wylo a molianu ar ol y bregeth.

Byddai y bendefiges dduwiol hono, yr Arglwyddes Barham, yn fynych yn gwrandaw ar Mr. Davies, a phob amser y gwrandawai ef nis gallai ymatal rhag wylo yn hidl, er nad oedd yn deall yr un gair a lefarai. Yr oedd dull ei wynebpryd, ysgogiadau ei freichiau, a sain ei lais, yn gadael yr argraff ar feddwl pob un a'i gwelai ac a'i clywai, mai un yn teimlo pwys y genadwri a draddodai ydoedd, a thrwy hyny, gorfodai eraill i deimlo hyd y nod pryd na buasent yn deall yr iaith yn yr hon y llefarai.

Cofnoda y diweddar Mr. James Griffiths, Tyddewi, engraifft gyffelyb. Dywed ei fod ef yn sefyll yn nghanol y dorf yn ymyl boneddiges Seisnig, mewn cymanfa yn sir Benfro, pryd yr oedd Mr. Davies yn pregethu. Yn fuan wedi i'r pregethwr ddechreu trin ei fater, gwelai y dagrau mawrion yn llifo i lawr dros ruddiau y foneddiges, a pharhaodd i wylo drwy y bregeth. Ar y diwedd trodd Mr. Griffiths ati, a gofynai paham yr oedd hi yn wylo, gan nad oedd yn deall iaith y pregethwr. Atebodd, "Pa fodd y gallaswn beidio wylo pan yr oedd pawb o'm hamgylch yn foddfa o ddagrau."

Dywed yr hybarch William Davies, Abergwaun, am ei ddull o bregethu fel y canlyn:-"Y mae genyf gof da am ymweliadau olynol Mr. Davies, Abertawy, a sir Benfro, ac nis gallaf byth anghofio y teimladau dwys a dyfnion a gynyrchai ei hyawdledd digyffelyb yn y torfeydd lluosog a ymdyrent i'w wrandaw i bob lle yr elai iddo. Yr oedd ganddo feddwl treiddgar, dychymyg bywiog, a pharabledd eglur a difloesgni. Meddai lywodraeth nodedig ar ei lais. Pan arweiniai ei wrandawyr i Sinai, taranai allan felldithion y ddeddf yn y fath seiniai dychrynllyd, nes y byddai braidd pob un o'r gynnulleidfa yn teimlo ei hun ar lewygu gan ofn; yna cymerai ei safle ar Galfaria, a desgrifiai ddyoddefiadau Oen Duw dros yr euog, a rhinwedd anfeidrol gwaed y taenelliad, gyda y fath ffrydlif o hyawdledd, ac yn y llais mwyaf perseiniol, nes y buasai ei wrandawyr swynedig braidd yn barod i neidio o lawenydd. Ca y ffaith ganlynol wasanaethu fel engraifft o effaith rhyfeddol ei ddoniau pregethwrol:Byddai cadben llong, yr hwn oedd yn aelod o'm heglwys i yn Abergwaun, yn arfer bob amser y byddai ei long yn Abertawy, fyned i Ebenezer i wrandaw Mr. Davies. Un diwrnod gofynodd i gadben arall, 'A ddeuwch chwi gyda mi i Ebenezer y Sabboth nesaf i wrandaw Mr. Davies, yr wyf yn sicr y gwna i chwi wylo? 'Gwneyd i mi wylo,' ebe hwnw gyda rheg, 'nid oes un pregethwr yn y byd a wna i mi wylo.' Pa fodd bynag, addawodd fyned. Bore y Sabboth a ddaeth, ac ar ddechreu yr oedfa cymerodd y ddau gadben eu safle yn ngwyneb yr oriel gyferbyn a'r areithfa. Edrychai y cadben annuwiol ar y dechreu yn ngwyneb y pregethwr gyda thalcen presaidd, fel pe buasai yn penderfynu herio pob peth a ddywedasai. Ond pan ddechreuodd meistr y gynnulleidfa dwymo, aeth y morwr gwynebbresaidd yn raddol i ostwng ei ben, ac yn hir cyn fod y bregeth drosodd yr oedd yn wylo fel plentyn."

Mae yr hanesyn a ganlyn o hanes bywyd ei dad gan Dr. W. Rees, Liverpool, yn ddiamheuol yn cyfeirio at Mr. Davies, ac yn deilwng o'i