Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ngwasanaeth y cyhoedd, heb dderbyn ond y peth nesaf i ddim am ei lafur, yr ydym yn sicr y tarawsid pob darllenydd a syndod. Dyn cyhoeddus ydoedd yn holl ystyr yr ymadrodd. Bu fyw a marw yn ngwasanaeth y cyhoedd.

Dyn o faint canolig, o gyfansoddiad corphorol lluniaidd a chadarn, o wynebpryd nodedig o hardd, ac o edrychiad treiddgar a siriol oedd Mr. David Davies. Yr oedd ei gyfansoddiad corphorol, ei wynebpryd, a'i lais, yn gystal a'i alluoedd meddyliol, a'i dduwioldeb, oll wedi cydgyfarfod i'w wneyd yn un o'r pregethwyr mwyaf effeithiol a phoblogaidd a esgynodd erioed i areithfa. Er holi degau o hen bobl a'i had waenent yn dda, ac a gawsant gyfle i'w wrandaw yn fynych yn ei ddyddiau goreu, yr ydym wedi y cwbl yn fyr o gael darluniad cyflawn a boddhaol o hono fel pregethwr. Pan ofynem i hwn a'r llall, pa fath bregethwr oedd Mr. Davies, Abertawy, atebent gan godi eu dwylaw mewn syndod, mai y pregethw: rhyfeddaf a mwyaf effeithiol a glywsent erioed ydoedd. Nid ydym etto wedi cyfarfod a neb a roddodd i ni ddarluniad celfydd, cryno, a phwrpasol o'i ragoriaethau a'i neillduolion fel un o brif bregethwyr ei oes. Ymddengys fod ei ymddangosiad, pan yn cyfodi mewn areithfa, neu ar esgynlawr, yn nodedig o darawiadol. Byddai ef bob amser, yn y cymanfaoedd, a'r cyfarfodydd cyhoeddus eraill, yn pregethu yn ddiweddaf o dri yn yr oedfa ddeg o'r gloch. Gan nad pa mor rhagorol fuasai y ddau bregethwr blaenorol, deg i un na fuasai llawer o'r dorf yn eistedd ar y cae, neu yn lled orwedd ar ochreu y cloddiau; ond can gynted ag y gwnai Mr. Davies ei ymddangosiad ar yr esgynlawr, cyfodai pawb, ac ymwasgent yn mlaen hyd y gallent; a byddai pob llygaid a chlust yn y dorf fawr yn hoeliedig ar unwaith, ac yn ymddangos yn awyddus i ddal ar bob gair, ac i graffu ar bob ysgogiad o eiddo y pregethwr. Cerddai ei lais fel gwefr trwy yr holl gynnulleidfa wrth ei fod yn rhoddi penill allan i'w ganu, er na fyddai ond yn unig yn parablu mewn cywair hollol naturiol, heb roddi un math o don i'w lais. Darllenai ei destyn yn araf, ond yn ddigon uchel i ddeng mil o bobl i'w glywed yn eglur. Ar ol rhagymadroddi mewn ychydig o ymadroddion tarawiadol, a hollol berthynasol i'w destyn, rhanai ei bregeth i ddau neu dri o benau a changenau. Byddai ganddo rhyw hanes ysgrythyrol, ymresymiad eglur, cymhariaeth, neu hanesyn (anecdote) i egluro pob pen a changen o'i bregeth; ac fel y byddai yn myned rhagddo, byddai ei faterion a'i lais yn myned fwy fwy effeithiol, nes y byddai ei holl wrandawyr yn hir cyn y gorphenai lefaru wedi eu llwyr orchfygu. Yr oedd yn wahanol braidd i bob pregethwr arall; pa uwchaf y dyrchafai ei lais, pereiddiaf oll fyddai. Llefarai yn yr awyr agored, ar ddiwrnod tawel, yn ddigon uchel i fod yn glywedig am ddwy a thair milldir o bellder. Na thybied neb wrth ein bod yn son cymaint am effeithiolrwydd ei lais, mai mewn "pwff o lais" yn unig yr oedd ei ragoriaeth fel pregethwr yn gynwysedig. Yr oedd ei bregethau oll, fel y nodasom eisioes, wedi eu cyfansoddi yn drefnus, ac yn cynwys cronfa o feddyliau tarawiadol, nodedig o gyfaddas i oleuo deall a chyffroi cydwybodau ei wrandawyr, a'r meddyliau hyny yn cael eu cario adref i'r galon gan agwedd swynol y pregethwr, a llais anorchfygol o effeithiol. Yn absenoldeb desgrifiad gwell, dichon i'r hanesion canlynol roddi rhyw ddrychfeddwl i'r darllenydd am ragoriaeth Mr. Davies fel pregethwr. Dywedai y diweddar Mr. Daniel Jones, o'r Aber, withym, iddo ef fod gydag ef tua thriugain mlynedd yn ol am daith bregethwrol o dair wythn, trwy ranau o siroedd Caerfyrddin,