Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sefyllfa hon; o herwydd hyny, yr ydym yn cael yr Annibynwyr a'r Presbyteriaid yr enwad dysgedicaf a mwyaf dylanwadol o Ymneillduwyr Cymru-o 1750, hyd yn agos i ddiwedd y ddeunawfed ganrif, yn hytrach yn colli nag yn ennill tir. Dyma sefyllfa pethau pan y dechreuodd Mr. David Davies ei weinidogaeth. Er yr holl anfanteision y llafuriai ef danynt, o ddiffyg addysg foreuol a sefyllfa uchel o ran meddianau bydol, trwy ei dduwioldeb, ei ddoniau anghydmarol, a'i lafur dibaid, gweithiodd ei ffordd i sylw, a daeth yn fuan y pregethwr mwyaf poblogaidd trwy yr holl wlad; rhoddodd yr holl weinidogion Calfinaidd, er cymaint eu sel dros ddysg a ffurfiau, eu dylanwad o'i blaid, a chyfododd o'i amgylch, cyn pen deuddeng mlynedd wedi ei urddiad, nifer o weinidogion ieuainge doniol, talentog, a gweithgar, hollol o'r un ysbryd ag ef ei hun, megis Morgan Jones, Trelech; Griffith Hughes, Groeswen; David Davies, Sardis; John Bowen, Saron; Dr. Thomas Phillips, Neuaddlwyd; Methuselah Jones, Merthyr Trydfil; Azariah Shadrach, Aberystwyth; Daniel Evans, Mynyddbach, &c. Ystyrid Mr. Davies fel blaenor y llu gobeithiol hwn; cynhyrfasant y wlad o gwr i gwr; adfywiwyd llawer o'r hen eglwysi oedd yn barod i farw; ymranodd y Calfiniaid a'r Arminiaid oddiwrth eu gilydd; dyddymwyd y blaid ganol, a gorfodwyd y duwinyddion nacaol i ddewis eu pleidiau; ac felly iachawyd yr awyrgylch foesol. O'r pryd hwnw hyd yn awr y mae yr enwad Annibynol wedi parhau yn ddiatal i ychwanegu nerth yn Nghymru. Trwy weinidogeth danllyd a dylanwad Mr. David Davies yn benaf, fel moddion yn llaw Duw, y dygwyd y chwyldroad pwysig hwn oddiamgylch. Tra y byddo Annibyniaeth yn fendith i Gymru, bydd y genedl dan rwymedigaeth i Mr. Davies, fel y prif offeryn a ddefnyddiodd Duw i roddi iechyd a bywyd newydd yn yr achos.

Ar ol llafurio yn Llangeler, y Neuaddiwyd, a'r Gwernogle am bum' mlynedd, gyda llwyddiant ac arddeliad anghyffredin, derbyniodd Mr. Davies alwad unfrydol oddiwrth yr eglwysi yn y Mynyddbach a'r Ysgetty, gerllaw Abertawy, i ddyfod yn ganlyniedydd i'r hybarch Lewis Rees.

Dichon na ddarfu i un gweinidog erioed yn Nghymru, nac un wlad arall, lafurio yn fwy diwyd oddicartref, yn gystal a chartref gydag achos ei Feistr mawr na Mr. David Davies. Teithiodd amryw weithiau trwy Dde a Gogledd Cymru, gan bregethu i dorfeydd lluosog ddwy a thair gwaith y dydd tra byddai ar ei deithiau. Bu yn foddion i adfywio amryw achosion oedd ar fin trancedigaeth mewn llawer o ardaloedd, ac i gychwyn achosion newyddion mewn ardaloedd eraill. Yn mysg yr achosion newyddion a ddechreuwyd ganddo, gellir enwi heblaw, Abertawy, Llanon, a Phenbre, yn sir Gaerfyrddin; Clydach, Capel Rhagluniaeth, Heolycastell, Abertawy, a rhai lleoedd eraill yn Morganwg. Cyfododd amryw wyr ieuaingc doniol a defnyddiol i'r weinidogaeth yn ei eglwysi; megis John Bowen, a Thomas Jones, Saron; David Davies, Sardis; Methuselah Jones, Merthyr; Thomas Jones, Lambeth; David Williams, Llanfairmuallt; David Jones, Taihirion; David Davies, ei fab hynaf; y Cadben Richards, &c. Cymaint oedd ei ysbryd cyhoeddus, fel yr ymroddai i ledaenu terfynau yr achos yn mhob man y medrai estyn ei ddylanwad iddo. blynyddau wedi ei sefydliad yn y Mynyddbach, gadawodd ei deulu a'i eglwysi, ac aeth i Lundain, lle yr arosodd am bedwar mis, i'r dybenion o berffeithio ei wybodaeth o'r iaith Seisnig, a phregethu yr efengyl i'r Cymry