Tudalen:Hanes eglwysi annibynol Cymru Cyf 2.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

coleddu Arminiaeth neu Belagiaeth, yn blaid wahanol oddiwrth yr Annibynwyr. Byddai y gweinidogion yn gyffredin yn newid pulpudau a'u gilydd, ac yn cydgynal cyfarfodydd urddiadau, cymanfaoedd, &c. Yr oedd ychydig o'r gweinidogion a'r cynnulleidfaoedd mwyaf selog dros Galfiniaeth yn dechreu sefyll draw oddiwrth y rhai a gyfrifid yn Arminiaid; ond yr oedd mwyafrif y gweinidogion a'r eglwysi mwyaf dylanwadol, yn dawel i bethau fod fel yr oeddynt, ac yn hytrach yn beio y rhai a ddywedasent neu a wnaethent unrhyw beth a dueddasai i oeri y Calfiniaid a'r Arminiaid at eu gilydd. Dichon, gan hyny, i ymadawiad Mr. Davies a'r Arminiaid yn Mhenrhiw, a'i ymuniad a'r Calfiniaid yn Mhencadair, fod yn foddion i beri i rai gweinidogion edrych gyda gradd o wg a drwgdybiaeth arno. Hefyd, nid oedd wedi derbyn addysg athrofaol, yr hyn a ystyrid y pryd hwnw gan y gweinidogion Ymneillduol, yn Galfniaid yn gystal ag Arminiaid, fel peth o bwys hanfodol braidd er addasu dyn ieuangc i dderbyn urddau. Edrychai yr hen Annibynwyr a'r Presbyteriaid ar y Trefnyddion Calfinaidd a'r Bedyddwyr gyda gradd o ddiystyrwch a dirmyg, o herwydd eu hod yn gollwng cynifer o ddynion annysgedig, fel y galwent hwy, i'w pulpudau. Yr oedd ychydig ddynion mwy talentog na'r cyffredin wedi eu hurddo yn mysg yr Annibynwyr yn y ddeunawfed ganrif, y rhai ni dderbyniasant addysg athrofaol, megis Morgan Jones, Pentretygwyn; Jonathan Jones, Rhydybont; John Davies, Alltwen, &c.; ond ychydig o rif oeddynt, a chyfrifid mai rhyw fraint fawr iddynt oedd cael gweinidogion i ymostwng i'w hurddo. Carid y teimlad hwn lawer yn rhy bell, a rhoddid y blaen i addysg athrofaol ar dalent naturiol. Gall talent gref wneyd gweinidog da heb addysg reolaidd; ond ni wna yr addysg oreu weinidog da byth heb dulent. Peth cyffredin yw i un eithafion greu y llall. Yr oedd y Trefnyddion a'r Bedyddwyr yn y dyddiau hyny yn gollwng llawer o ddynion hollol amddifad o dalent ac addysg i fyned o gylch y wlad yn y cymeriad o bregethwyr. Gyrai hyny yr Annibynwyr a'r Presbyteriaid, y rhai oeddynt ddiarhebol o selog dros weinidogaeth ddysgedig, i'r eithafion o wrthwynebu derbyniad dynion o gymhwysderau da i'r weinidogaeth, heb iddynt yn gyntaf fyned trwy gwrs o addysg athrofaol. Darfu i'r teimlad hwn yn mysg y gweinidogion, a rhai o brif aelodau yr eglwysi, yru llawer o wyr ieuaingc fuasent yn addurn i'r enwad, at enwadau eraill. Dichon fod y rhesymau hyn, yn nghyd a'r ffaith ei fod wedi cymeryd arno ofal teulu mor ieuangc, yn ddigon i gyfrif paham na buasai Mr. Davies yn cael ei urddo yn gynt.

Yr oedd Mr. John Lewis, gweinidog y Drefach, yn Calfiniad selog dros ben; ond nid oedd yn unwedd yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Yr oedd naill ai diffyg doniau, synwyr cyffredin, neu ddigon o weithgarwch, yn peri fod ei weinidogaeth yn hollol ddilwydd. Nid oedd ond deuddeg o aelodau yn ei eglwys pan y penderfynwyd rhoddi galwad i David Davies i ddyfod yn gydweinidog ag ef, a'r deuddeg hyny ar fedr rhoddi y lle i fyny, ac ymuno ag eglwysi eraill. Pan ddechreuodd Mr. Davies ymweled a hwy, adfywiodd yr achos, o lluosogodd y gwrandawyr a'r aelodau. Wedi cyduno i roddi galwad i'r gwr ieuangc, aeth dau o'r aelodau i gyfarfod gweinidogion a gynelid yn Penygroes, sir Benfro, i ofyn eu cymeradwyaeth a'u presenoldeb yn yr urddiad. Dywedir wrthym iddynt fyned yno "i wneyd cais gostyngedig" at y gweinidogion, yr hyn a ddengys eu bod yn ofni na chawsai eu cais ei ganiatau iddynt. Pa fodd bynag, fe ganiatawyd eu cais iddynt, a chafodd Mr. Davies ei urddo yn