Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weinidog iddynt yn y flwyddyn 1790. Yn anffodus, nid yw y dydd, y mis, nac enwau y gweinidogion a gymerasant ran yn ngwaith yr urddiad, wedi eu cofnodi mewn nac argraff nac ysgrifen, hyd y gwyddom ni.

Cyn pen dwy flynedd wedi ei urddiad, aeth y gynnulleidfa yn rhy luosog i addoldy bychan y Drefach i'w chynwys, fel y penderfynwyd adeiladu addoldy helaethach mewn man mwy canolog o'r ardal. Y man a ddewiswyd oedd ymyl y ffordd o Gastellnewydd i Gaerfyrddin, ychydig uwchlaw pentref Llangeler. Adeiladwyd yr addoldy yno yn y flwyddyn 1792, a galwyd ei enw Saron. Talwyd am yr addoldy newydd ar unwaith, a gorlanwyd ef o aelodau a gwrandawyr. Ni chyfyngai Mr. Davies ei lafur gweinidogaethol i ardal Llangeler, ond cymerodd hefyd ofal yr eglwysi yn y Neuaddlwyd, sir Aberteifi, a'r Gwernogle, sir Gaerfyrddin. Pregethai un Sabboth yn y mis yn mhob un o'r lleoedd hyn, a bu ei weinidogaeth yn foddion i roddi bywyd newydd i'r achos yn y ddau le, fel y daethant yn fuan o fod yn gynnulleidfaoedd bychain, marwaidd, a digalon i fod yn eglwysi lluosog, bywiog, a blodeuog.

Darfu i weinidogaeth seraphaidd Mr. Davies effeithio daioni annirnadwy, nid yn unig yn yr eglwysi oeddynt yn uniongyrchol dan ei ofal ef, ond hefyd trwy holl oglwysi yr enwad y perthynai iddo. Rhoddodd ei ysbryd bywiog, a'i ddull tanllyd o bregethu, dôn newydd i'r weinidogaeth yn mysg yr Annibynwyr trwy Gymru, ac effeithiodd y chwyldroad mwyaf bendithiol a thrwyadl trwy yr holl enwad. Wedi marwolaeth yr Anghydffurfwyr a'u holynwyr uniongyrchol, ni chyfododd nemawr o bregethwyr tanllyd a diwygwyr selog yn mysg yr Annibynwyr Cymreig, nes i Mr. Davies ymddangos fel seraph llawn o dân yn Llangeler. Mae yn wir fod Isaac Price, o Lanwrtyd, ac ychydig eraill o ddynion gwresog, wedi ymddangos ar y maes tua deugain mlynedd o'i flaen ef; ond nid ymddengys fod eu talentau na'u doniau y fath ag i'w galluogi i ddylanwadu yn rymus ar y wlad yn gyffredinol. Yr oedd gweinidogion yr Annibynwyr a'r Presbyteriaid yn Nghymru yn y ddeunawfed ganrif yn gorph ddynion dysgedig a pharchus iawn; a rhyw ddau neu dri, mwy neu Îai, o deuluoedd cyfrifol a chyfoethog yn perthyn i bob un o'u cynnulleidfaoedd; ond yr oeddynt agos oll yn amddifad o gymhwysderau hanfodol pregethwyr poblogaidd ; ac nid oedd sefyllfa yr eglwysi o ran eu teimladau tuag at eu gilydd, a'u golygiadau athrawiaethol, yn unwedd yn ddymunol a gobeithiol o 1750 i 1790. Gellid rhanu gweinidogion y cyfnod hwnw i dri dosbarth, sef y Calfiniaid selog, yr Arminiaid cyhoeddus, yn nghyd a phlaid ganol, y rhai a gelent eu golygiadau ar y pyngciau mewn dadl rhwng y pleidiau eraill, ac a ymdrechant sefyll fel cyfryngwyr rhyngddynt, i'w cadw rhag ymrwygo a myned yn ddau enwad gwahanol. Ychydig neu ddim efengyl a bregethid gan y blaid Arminaidd, ond safent braidd yn hollol ar ddyledswyddau moesol, gan eu gwasgu at feddyliau eu gwrandawyr ag anogaethau deddfol. O'r tu arall, traddodi pregethau neu ddarlithiau ymresymiadol a meithion ar y naill neu y llall o'r "pum' pwngc," gan ergydio yn ddiarbed ar yr Arminiaid, yn lle troi min eu gweinidogaeth at gydwybodau eu gwrandawyr, y byddai y blaid Galfinaidd agos yn hollol. Tra mai "heddwch ar unrhyw bris" oedd arwyddair y blaid ganol. Math o dduwinyddion nacaol oeddynt; pa beth bynag oedd eu golygiadau athrawiaethol, yr oedd eu dyfais (policy) i gadw y pleidiau eraill yn un enwad yn eu rhwymo i beidio eu pregethu yn gyhoeddus. Nis gallesid disgwyl i grefydd lwyddo tra yr oedd pethau yn y