Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn Llundain, Deptford, ac Woolwich. Yn ystod y pedwar mis hyny, treuliai bob dydd o'r wythnos fel myfyriwr yn athrofa Hackney, a'r Sabbothau i bregethu i'w gydgenedl. I'w lafur hunanymwadol ef yn flaenaf a phenaf o bawb yr ydys i briodoli dechreuad yr achosion Annibynol Cymreig yn Llundain, a'r trefydd cymydogaethol.. Nid yn unig am y Cymry yn Nghymru ac yn Lloegr y gofalai ef; ond teimlai hefyd yn ddwys dros y Saeson yn Nghymru. Fel y crybwyllasom eisioes, trwy ei ymdrechion ef yn benaf y dechreuwyd yr achosion Seisnig yn Heolycastell, Abertawy, a Chapel Rhagluniaeth yn Mrowyr. Nid digon i'w enaid eang ef oedd gwneyd daioni i breswylwyr ei wlad ei hun, ond teimlai hefyd dros y byd yn gyffredinol. Yfodd yr ysbryd cenhadol gyda y cyntaf yn Nghymru. Yn ei gapel ef yn Abertawy, ar yr wythnos gyntaf o Awst, 1814, y cynhaliwyd y cyfarfod cenhadol cyntaf a gynaliwyd yn y Dywysogaeth. Yr oedd yr enwog Mathew Wilks, Mr. Tracy, ysgrifenydd Cymdeithas Genhadol Llundain, ac eraill o weinidogion Lloegr, yn nghyd a'r rhan fwyaf o weinidogion Deheudir Cymru, yn y cyfarfod bythgofus hwnw. Casglwyd yn siroedd y Deheudir at y genhadaeth y flwyddyn hono bum' cant o bunau; ac o'r swm hwnw yr oedd triugain punt a deg a dwy geiniog wedi eu cyfranu gan bobl Mr. Davies ei hun yn Abertawy a'r Ysgetty. Bu ar hyd a lled y wlad yn areithio dros yr achos cenhadol. Dywed y Parch. D. Griffiths, gynt o Madagascar, mai wrth wrandaw Mr. Davies, Abertawy, yn traddodi araeth genhadol, y cyffrowyd ei feddwl ef gyntaf i benderfynu myned yn genhadwr i fysg y paganiaid.

Treuliodd Mr. Davies ei holl fywyd i wasanaethu ei genedl a'r enwad y perthynai iddo. Teithiodd beth dirfawr trwy Gymru a Lloegr i gasglu at yr amrywiol addoldai a adeiladwyd ganddo; a thrwy ei ymddyddanion, ei areithiau, a'i ysgrifeniadau, cymhellai yr eglwysi o bryd i bryd i ymdrechion egniol er helaethiad terfynau yr achos. Yn y flwyddyn 1815, cyfansoddodd anerchiad cyffrous, yr hwn a gyhoeddwyd gyda hanes cymanfa y Mynyddbach, yn yr hwn yr anoga yr holl eglwysi trwy Dde a Gogledd i gasglu trysorfa at dalu dyledion yr addoldai, cyfodi addoldai newyddion, a chynal yr athrofeydd yn fwy effeithiol. Yn yr anerchiad cyffrous hwn dywed mai nifer eglwysi yr Annibynwyr yn Nghymru y flwyddyn hono oedd 240, yn cynwys 23,600 o aelodau; a dengys y gallasai y nifer hwnw o bersonau yn rhwydd gyfodi 4,250p. y flwyddyn at drysorfa enwadol i'r dybenion rhag-grybwylledig. Y cynllun a gynygia ydyw fod i 2,000 o'r aelodau goreu eu hamgylchiadau i gyfranu deg swllt y flwyddyn; 8,000 o rai is eu hamgylchiadau i roddi pum' swllt y flwyddyn; 10,000 o weithwyr, gwasanaethyddion, &c., i roddi dau swllt a chwe' cheiniog y flwyddyn. Yn y modd hwn gwnelid i fyny y swm gofynedig, sef 4,250p., gan adael 3,600 o gyfanswm yr aelodau fel rhai rhy dlawd i gyfranu dim. Gan fod Mr. Davies yn dechreu gwaelu yn ei iechyd, ac iddo farw cyn pen blwyddyn a haner o'r pryd y cynygiodd y cynllun hwn i sylw yr eglwysi, aeth y cwbl i'r dim, gan nad oedd un arall o'i frodyr yn y weinidogaeth yn meddu digon o ddylanwad a phenderfyniad i weithio y cynllun allan. Diau pe cawsai Mr. Davies fywyd ac iechyd, na buasai yn gorphwys nes cyrhaedd yr amcan. Nid oedd unrhyw beth rhesymol a phosibl nad oedd ganddo ddigon o ddylanwad a doniau i gyffroi a thoddi pob dyn crefyddol i ymestyn at ei gyflawni. Pe buasai genym gofnodion manwl o'r symiau a gasglodd at gapeli, y genhadaeth, ac achosion crefyddol eraill, nifer y pregethau a draddododd, a'r milldiroedd a deithiodd yn